Cost of Living Support Icon

Rhandiroedd 

Gall pawb sy’n byw yn y Fro wneud cais i logi llain ar y rhandiroedd sy’n cael eu cynnal gan y Cyngor

 

Gallwch chi ddefnyddio’r llain i dyfu llysiau neu flodau ac i gadw ieir (ond nid ceiliogod) ac anifeiliaid eraill yn amodol ar gyfyngiadau. Os yw hi’n fwriad gennych gadw anifeiliaid ar y llain, rhaid i chi gysylltu â ni i gael caniatâd i wneud.

 

Rydyn ni’n archwilio’r rhandiroedd yn rheolaidd. Os oes problem dros gyfnod gyda chynhaliaeth llain, gellid gweithredu proses droi allan, a all gymryd hyd at dri mis.

 

Noder: mae rhestr aros am randir. Cysylltwch â ni parthed safle penodol, a fwy na thebyg y byddwn yn medru rhoi syniad i chi am ba hyd y byddwch yn gorfod aros.  

 

Lleiniau rhandiroedd

Maint y rhan fwyaf o leiniau yw 250 llathen sgwâr. Os yw hyn yn ormod o faint i chi, gallwch chi wneud cais am hanner llain i’w rannu â rhywun arall (sy’n golygu haneru’r ffi hefyd).

 

  • Y Barri / Y Rhws (1 perc*): £11.20

  • Y Bont-faen (1 perc*): £14.00

 

Cynigir lleiniau ar sail yr hyn a welwyd.

 

Noder: Mae cyfraddau safle Heol Aberthin yn y Bont-faen yn amrywio am resymau hanesyddol.

 

* 1 perc = 25.29m2

   

 

 

Dweud wrthon ni am broblem

Os ydych chi’n amau nad yw llain yn cael ei chynnal yn gywir, neu i ddweud wrthon ni am unrhyw broblem arall, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein: 

 

Dweud wrthon ni am broblem gyda rhandir 

Talu ar-lein

Gallwch chi dalu rhent am eich rhandir ar-lein. Gallwch dalu biliau’r cyngor gyda’r mathau yma o gardiau credyd / debyd: Visa, Mastercard, Visa Delta, Visa Electron a Maestro. 

 

Nodwch er mwyn talu am eich rhandir ar-lein mae angen dewis 'incwm arall' o'r ddewislen.

 

Talu rhent rhandir ar-lein