Cost of Living Support Icon

New Art Central LogoOriel Celf Ganolog 

Neuadd y Dref, Sgwâr y Brenin, Y Barri CF63 4RW (Mynediad drwy lyfrgell y sir)

 

Lleolir oriel Celf Ganolog, gofod arddangos clodfawr y Fro, yng nghanol y sir. Mae’n lle godidog i arddangos ynddo, i ymweld ag e ac i werthfawrogi celf ynddo.

 

Mae oriel Celf Ganolog yn ofod golau, hyblyg a chroesawgar  Mae rhaglen Celf Ganolog yn cynnwys arddangosfeydd amrywiol gan artistiaid, grwpiau cymunedol, ac arddangosfeydd amlwg a theithiol. Mynediad AM DDIM. 

 

 

Cysylltiad Rhwng Dwy, Angela Kingston a Sasha Kingston

Dydd Sadwrn 20 Ebrill - 18 Mai 2024

Digwyddiad Agoriadol: Dydd Sadwrn 20 Ebrill 11am-1pm

 

Mae A Link Between Two, yn arddangosfa gydweithredol rhwng Angela Kingston a Sasha Kingston. Mae'r sioe mam a merch hon yn dathlu gwaith y ddau artist adnabyddus yma o'r Fro.  Mae gan bob un ei harddull unigryw ei hun, ond fel eu perthynas, mae gan y gweithiau celf debygrwydd agos sy'n siarad yn naturiol â'i gilydd.

 

Mae Plants and Their Place gan Angela Kingston yn seiliedig ar amgylchoedd yr artist. Mae gwaith haniaethol, darluniadol a cherfluniol Angela, yn adlewyrchu ei diddordeb yn y byd naturiol ac addfwynder byd natur. Ers Cyfnod Clo 2020, yr ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd a'r canopi gwyrdd, dechreuodd Angela gyfres newydd o waith. Astudio'r coed a'r blodau yn ei gardd, y traeth lleol Col Col-huw, Llanilltud Fawr yw rhai o hoff lefydd yr artist, blodau 'Cofio' Ffrainc, ar batio Sbaenaidd, a Ninfariwm Aberglesni sydd dros amser wedi mynd â hi ar daith newydd.

 

Trwy gyfrwng darlunio, peintio, ysgrifennu, collage, a gosodwaith, gan ddefnyddio'r casgliadau gardd, mae hi wedi chwilio am hanfod y pwnc i haniaethol, gan fynd ymlaen trwy ddileu ac yn fwyaf diweddar defnyddio collage i fynegi'r elfennau hanfodol sy'n creu eu lle eu hun.

 

Mae ysbrydoliaeth naturiol wedi cynnwys ffosilau a geir mewn glo, marciau traeth ffosilau, cregyn, llwybrau malwod a gwymonau, symbolau cudd amser, wedi'u tynnu a'u gosod yn reddfol ar yr wyneb wedi'i ddarlunio a'i beintio. Wedi'i hysbrydoli gan ei hamgylchedd, beth sy’n tyfu ble, ym myd natur a llefydd newydd, mae'n creu proses barhaus diddiwedd.

 

Astudiodd Sasha Kingston MA mewn Tecstilau Adeiledig yn y Coleg Celf Brenhinol, Llundain. Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae ei gwaith wedi cael ei ysbrydoli gan farciau wedi'u darlunio, gan amrywio'r cyfrwng yn reddfol. Mae ei chariad arbennig at bapur yn caniatáu i Sasha ddatblygu'r rhinweddau gweledol a chyffyrddol hardd yn ei gwaith.

 

Gan ddatblygu ei syniadau drwy ffotograffiaeth a darluniadau, mae Sasha wedi'i hysbrydoli gan y Dirwedd Arfordirol leol, Bywyd Planhigion ac yn fwyaf diweddar sŵn traed. Mae'r olaf wedi arwain at gorff newydd o waith yn archwilio'r lliwiau monocromatig a'r olion llinellol sy'n dal ei thaith fyfyriol o batrymau a ffurfiannau naturiol.

 

Mae strwythurau crog ysbrydoledig dau a thri dimensiwn wedi’u goleuo a’u gwneud o bapur gan Sasha, yn cyfuno peintio, printio, gwaith graffit a phwytho, sy'n creu rhinweddau gweledol a chyffyrddol hardd, gan ysgogi'r dychymyg. 

 

Dewch i ymgolli ym myd natur ac ymweld â'r cyfuniad cain hwn o waith gan y ddau artist toreithiog hyn o Kingston.

 

 

 

A Link Between Two Poster

 

Arddangos yn Oriel 

Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos eich gwaith neu gynnal gweithdai neu ddigwyddiadau yn oriel Celf Ganolog, llenwch ein ffurflen ar-lein: 

Ffurflen Gais Arddangos

 

Nodwch: Mae’r broses geisio’n un gystadleuol ac ni fydd pob cais yn llwyddiannus.

 

Gwirfoddoli 

Oes gennych ddiddordeb yn y celfyddydau? Mae Oriel Celf Ganolog yn chwilio am wirfoddolwyr. Byddai angen i wirfoddolwyr gynorthwyo ymwelwyr a’r Swyddog Datblygu’r Celfyddydau 

 

 

Crefftau yn Oriel 

Mae amrywiaeth o grefftwaith cyfoes ar werth yn oriel Celf Ganolog gan artistiaid o Gymru ac artistiaid rhyngwladol. Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos a gwerthu eich gwaith celf yn yr oriel, bydd angen i chi ddarparu manylion a lluniau o’ch gwaith ynghyd â CV a/neu lythyr eglurhaol.