Cost of Living Support Icon

Arts_ConnectProsiectau Cyswllt Celf

Dewch o hyd i’r amrywiaeth eang a chyffrous o brosiectau y mae Cyswllt Celf yn rhan ohonynt 

 

Ceir amrywiaeth o brosiectau i bobl gymryd rhan ynddynt. Ymhlith y pynciau mae:

  • Ysgrifennu
  • Ffotograffiaeth
  • Cerddoriaeth 
  • Ffilm a Theledu
  • Sglefrfyrddio 
  • Dawnsio
  • Sgiliau Syrcas 

 

Young Writers Squads

Sgwadiau Sgwennu i Bobl Ifanc

Mae Sgwadiau Sgwennu i Bobl Ifanc yn ceisio dod o hyd i ysgrifenwyr ifanc talentog – sy’n ysgrifennu’n Saesneg ac yn Gymraeg – ym mhob rhanbarth awdurdod lleol a’u cyflwyno nhw i rai o ysgrifenwyr ac addysgwyr ysgrifennu mwyaf blaenllaw Cymru.

 

Mae’r Sgwadiau Sgwennu wedi’u datblygu dros y degawd diwethaf gan Lenyddiaeth Cymru ar y cyd ag awdurdodau lleol yng Nghymru. 

 

Sgwadiau Sgwennu
Photography Workshop

Bod yn Greadigol Weithredol

Yn rhan o'r Prosiect Bod yn Greadigol Weithredol, gweithiodd y pedwar Awdurdod Lleol ochr yn ochr â gwasanaethau cymdeithasol i gyflwyno cyfres o weithdai ffotograffiaeth addysgol i bobl ifanc mewn gofal.

 

Ochr yn ochr â’r gweithdai ffotograffiaeth, gweithiodd Cyswllt Celf â’r Triawd ‘Triptych’, sef band tri pherson yn cynnwys Sielydd, Pianydd a chanwr, i drefnu cyfres o ymweliadau â Chartrefi Gofal yn y pedwar rhanbarth. Maent yn gweithio ochr yn ochr ag artist atgofion, a fydd yn defnyddio cerddoriaeth i sbarduno atgofion a dod â llawenydd i oedolion â demensia. 

Sonig Youth Music Industry Program

Rhaglen Diwydiant Cerddoriaeth Ieuenctid SONIG

Mae’r rhaglen SONIG yn unigryw yng Nghymru, gan ei bod yn defnyddio cryfderau’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru i gefnogi anghenion personol, anghenion dysgu ac anghenion datblygu gyrfa pobl ifanc rhwng 8 a 25 oed a chanddynt amrywiol ddyheadau, sgiliau a chefndiroedd, sy’n byw yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae’r rhaglen hefyd yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc o Ferthyr Tudful a Bro Morgannwg.

 

Mae ein rhaglen gyfoethog ac amrywiol yn galluogi pobl ifanc i greu cerddoriaeth wreiddiol, rhoi cynnig ar gerddoriaeth roc a cherddoriaeth boblogaidd a dysgu am y diwydiant cerddoriaeth a’r diwydiannau creadigol a chael mynediad atynt. Rydym hefyd yn cefnogi datblygiad parhaus unigolion a bandiau, ac rydym eisoes yn rhan o’r byd cerddoriaeth lleol drwy gynnal gweithdai, digwyddiadau, seminarau diwydiant cerddoriaeth, cyrsiau a chyfleoedd rhwydweithio, yn ogystal â darparu sesiynau mentora ac arweiniad unigol i bobl ifanc yn ymwneud â cherddoriaeth, gan ddarparu llwybrau gyrfaol a chyfleoedd cyfeirio at eu meysydd dewisedig. 

Young Promoters Network

Y Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc

Mae’r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc yn cynnwys pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sy’n byw yn ardaloedd Cyswllt Celf, a chanddynt uchelgais i drefnu digwyddiadau cerddoriaeth fyw a hyrwyddo artistiaid ifanc sy’n dod i’r amlwg yn rhan o’r broses honno.

 

Prif amcanion y RhHI yw grymuso pobl ifanc, drwy ddarparu set newydd o sgiliau iddynt; magu eu hyder; yn ogystal â chynyddu cyfleoedd o fewn y sector cerddoriaeth fyw. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu beth sydd ei angen i ddilyn gyrfa o fewn y maes hwn o’r Diwydiannau Creadigol, a hynny o safbwynt ymarferol.

 

Mae’r prosiect wedi’i ddilysnodi fel arloesol a chydweithredol o ran ei natur; ni cheir unrhyw fodel tebyg sy’n targedu pobl ifanc yng Nghymru.  Mae brwdfrydedd a rhyngweithio’r bobl ifanc wedi annog ei dwf. Mae’r prosiect yn greadigol ac yn ymatebol i’w ardal leol – sydd yn ei dro yn cyfrannu at dwf y diwydiant cerddoriaeth yn Ne Cymru.

 

Mae’r prosiect yn rhoi mwy o sgiliau i bobl ifanc ac yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy i unigolion; mae’n darparu llwyfannau ar gyfer talent ifanc sy’n dod i’r amlwg; ac mae’n annog cyfleoedd rhwydweithio ar draws y rhanbarth

 

Y Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc

It's My Shout LogoIt's My Shout

Mae Cyswllt Celf yn cyfrannu cyllid ar gyfer y fenter hynod boblogaidd ‘It's My Shout’, sy’n cynhyrchu cyfres o ffilmiau byrion bob blwyddyn ar gyfer y teledu a’r sgrin fawr.  Mae’n cynnig hyfforddiant ymarferol amhrisiadwy i bobl ifanc a dechreuwyr ac yn rhoi cyfle iddynt weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.

 

Ceir nifer o swyddi mewn gwahanol adrannau ar gael i bobl ifanc a rhai sy’n dechrau yn y diwydiant lle cewch eich arwain gan weithiwr proffesiynol, er enghraifft, gwaith camera, gwaith sain, gweithio ar leoliadau, rhedwyr, cynorthwywyr cynhyrchu, gwaith animeiddio, cyfansoddi, actio, hebrwng, golygu, gwallt a cholur, gwisgoedd, cynllunio set, 2il Gyfarwyddwr Cynorthwyol, 3ydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol, lluniau llonydd. 

 

It's My Shout

The Bridgend Mashup

Mae’r ŵyl yn rhan o nifer o ddigwyddiadau a reolir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda darparwyr gweithgareddau, chwaraeon a chelfyddydau drwy gydol y flwyddyn. 

 

Bridgend Mashup

Bwriedir gweithgareddau ar gyfer bob oedran, ac maent yn cynnwys:

  • Celf a chrefft
  • Gemau bwrdd
  • Paentio golau
  • Sglefrfyrddio
  • BMX
  • Dawnsio Stryd
  • Dawnsio Stryd
  • Sgiliau Syrcas 
Yn ogystal â phedwar Llwyfan Cerddoriaeth!

 

The Bridgend Mashup

aDvance Dance

aDvance Dance logo

Cwmni Dawnsio Ieuenctid gyda Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

 

Mae aDvance Dance yn gyfle hyfforddi newydd i ddawnswyr ifanc (14 - 19 oed) o Ben-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

 

Mae aDvance Dance yn:  

•Rhaglen blwyddyn o hyd gyda diwrnodau hyfforddi misol

•agored i ddawnswyr ifanc sydd eisoes wrthi’n dawnsio mewn unrhyw steil (ee. Steiliau Ballet, cyfoes, modern neu drefol)

•Agored i ddawnswyr ifanc, 14 – 19 oed

•canolbwyntio ar dechnegau a sgiliau o ran dawnsio cyfoes

•Dewis hyd at 20 o ddawnswyr ifanc

•rhaid bod yn ychwanegol at weithgarwch rheolaidd aelodau a’u rhan mewn grwpiau ieuenctid a dosbarthiadau dawns lleol 

 

Gwefan CCIC