Cost of Living Support Icon
Arts_Connect

Cyswllt Celf

Cynllun ar y cyd rhwng awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf yw Cyswllt Celf.

 

Bwriad cynllun Cyswllt Celf yw cyfoethogi a hyrwyddo cyfleoedd i bobl o bob oed i ymgysylltu â’r celfyddydau a chreu dolen gyswllt rhwng gweithgareddau creadigol ledled de Cymru.

 

 

 

Mae’r cydweithrediad yn canolbwyntio ar ddatblygu ystod o gelfyddydau cyfranogol i bobl sy’n byw yn yr ardal neu’n ymweld â hi. Mae’r swyddogion celf yn cydweithio i wella a chynnal y cyfleoedd celfyddydol sydd ar gael.

 

Mae aelodau Cyswllt Celf yn rhannu eu harbenigedd a’u hadnoddau er mwyn gwella ystod a safon y profiadau celfyddydol sydd ar gael, gan sicrhau bod y celfyddydau yng Nghymru’n cyfrannu at yr isod: 

  • Llesiant emosiynol
  • Gwella llythrennedd a rhifogrwydd
  • Creu cymunedau bywiog, diogel a chynaliadwy
  • Lleddfu effaith tlodi
  • Ffyniant i Gymru

 

Yn sgil datblygiad Cyswllt Celf a’r cydweithio rhwng awdurdodau lleol gwahanol, y gobaith yw y bydd mwy o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, a fydd yn gwella cyfleoedd ariannu ac yn galluogi’r sector wirfoddol i gydweithio â ni hefyd gyda chefnogaeth Swyddogion Cyswllt Celf.