Cost of Living Support Icon

Celf Gyhoeddus  

Mae Celf Gyhoeddus yn creu hunaniaeth leol benodol sy’n cyfoethogi’r amgylchedd ac yn creu ymdeimlad o gynefin

 

Rydyn ni’n cydweithio ag artistiaid i greu celf ar gyfer lleoliad penodol, wedi’i chomisiynu fel arfer, neu drwy gydweithio â phobl eraill megis swyddogion datblygu celf, penseiri, dylunwyr tirwedd, cynllunwyr, cynrychiolwyr cymunedol a phartneriaid cyllidebu.   

 

Mae cynnwys artistiaid a chrefftwyr ym mhrosesau dylunio datblygiadau’n golygu y gall blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor gael eu mireinio.  

 

Amcanion Craidd 

  • Cyrraedd safonau uchel o ddyluniad
  • Parchu hynodrwydd lleol
  • Cynyddu amrywiaeth
  • Ymgysylltu â phobl leol i annog gwerthfawrogiad o’r amgylchedd naturiol ac adeiledig
  • Hybu ymdeimlad o falchder cymunedol 

 

Mae’r Cyngor yn ceisio cytuno lleiafswm o un y cant o gostau datblygiadau cyfalaf ar gyfer datblygu celf gyhoeddus.

 

Canllaw Cyflym i Gelf Gyhoeddus 

Manteisio ar y cyfleoedd

Gellir ystyried darnau o waith celf gyhoeddus ar gyfer y rhan fwyaf o ddatblygiadau ac ardaloedd cyhoeddus, yn cynnwys:

  • Datblygiadau preswyl
  • Canol trefi a chynlluniau adfywio eraill
  • Datblygu parciau manwerthu busnes a pharciau gwyddoniaeth
  • Ysgolion newydd ac adeiladau cyhoeddus eraill megis canolfannau hamdden a chanolfannau cymunedol
  • Tirweddu, parciau a pharthau cyhoeddus eraill.

 

Cynlluniau trafnidiaeth, yn cynnwys ffyrdd newydd, pontydd, cyffyrdd, rheilffyrdd a llwybrau cerdded a llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus

 

Datblygu Strategaeth Celf Gyhoeddus  

Gall Swyddog Datblygu Celf y Cyngor gynnig help a chyngor ar lunio strategaeth a datblygu a darparu celf gyhoeddus yn nalgylch y cynllun.

 

Ymgynghori ar Gynlluniau

Mae ymgynghoriad â’r cyhoedd, unigolion, grwpiau a mudiadau lleol, sefydliadau addysg, celf a sefydliadau eraill, yn rhan allweddol o ddatblygu celf gyhoeddus mewn ardal. Gall hyn ddigwydd mewn nifer o ffyrdd, yn cynnwys: cyflwyniadau, arddangosfeydd, gweithdai cyfranogol a gweithgareddau priodol eraill sy’n berthnasol i gyfnod datblygu’r prosiect.

 

Comisiynu Artistiaid ac Ymgynghorwyr Celfyddydol

Isod, gwelir amlinelliad o’r camau sy’n hanfodol i gyflawni prosiect llwyddiannus. Dylai’r datblygwr gydweithio â Swyddog Datblygu Celf y Cyngor bob amser, a bydd y swyddog yn cynnig cymorth a chefnogaeth. Mae nifer o ymgynghorwyr celfyddydol llawrydd ar gael sy’n medru helpu datblygu prosiectau celf gyhoeddus.

Dylai’r briff i’r artistiaid gael ei lunio’n ofalus a chynnwys elfennau isod pob prosiect:

 

  • Nod
  • Cyllideb
  • Amserlen
  • Gofynion yswiriant
  • Materion technegol
  • Gofynion cynnal a chadw
  • Cyllideb cynnal a chadw (os yw’n berthnasol) - rhaid datgan yn eglur ar ddechrau’r prosiect arfaethedig pwy fydd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r gwaith, a dylid nodi hyn ym mriff yr artist pan fo’n bosibl.
    Mae cydweithrediad â’r tîm dylunio cyfan yn hanfodol ar y pwynt hwn er mwyn sefydlu amcanion cyffredin.

 

Dylid dilyn proses gaffael agored i ddethol artist. Dylai panelau cyfweld gynnwys cynrychiolwyr o bob mudiad sydd ynghlwm yn ogystal â chynghorydd lleol ac aelod o’r gymuned pan fo galw.