Cost of Living Support Icon

Apiau a Gweithgareddau

Diddanwch i’r teulu cyfan gyda phecynnau gweithgareddau hwyl, gemau ac apiau.

 

Mae’r pecynnau gweithgaredd yma’n ddelfrydol wrth geisio annog aelodau iau’r teulu i ddod am wibdaith i’r arfordir, lle mae ein apiau Realiti Estynedig yn dod â hanes yn fyw.

 

App Realiti Estynedig (RE) Arfordir Treftadaeth

  • Gweld Castell Dwnrhefn yn ei anterth

  • Darganfod sut roedd pobl yn byw ac yn masnachu yn y Gaer Fryniog o Oes yr Haearn ym Mae Dwnrhefn

  • Dysgu hanes y ‘Frolic’, stemar olwyn fawreddog â diweddglo trasig

  • Chwarae gêm ‘Wreckers’ Run’

  • Lawrlwytho un o’n pecynnau hwyl i’r teulu a dysgu am yr arfordir wrth i chi ei archwilio.

  

Heritage Coast app on Apple-Store

 Augmented-Reality-App-Hill-Fort

 

 

App screenshotsApp Realiti Estynedig (RE) Parc Romilly

Mae Parc Romilly yn croesawu Cyril y Wiwer. Bydd ein gwiwer RE yn eich tywys o gwmpas y llwybr, lle gallwch ddysgu am goed y parc a chwarae'r gêm ddeilen.

 

Romilly Park app on Android App Store   Romilly park app on Apple-Store

Porthkerry AR AppApp Realiti Estynedig (RE) Parc Gwledig Porthceri 

Mae gan yr app lwybrau casglu wedi'u sbarduno gan GPS sy'n eich galluogi chi i grwydro’r parc a chasglu rhith-blanhigion a rhith-anifeiliaid ar hyd y daith wrth i chi gadw llygaid allan am rai go iawn. 

 

Mae modd i chi gasglu mythau a chwedlau o bob rhan o’r parc wrth ddilyn y llwybr straeon a cheir llwybr casglu i blant o amgylch ardal y dolydd hefyd, sy’n eu galluogi nhw i gasglu ffeithiau am wahanol anifeiliaid wrth iddynt redeg o gwmpas.

 

Ar ôl i chi gasglu cymeriadau, straeon, anifeiliaid a phlanhigion y realiti estynedig, caiff y rhain eu cadw yn eich casgliad er mwyn i chi eu gweld unrhyw bryd yr hoffech.

 

Porthkerry park app on Android App Store   Porthkerry park app on Apple-Store

 

Activity-Packs

Pecynnau Gweithgareddau

O redeg o gwmpas mewn cestyll a chwrdd â môr-ladron mileinig i chwilota ffosiliau a hel Llychlynwyr i ffwrdd – mae rhywbeth yma i danio’r dychymyg a rhoi’r coesau ar ras i chi a phob aelod o’r teulu, a mwynhau.

 

Lawrlwythwch un o’n pecynnau hwyl i’r teulu a dysgu am yr arfordir wrth i chi ei archwilio.