Cost of Living Support Icon

Cyfleoedd Masnachol ym Mharciau Gwledig

Cyfleoedd busnes mewn parciau gwledig ym Mro Morgannwg

 

Rydym yn awyddus i weithio gyda busnesau sy’n cynnig y math o weithgareddau a gwasanaethau a fydd yn gweddu ac yn gwella’r llefydd anhygoel hyn ac rydym yn awyddus i glywed syniadau newydd a blaengar.

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn berchen ar ac yn rheoli dau barc gwledig: Parc Gwledig a Phentref Canoloesol Llynnoedd Cosmeston a Pharc Gwledig Porthceri.

 

Mae’r parciau wedi eu lleoli o fewn taith 45 munud i Gaerdydd, prifddinas Cymru a’r ddinas sydd yn tyfu gyflymaf yn y DU, gyda phoblogaeth dinas-ranbarth o 1.6 miliwn. Dyma brifddinas ‘arhosiad byr’ y DU gyda phoblogaeth o dros 350,000 a 70,000 o fyfyrwyr sydd yn astudio yng Nghaerdydd.

 

Our Vision

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi nodi nifer o gyfleoedd y maent am eu datblygu mewn partneriaeth â busnesau yn y sector preifat a sefydliadau trydydd sector. Mae’r cyfleoedd i weithio gyda ni a darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnom fel a ganlyn:

  • Ystod o weithgareddau awyr agored yn y Parciau i gynnwys y llyn a’r môr
  • Amrywiaeth o wasanaethau lletygarwch a lleoliadau
  • I greu a datblygu ein cynnig siopau ar gyfer ein hymwelwyr
  • I gynnig ystod o ddigwyddiadau hamdden
  • I gynhyrchu amserlen ddigwyddiadau flynyddol wedi ei chynllunio yn unol â phroffil ein hymwelwyr

 

Mae ein cynlluniau yn y dyfodol yn cynnwys

  • Gweithio gydag ystod o weithredwyr gweithgareddau awyr agored addas
  • Cynyddu a datblygu ein dewis i ymwelwyr o ran arlwyo
  • Hyrwyddo ein lleoliadau a’n hadnoddau unigryw i fwy o gwmnïau teledu a ffilm
  • I adeiladu ein proffil cyhoeddus ymhellach gan weithio gyda phartneriaid a defnyddio cefnogaeth tîm twristiaeth y Cyngor

 

Rydym wedi dechrau datblygu a thrawsnewid y parciau gyda buddsoddiadau a wnaed gan y cyngor a phartneriaid yn y sector preifat. Rydym yn moderneiddio’r parciau i ateb anghenion a disgwyliadau ein hymwelwyr presennol a rhai’r dyfodol.

 

Mae dros 350,000 o ymwelwyr blynyddol gennym ar hyn o bryd sy’n defnyddio ein Parciau Gwledig i fwynhau y profiad unigryw y maent yn ei gynnig. Gyda chynlluniau’r dyfodol yn eu lle ynghyd â chefnogaeth ein tîm twristiaeth, disgwyliwn weld dros 500,000 o ymwelwyr yn y dyfodol. Rydym nawr yn addasu i newid yn anghenion ein cwsmeriaid lle dymunant aros yn hirach, ymweld yn amlach a gwario mwy o arian ar brofiadau newydd a gweithgareddau arbenigol.

 

Cynulleidfa bresennol

  • Teuluoedd lleol
  • Ymwelwyr o Ddinas-ranbarth Caerdydd
  • Ymwelwyr addysg, Ewropeaidd, lleol a chenedlaethol  
  • Defnyddwyr hamdden cyffredinol, cerddwyr, cerddwyr cŵn, chwarae
  • Ymwelwyr digwyddiadau
  • Ymwelwyr teithiau grŵp
  • Ymwelwyr arbenigol – gwylwyr adar, teithiau tywys
  • Beicwyr

I drafod y llu o gyfleoedd masnachol sydd ar gael cysylltwch â Steve Pickering, yr Arweinydd Tîm Cefn Gwlad yn

 

Parc Gwledig a Phentref Canoloesol Llynnoedd Cosmeston

  • Mae dros 250,000 yn ymweld â Pharc Gwledig a Llynnoedd Cosmeston bob blwyddyn
  • O fewn ardal boblogaeth y Ddinas-ranbarth o 1.6 miliwn
  • Mae’r Pentref Canoloesol yn adeiladu enw da fel lleoliad i briodasau a all gynnig bendithio priodasau, seremonïau sifil a gwleddoedd priodas. Mae archebion eisoes wedi eu cadarnhau ar gyfer 2017 a 2018

 

  • Cyrchfan boblogaidd i wylio adar, ffotograffiaeth
  • Gwarchodfa Natur Leol GNL

  • Caffi a BBQ ac Ardaloedd Picnic
  • Pentref Canoloesol ar y safle at ddibenion addysgol, digwyddiadau, ffilmio a theithiau grŵp

  • Parcio i 700 o geir
  • Mae amrywiaeth o gynefinoedd gan y parc dros 100 hectar o dir a dŵr, rhai mannau wedi eu dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig er mwyn diogelu’r rhywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion prin.

  • Toiledau
  • Parc gwledig teuluol adnabyddus â dau lyn a choedlannau a dolydd helaeth
  • Ffilmio

    Mae poblogrwydd Pentref Canoloesol Cosmeston fel lleoliad ffilm a theledu wedi arwain at gynnydd yn y galw am yr adnodd.

     

    Mae’r BBC wedi ffilmio Dr Who a’r gyfres ‘Merlin’ yn Cosmeston ar sawl achlysur. Ffilmiodd ABC Galavant yma a defnyddiodd Sky y pentref i ffilmio’r gyfres Stella. Mae cynyrchiadau eraill wedi cynnwys hysbysebion teledu amrywiol, rhaglenni hanesyddol a rhaglenni dogfen.

     

    Mae lle i gynyrchiadau mawr a bach ym Mhentref Canoloesol Cosmeston a gall hefyd ddarparu lle ar gyfer parcio unedau ar y safle.

     

    Ffilmio yn y Fro

  •  Digwyddiadau

    Mae’r Pentref Canoloesol wedi ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys brwydrau, hanes byw a hanes drwy’r oesoedd.

     

    Mae digwyddiadau’r gorffennol wedi cynnwys nifer o atyniadau ar y diwrnod gan ddenu miloedd o ymwelwyr i’r pentref canoloesol. Mae’r rhain yn cynnwys arddangosfeydd heboga, stondinau crefft, dramâu ac adrodd straeon, ail-greu, saethyddiaeth a bwyd a diod.

     

    Dyw digwyddiadau ail-greu heb eu cyfyngu i’r cyfnod canoloesol – rydym wedi gweld Rhufeiniaid, Llychlynwyr a hyd yn oed môr-ladron.

     

Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston

Parc Gwledig Porthceri

  • Wedi ei leoli heb fod ymhell o Gaerdydd nac Ynys y Barri
  • Wedi ei leoli o fewn poblogaeth o 1.6 miliwn y Ddinas-ranbarth
  • Mae dros 130,000 yn ymweld â Phorthceri bob blwyddyn

 

  • Cyrchfan boblogaidd i wylio adar, ffotograffiaeth
  • Caffi a BBQ ac Ardaloedd Picnic
  • Cyfleusterau Dysgu Awyr Agored ar gael

  • Mae Parc Gwledig Porthceri yn rhan o Rwydwaith Beicio Cenedlaethol Cymru

  • Cwrs golff 12 twll

  • Mae Porthordy’r Goedwig ar y safle at ddefnydd amlbwrpas
  • Parcio

  • Dôl fawr a ddefnyddir ar gyfer digwyddiadau, priodasau, ffilmio, teithiau grŵp a dibenion addysgol

  • Pebble Beach
  • Toiledau
  • Viaduct 
  • 200 acer o goedwigoedd a doldir mewn dyffryn cysgodol, sy'n arwain at draeth cerigos gyda chlogwyni trawiadol

  • Mae Parc Gwledig Porthceri yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru

 

Parc Gwledig Porthceri

 

I drafod y llu o gyfleoedd masnachol sydd ar gael cysylltwch â Steve Pickering, yr Arweinydd Tîm Cefn Gwlad yn