Cost of Living Support Icon

Bioamrywiaeth

Ystyr bioamrywiaeth yw’r amrywiaeth o fathau o fywyd. Mae’n cynnwys pob peth byw, o’r chwannen leiaf i’r goeden fwyaf. 

 

Fe welwch chi fioamrywiaeth ym mhob man yn y Fro: mewn gerddi trefol a bocsys blodau, mewn coedwigoedd, wrth ymyl y ffordd, mewn cefn gwlad agored ac afonydd ac ar hyd yr arfordir. 

 

Mae Bro Morgannwg yn cynnal amrywiaeth doreithiog o fywyd gwyllt: mae’r perthi, y coetiroedd, cymoedd yr afonydd a’r arfordir yn ffurfio ein tirwedd ac yn darparu ymborth a chynefin i famaliaid ac adar. 

 

Mae blodau gwyllt a philipalod i’w gweld yn aml wrth ochr ein ffyrdd ac mewn dolydd. Mae sgwarnogod brown ac ehedyddion yn byw ar ein coetiroedd; mae dyfrgwn yn byw o’r golwg yn ein ffosydd dŵr, ac mae madfallod y dŵr ac amffibiaid eraill yn bridio yn ein pyllau a llynnoedd.

 

Vale-Biodiversity-Partnership

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol

Mae’r cynllun hwn yn cydnabod amrywiaeth y planhigion a’r anifeiliaid a’u cynefinoedd, ac yn eu nodi fel blaenoriaethau lleol.

 

Caiff y cynllun ei redeg gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth y Fro. 

 

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol

Dormouse

Ffyrdd o helpu

Mae sawl ffordd y gallwn ni helpu i warchod bioamrywiaeth yn y Fro, a gall pawb gymryd rhan.

 

Gall hyd yn oed newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.

  • Gatref
  • Yn yr ardd
  • Yn y gwaith

 

 

Two HaresCofnodi Bywyd Gwyllt

Helpwch ni i greu darlun o blanhigion ac anifeilaidd y Fro drwy anfon cofnod ohonynt at Ganolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru pan welwch chi nhw, neu drwy gysylltu â grwpiau cadwraeth lleol neu dîm Ecoleg y Cyngor. 

 

Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru

  

PAWS-logo

Troseddau yn erbyn Bywyd Gwyllt

Mae Cyngor bro Morgannwg yn aelod o Bartneriaeth Gweithredu yn erbyn Troseddau Bywyd Gwyllt. Mae’r Bartneriaeth yn casglu ynghyd nifer o sefydliadau sydd â diddordeb mewn gorfodaeth gyfreithlon ym maes bywyd gwyllt. 

 

Troseddau yn erbyn Bywyd Gwyllt

 
  • 101