Cost of Living Support Icon

Hedgerows and wildlife leafletGwrychoedd

Mae gwrychoedd nid yn unig yn ffurfio ffin, ond maent hefyd yn darparu adnodd bwyd a chynefin pwysig i fywyd gwyllt. 

 

Mae blodau ac aeron yn ffynhonnell fwyd i bob math o anifeiliaid ac adar, ac mae cyfansoddiad cryf y gwrych yn cynnig lloches, man i nythu a safle gaeafu i adar, mamaliaid bach, ymlusgiaid ac infertebrata.

 

Bu dirywiad anferth i gynefinoedd bywyd gwyllt ledled y DU dros yr hanner canrif ddiwethaf. Yn sgil colledion o’r fath, mae pwysigrwydd gwrychoedd fel lloches i fywyd gwyllt wedi cynyddu’n sylweddol.

 

Yn anffodus, yn ystod y deng lynedd rhwng canol y 1980au a chanol y 1990au, collwyd dros chwarter y gwrychoedd a dyfai yng Nghymru, sy’n golygu bod yr hyn sy’n weddill yn fwy gwerthfawr byth i fywyd gwyllt.

 

Mae taflen wybodaeth ar gael i reolwyr tir, unigolion a mudiadau ar ddulliau rheoli gwrychoedd er budd bioamrywiaeth.

 

Mae’r daflen yn egluro’r ffordd orau o reoli gwrych er lles bywyd gwyllt, ac yn rhestru gweithredoedd syml a allai wneud gwahaniaeth mawr i nifer y rhywogaethau y gall gwrych eu cynnal.