Cost of Living Support Icon

Dolydd

Mae’r haf yn gyfnod gwych i chwilio am bili-palod, â’r dolydd yn eu blodau a chymylau ohonynt yn hedeg o gwmpas, megis y pili-pala glas cyffredin, y glöyn brwmstan, y fantell goch ac iâr fach y graig.

 

Fe welwch nifer fawr o rywogaethau blodau wrth i chi grwydro, megis briallu Mair sawrus, briallu eraill, helygen y gors, meillion hopysaidd, blodau canmlwydd, n’ad fi’n angof a llawer rhagor. Ymhlith y blodau prin sy’n tyfu yma, mae’r tegeirian gwenynog, y tegeirian pigfain a’r tegeirian llydanwyrdd. Gwelir y rhain i gyd yn ystod misoedd yr haf.

 

Mae cwningod i’w gweld yn y dolydd yn gynnar yn y bore a gyda’r nos. Mae’r mamaliaid hyn wedi hen arfer ag ymwelwyr, a byddant yn parhau i fwyta’n braf wrth i chi gerdded heibio iddynt. O bosib y gwelwch lwynogod hefyd. Mae mwy nag un teulu ohonynt yn byw yn y parc gwledig, ac maen nhw bob amser yn hapus o weld y cwningod!

 

Dovecote fieldParc Gwledig Llynnoedd Cosmeston

Mae dwy ddôl fawr sy’n llawn blodau gwyllt yn Cosmeston, sy’n estyn at ben gogleddol y parc. Ar yr ochr orllewinol mae caeau’r Colomendy, a nant y Sili’n rhannu’r rhain yn ddwy.

 

O fewn Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston, fe warchodwyd rhai ardaloedd o’r glaswelltir gwreiddiol, hynafol, sy’n gyforiog o flodau ac yn fan delfrydol i sawl math o bili-pala fwydo a dodwy wyau.

 

Ar hyd ymyl gorllewinol y parc gwledig mae caeau’r Colomendy, a nant y Sili’n eu rhannu’n ddwy. Gwelir olion colomendy hynafol yma. Pont sy’n cysylltu’r ddau gae.

 

Caiff dolydd glaswelltir Cosmeston eu torri unwaith y flwyddyn, unwaith mae’r blodau wedi mynd, a thoriadau wedi eu casglu. Mae gwartheg yn pori’n ysgafn ar gaeau’r Colomendy rhwng mis Hydref a mis Mawrth, ac fel y dolydd, maent yn cael eu torri unwaith mae’r blodau wedi mynd a’r toriadau wedi eu casglu. Mae’r drefn reoli hon wedi annog tyfiant a chynyddu amrywiaeth y rhywogaethau bob blwyddyn ers ei sefydlu.

Parc Gwledig Porthceri

Mae'r ddôl yn torri drwy ganol Parc Porthceri ac mae wedi bod yn laswelltir ers yr oesoedd canol.

 

Mae ffrwd sy'n cael ei bwydo gan ddŵr ffynnon yn rhedeg ar hyd ymyl gorllewinol y ddôl ac mae ganddi amrywiaeth wych o anifeiliaid di-asgwrn cefn a phlanhigion dyfrdrig (gan gynnwys cynffon y gath, dyfrforonen a mintys amrywiol). Mae hefyd poblogaeth o lyffantod sy’n atgenhedlu yno.

 

Bydd ysgolion lleol yn defnyddio’r ffrwd yn y gwanwyn a'r haf i fforio pyllau.  Mae poblogaeth fawr o lyffantod.

 

Caiff y ddwy ymyl, un ar ochr y gogledd ac un ar ochr y de eu rheoli'n wahanol i annog bywyd gwyllt

 

Cedwir ymyl y gogledd fel dôl blodau gwyllt y gwanwyn. Caiff ei thorri unwaith bob blwyddyn ac eir â’r toriadau oddi yno. Mae sawl coeden dderw aeddfed a nifer o goed iau wedi eu plannu yma - mae llawer ohonynt yn gofebau

 

Cedwir yr ymyl ddeheuol fel ymyl coetir, lle cafwyd cynlluniau plannu coed sydd wedi eu gadael i gynefino.

 

Gan weithio gyda Choed Cadw a’r Comisiwn Coedwigaeth, mae rhannau helaeth o'r Pedwar Cae yn cael eu datblygu fel coetir cymunedol. Mae rhannau eraill yn cael eu gadael fel tir dôl, sy'n llawn blodau gwyllt lliwgar, gloÿnnod byw a llawer o bryfed eraill.