Cost of Living Support Icon
Moth

Gwyfynod

Cofnodwyd bron i 2,500 rhywogaeth o wyfynod yn Ynysoedd Prydain, a chânt eu rhannu’n ddau grŵp anwyddonol, sef y gwyfynod ‘mwy’ (macro) a’r gwyfynod ‘llai’ (micro).

Mae enwau cyffredin gan 900 o’r gwyfynod mwy, ac mae llawer ohonynt yn llygriad o enw sy’n llawer hŷn. Enwir rhai gwyfynod ar ôl y sawl a ddaeth o hyd iddo gyntaf, megis Ashworth's Rustic (ar ôl Joseph Ashworth). Gelwir ‘gwyfynod wensgod’ ar grŵp arall oherwydd eu tebygrwydd i banelau pren.

 

Mae un o’r ceidwaid ym Mhorthceri wedi bod yn cofnodi gwyfynod yn y parc ers blynyddoedd maith. Yn ystod y cyfnod hwn, cofnodwyd dros 120 o wahanol rywogaethau, yn cynnwys y gwyfyn hirgorn metalig, gwaswyfyn y morfan, y gwyfyn gwrychog hebreaidd a’r gwyfyn gwyntyll troed.

 

Yn ôl adroddiad cadwraeth pilipalod a gyhoeddwyd yn 2006 ar ôl astudiaeth o 35 mlynedd, mae niferoedd y gwyfynod yn y DU yn gostwng. Rhwydo oedd yn gyfrifol am draean o’r gostyngiad, ac yn ôl cyfrifiad o batrymau poblogi, roedd gostyngiad yn nifer dwy ran o dair o’r rhywogaethau.

 

Parc Gwledig Porthkerry

Mae un o’r ceidwaid ym Mhorthkerry wedi bod yn cofnodi gwyfynod yn y parc gwledig am flynyddoedd. Yn yr amser hwnnw, mae dros 120 o wahanol rywogaethau wedi’u cofnodi.

 

Am wybodaeth bellach, ewch i wefan UK Moths.