Cost of Living Support Icon

Golfan y Coed

Ar yr olwg gyntaf mae golfan y coed yn edrych yn debyg iawn i’w gefnder agos, aderyn y to. O edrych yn fwy manwl ar golfan y coed, fodd bynnag, fe welwch fod ganddo ben brown (nid llwyd) a bochau gwyn â smotyn du arnyn nhw.

 

Planhigion ydy bwyd pennaf golfan y coed – blagur, aeron, blodau a grawn. Maent hefyd yn bwyta infertebrata fel chwilod, lindys a phryfed cop.

 

Mae poblogaeth golfan y coed wedi amrywio ers y 1800au. Rhwng 1975 a 1999 fodd bynnag, bu dirywiad sylweddol o 95% yn eu niferoedd, a gostyngodd lefel eu hamrywiaeth o un rhan o bump.

 

Mae golfan y coed wedi cael ei nodi’n flaenoriaeth gan gynllun gweithredu bioamrywiaeth y DU. Caiff ei warchod gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 hefyd. Yn y Fro, dim ond un boblogaeth fach sydd ar ôl, ac mae honno’n destun cynllun sy’n cael ei weithredu gan Glwb Adar Morgannwg.

 

nest box

Blychau nythu

Mae blychau nythu wedi cael eu gosod yn y safleoedd lle mae’r nythfeydd bridio ac mewn saith safle nythu arall ar gael, megis yn waliau’r ysgubor.

 

Yn 2006 amcangyfrifwyd bod 15 nythaid o gywion wedi eu magu gan saith neu wyth pâr (mae golfan y coed yn gallu cael mwy nag un nythaid mewn blwyddyn), sef rhyw 60 o gywion bach i gyd.

 

Credir bod y nythaid wedi dyblu mewn maint ers dechrau’r cynllun blychau nythu.

 

Gan fod statws golfan y coed yn y Fro i’w weld yn fwy addawol, mae cynlluniau ar y gweill i chwilio am ragor o nythfeydd yn yr ardal er mwyn dysgu mwy am arferion yr adar yma yn ystod y gaeaf.

Cynllun Bwydo Adar

Mae’r cynllun hwn yn darparu blychau nythu a gorsafoedd bwydo arbennig dros y gaeaf mewn mannal lle mae ffermwyr yn tyfu cnydau sy’n cynhyrchu llawer o hadau.

 

Yn ystod gwanwyn 2006 plannwyd cnwd o rawn a dyfodd yn dda, gan ddarparu ffynhonnell bwysig o hadau i amrywiaeth o rywogaethau ffermdir, yn cynnwys golfan y coed.

 

Mae rhywogaethau eraill wedi manteisio ar y cynllun hwn hefyd, yn cynnwys y llinos, y betrysen lwyd, melyn yr eithin, bras y gors a’r ehedydd.

 

Erbyn diwedd y gaeaf, roedd y safle mor boblogaidd gyda’r adar lleol nes bu’n rhaid prynu hadau ychwanegol i’w bwydo.

 

Cynllun dan arweiniad Clwb Adar Morgannwg (gwefan Saesneg) oedd hwn, mewn partneriaeth â’r British Trust for Ornithology, Cyfoeth Naturiol Cymru, Earth Watch a Phartneriaeth Bioamrywiaeth Bo Morgannwg. Ni fyddai’r wedi bod yn bosib i weithredu’r cynllun heb gefnogaeth frwd llawer o ffermwyr lleol.