Cost of Living Support Icon

Y Sarth

Coeden gollddail, lydanddail yw’r sarth, a chanddi ddail pluog sy’n debyg i’r griafolen. Mae’r sarth yn ei blodau yn hwyr ym mis Ebrill ac yn gynnar ym mis Mai. Mae’r blodau’n binc golau a’r ffrwythau’n debyg i afalau a gellyg, tua 2–3 cm o hyd, ac yn wyrdd, yn gochlyd neu’n frown.

 

True Service Tree

Mae’r sarth yn brin iawn yn y DU, gan mai yn neheubarth Ewrop mewn hinsawdd Ganoldirol mae’n tyfu gan mwyaf. Hyd at 1983, dim ond un goeden y credid ei bod yn frodorol i’r DU, a honno ar safle yn Wyre, yn Swydd Caerwrangon.

 

Yn 1983 daethpwyd o hyd i nifer o’r coed yn tyfu yng Nghymru, ar glogwyn calchfaen serth ym Mharc Gwledig Porthceri. Yn 1993, daethpwyd o hyd i’r sarth ar ail safle yn y Fro. Ers hynny, cafwyd hyd i bedair coeden unigol ar bedwar safle yn Swydd Caerloyw.

 

Amcangyfrifir bod y ddau safle ym Mro Morgannwg yn gartref i oddeutu 90% o’r holl goed sarth sy’n hysbys yn y DU. Credir bod 80-90 o goed ym Mhorthceri.

 

Mae’r sarth dan fygythiad cyson gan erydu - mae’r tir mae’n tyfu ynddo’n dila, ac mae tirlithriadau’n digwydd yn aml. Mae’r coed arth ym Mhorthceri dan fygythiad gan y dderwen Holm hefyd, sef rhywogaeth anfrodorol sy’n cystadlu â’r sarth. Un o’r cynlluniau sydd ar y gweill gan y parc eleni yw diddymu’r dderwen Holm.

 

Daeth ymwelydd arbennig iawn i Borthceri o’r Weriniaeth Tsiec yn ddiweddar i gael golwg ar y goeden arbennig hon. Vit Hrdousek yw cydlynydd cynllun o’r enw Tree for Europe, a sefydlwyd i godi ymwybyddiaeth o’r Sarth – gall y goeden ffrwythau dyfu i dros 1.6m mewn diamedr mewn rhai ardaloedd yn Ewrop. Cyflwynodd Vit doriad i Borthceri oedd wedi ei impio oddi ar goeden Tsiec sydd dros 400 mlwydd oed. Cafodd y goeden ei phlannu ym mherllan y parc pan sefydlwyd hi.