Cost of Living Support Icon

Coetiroedd

Mae cynllun rheoli coetiroedd ym Mro Morgannwg yn cynnwys agor a chlirio adrannau bach ohonynt i adael i olau’r haul eu cyrraedd. O ganlyniad, mae cyfle i’r planhigion llawr egino a blodeuo.

 

Robin landing

Caiff coed a phrysgwydd sydd eisoes wedi eu torri eu defnyddio i greu pentwr cynefin i bryfed sy’n hoffi pren marw megis chwilod, ac i ddarparu cysgod da i ddraenogod hefyd.

 

Ymhlith y blodau a welir yng nghoetiroedd ein parc gwledig, mae eirlysiau, briallu, melynllys, clychau glas, dant y ci, garlleg gwyllt a phig y gog. Gwelir pili-palod megis brith y coed a’r iâr fach felen, yn ogystal â gwas y neidr a mursennod yn gwibio drwy’r coetiroedd agored.

 

Mae digon o adar yn y coetiroedd, yn enwedig yn ystod tymor nythu. Cadwch lygad am rai o’r rhain: cnocell y coed, adar pen bawd, cnocell y cnau, y titw, ac ymhell uwchben y coed, y boncath. Os ydych chi’n dod yma gyda’r nos, fe welwch chi heidiau o frain pigwyn swnllyd yn nosi, ac yn nes ymlaen, fe glywch chi synau tylluanod bach a thylluanod brech.

 

Y mamaliaid yn ein parciau gwledig yw’r rhai lleiaf tebygol o gael eu gweld. Mae ymylon y coetir a’r cloddiau’n gartref i gwningod, llygod mawr brown, llygod y dŵr a llygod coch a draenogod pigog. Weithiau, bydd cerddwyr y bore cynnar neu’r hwyrnos yn gweld moch daear neu lwynogod. Y mamal a welir gan amlaf yn y goedwig yw’r wiwer. Bydd y gwiwerod yn brysur yn ystod yr haf, yn bwyta ac yn casglu cymaint o fwyd â phosib i’w storio at fisoedd y gaeaf.

 

woodland viewParc Gwledig Llynnoedd Cosmeston

Ceir dros 20 hectar o goetiroedd llydanddail ym mharc Cosmeston. Mae’r prif lwybr graean yn rhedeg drwy ganol coedwig Cogan, lle mae llawer o fathau o goed i’w darganfod wrth grwydro oddi ar y llwybr. Yn y coetir yn Cosmeston, mae sawl maeth o’r coed yn nodweddiadol o goetiroedd llydanddail eraill a geir y Deyrnas Unedig – y dderwen, yr onnen, y llwyfen a’r ddraenen wen yw’r rhan fwyaf ohonynt. Mewn sawl man, bydd iorwg wedi tyfu’n drwch dros y coed a’r llawr fel ei gilydd.

 

Ar noswaith o haf yn Cosmeston, chwiliwch am siapiau ystlumod hela megis ‘pipistrelle’wrth iddynt hedeg drwy’r coetiroedd a dros y llynnoedd yn chwilio am fwyd blasus megis gwybed mân a mwy. Mewn rhai rhannau o’r parc, gwelir nifer fawr o’r mamaliaid sionc hyn yn bwyta gyda’i gilydd wrth i’r golau bylu. Mae cynllun rheoli coetiroedd ym Mro Morgannwg yn cynnwys agor a chlirio adrannau bach ohonynt i adael i olau’r haul eu cyrraedd. O ganlyniad, mae cyfle i’r planhigion llawr egino a blodeuo.

 

Yn 2019 roedd Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston yn llwyddiannus o ran ennill cyllid gan Network Rail trwy’r Greater West Programme; cynllun bioamrywiaeth sy’n cefnogi darparu projectau cynefin, plannu a gwella ar dir trydydd parti.  Trwy’r cyllid grant adeiladwyd estyniad dau hectar ar ymyl deheuol Coedlannau Cogan.  Plannwyd 1350 o goed yn cynnwys cymysgedd o goed ffrwythau.  Mae nifer o fanteision cymdeithasol, amgylcheddol a iechyd a lles i blannu coed ac mae’n cynnig nodwedd ychwanegol i’r Parc Gwledig.

 

Trees in Porthkerry

Coetir Parc Gwledig Porthceri

Mae Cliffwood yn enghraifft dda o goetir cymysg yr iseldir ar garreg galch, o dan ganopi o goed ynn, deri, masarn bach ac yw, ynghyd ag amrywiaeth o brysgwydd a blodau gwyllt cynhenid. Saif y coetir ar lethr sy’n wynebu’r tir, ond mae’r ymyl deheuol yn syrthio’n raddol nes cyrraedd clogwyn carreg galch sy’n rhannol goediog.

 

Defnyddiwyd coedwig Mill Wood i gynhyrchu pren am 150 o flynyddoedd ar stad y teulu Romilly. Adeiladwyd melin goed yma oddeutu 1850. Mae’r coetir oddeutu hanner milltir o hyd, a saif ar lannau serth bob ochr i Nant Talwg. Mae llwybr cyhoeddus yn dilyn siwrnai’r nant.

 

Bu Coedwig Knockmandown yn ardal goediog ar gyrion dolydd canoloesol gynt. Cawsai ei rheoli a’i chynnal a’i chadw pan oedd yn rhan o stad Romilly, ac o’r herwydd, daeth yn gynefin tra gwahanol i’r coedwigoedd cyfagos â’u trwch o friallu a thegeirianau.