Top

Brig

Glamorgan-Heritage-Coast-logo

Aberogwr 

Mae hwn yn un o’r traethau mwyaf poblogaidd ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg oherwydd ehangder y tywod euraid a’r pyllau creigiog

 

Ceir digon o gyfleusterau ar y traeth i deuluoedd fwynhau diwrnod cyfan yma.

 

Mae digon i’w ddarganfod yn Aberogwr – gweld ffosiliau ar y traeth, bywyd gwyllt yn afon Ogwr, neu fynd am dro ac archwilio’r castell Normanaidd (dywedir bod ysbryd yno) a’r twyni tywod eang. 

 

Cyfleusterau

  • Llety
  • Faniau lluniaeth ysgafn
  • Castell
  • Croeso i gŵn
  • Parcio
  • Tafarn
  • Toiledau

Treftadaeth a Bywyd Gwyllt

Mae hanes daearegol Aberogwr yn un rhyfedd. Mae’r clogwyni a ffurfiannau’r creigiau’n dyddio o’r cyfnod carbonifferaidd (290-360 miliwn o flynyddoedd yn ôl) a’r cyfnod Jwrasig (145-208 miliwn o flynyddoedd yn ôl) – ond mae tua 140 miliwn o flynyddoedd ar goll rhwng y ddau gyfnod! Os edrychwch chi ar hyd y clogwyni, fe welwch wahaniaeth trawiadol yn ansawdd y creigiau rhwng yr haenau, sy’n hynod ddifyr, dim ond i chi wybod am beth rydych chi’n chwilio.

 

Mae afon Ogwr, sy’n rhedeg i’r môr yma, yn denu cyfoeth o fywyd gwyllt gydol y flwyddyn. Mae eogiaid a brithyll môr yn nofio i fyny’r afon, a cheir hyrddiaid, lledod a draenogod y môr yn rhannau isaf, llanwol yr afon. Gwelir amrywiaeth eang o adar yma dros y gaeaf hefyd, gan gynnwys hwyaid â llygaid aur a chornwiglod.

 

Ar lan bellaf yr afon, mae twyni tywod Merthyr Mawr ymhlith y mwyaf yn Ewrop. Maent yn gynefin i nifer o rywogaethau pwysig planhigion a phryfed – mae mwy na thraean o holl fywyd planhigion a phryfed Cymru gyfan yn byw yma yn y twyni! Er mwyn eu cyrraedd, bydd angen i chi gerdded i fyny at Gastell Aberogwr, croesi ar y cerrig sarn a dychwelyd drwy ddilyn glan yr afon.