Cost of Living Support Icon

Parthau’r Parc

Crwydro a darganfod trysorau Parc Gwledig Porthceri

 

Mae digon i’w weld ym Mharc Gwledig Porthceri, p’un a ydych yn cerdded, seiclo neu farchogaeth. 

 

  • Cliffwood a'r grisiau aur

    Pennwyd Cliffwood a’r grisiau aur yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Penodol yn 1962, a chadarnhawyd eu statws yn 1983.

    Mae Cliffwood yn enghraifft dda o goetir cymysg yr iseldir ar garreg galch, o dan ganopi o goed ynn, deri, masarn bach ac yw, ynghyd ag amrywiaeth o brysgwydd a blodau gwyllt cynhenid. Saif y coetir ar lethr sy’n wynebu’r tir, ond mae’r ymyl deheuol yn syrthio’n raddol i glogwyn carreg galch sy’n rhannol goediog.

     

    Mae dau fath pwysig a hynod anghyffredin yma, sef maenhad gwyrddlas a chriafolen.

     

    Mae hawl tramwy cyhoeddus gan Cliffwood (Lover’s Lane). Ceir llwybr cyhoeddus arall ar hyd y ffin ddeheuol, ac mae yma nifer o lwybrau eraill answyddogol sydd mewn defnydd cyffredin.

  • Cwm Barri

    Bu’r ardal a elwir Cwm Barri yn cael ei ffermio ers o leiaf 1622. Mae’r coetir yn dilyn cwrs Nant y Barri, ac mae oddeutu 1.3 hectar o faint.

     

    Ceir yma amrywiaeth o rywogaethau coed o wahanol gyfnodau (y rhai amlycaf yw’r ddraenen wen, y ddraenen ddu, y gollen, yr onnen a’r fasarnen). Mae ffurfiant y coetir yn amrywio o barthau lle ceir canopi uchel i lecynnau agored lle ceir llwyni sefydlog a phlanhigion daear.

     

    Mae Nant y Barri’n lledu wrth ymyl yr heol mewn lle o’r enw Fishponds Hill, lle mae pwll mawr. Mae’r pwll yn llawer llai'r dyddiau hyn oherwydd ei fod wedi gwaddodi dipyn. Bydd y pwll yn cael ei adfer dros y blynyddoedd nesaf, gobeithio, er mwyn iddo ddatblygu’n safle pwysig ar gyfer llawer o blanhigion ac anifeiliaid y dŵr.

  •  Pedwar Cae

    Bu’r pedwar cae hyn yn ffermdir o fewn y ffiniau presennol ers yr ail ganrif ar bymtheg, felly mae’r cloddiau’n aeddfed ac maent yn gynefin i amrywiaeth eang o blanhigion.

     

    Mae’r ardal hon ger llaw stad newydd o dai ar gyrion y Barri. Mae’n bosib cyrraedd y caeau o dri lle ar y stad, yn ogystal â thrwy Millwood a Chwm Barri. Mae’r Pedwar Cae yn boblogaidd â phlant a cherddwyr.

     

    Mewn cydweithrediad â’r Woodland Trust, y Comisiwn Coedwigaeth a Choed Cymru, cafodd parthau eang o’r Pedwar Cae eu trawsnewid yn goetir cymunedol rai blynyddoedd yn ôl. Ni newidiwyd parthau eraill, megis dolydd sy’n gyforiog o flodau gwyllt lliwgar, pili-palod a llawer o bryfed eraill.

     

    Cynhaliwyd y gwaith adfer rhwng 2005 a 2009. Bu disgyblion ysgolion y Fro, Caerdydd a’r Cymoedd wrthi’n plannu nifer fawr o goed a llwyni brodorol i greu coedwig Gymreig go iawn, yn ogystal â grwpiau cymunedol megis y Sgowtiaid. 

  • Coedwig Knockmandown

    Bu Coedwig Knockmandown gynt yn ardal goediog ar gyrion doldiroedd canoloesol. Cawsai ei rheoli a’i chynnal pan oedd yn rhan o stad Romilly, ac o’r herwydd, daeth yn gynefin tra gwahanol i’r coedwigoedd cyfagos a’u mentyll o friallu a thegeirianau.

     

    Yn y 1950au, bu’r awdurdodau lleol wrthi’n plannu niferoedd sylweddol o larwydd a ffawydd. Mae’r coetir wedi aeddfedu’n gyson, a cheir yma ganopi agored, llwyni sefydlog a haenau o blanhigion daear.

     

    Mae’r coetir yn olau ac yn agored, ac mae planhigion megis iorwg daear, rhedyn, dail y gloria, briallu a thegeirian llydanwyrdd yn ffynnu yma.

     

    Ceir nifer o wahanol fathau o goed yma hefyd, yn cynnwys sycamorwydd, coed cyll, ffawydd, bedw a deri. Ymhlith y coed llai, mae ysgaw, drain duon, ysgaw’r gors, celyn, llwyfenni llydanddail, piswyd a chwyrwiail.

     

    Knockmandown yw’r prif bwynt mynediad i’r parc i lawer o bobl, ac mae llwybr newydd yma i hwyluso eu taith. 

  • Y Ddôl

    Mae’r Ddôl yn rhedeg drwy ganol Parc Porthceri, a bu’n laswelltir ers yr Oesoedd Canol.

     

    Mae nant sy’n cael ei chyflenwi gan ffrwd yn rhedeg ar hyd ymyl gorllewinol y ddôl, a cheir ynddi amrywiaeth neilltuol o infertebrata a phlanhigion dŵr, yn cynnwys cynffon y gath, panasen y dŵr a gwahanol fathau o fintys, ynghyd â llu o lyffantod sy’n atgenhedlu yma.

     

    Yn y gwanwyn a’r haf, mae ysgolion lleol yn defnyddio’r pwll ar gyfer gwersi byd natur.

     

    Mae dwy ffin y Ddôl – y naill ar yr ochr ogleddol a’r llall ar yr ochr ddeheuol – yn cael eu rheoli mewn ffyrdd gwahanol er mwyn denu gwahanol fathau o fywyd gwyllt.

     

        • Cedwir y ffin ogleddol yn ddôl blodau gwyllt. Caiff ei thorri unwaith y flwyddyn a chodir toriadau bryd hynny. Ceir yna nifer o goed derw aeddfed a choed eraill, iau yma – cofebion ydy nifer ohonynt. 

        • Cynhelir y ffin ddeheuol fel cyrion coetir. Gweithredwyd cynlluniau plannu coed yma, ac maent wedi eu gadael i dyfu’n naturiol.
  • Coedwig Mill Wood

    Defnyddiwyd coedwig Mill Wood i gynhyrchu coedwydd am 150 o flynyddoedd ar stad y teulu Romilly. Adeiladwyd melin goed yma oddeutu 1850. Mae’r coetir yn hanner milltir o hyd a saif ar lannau serth Nant Talwg. Mae llwybr cyhoeddus yn dilyn y nant.

     

    Roedd llawer o’r goedwig yn rhan o’r cylch cwympo ac ailblannu, ond mewn mannau oedd yn anodd i’w cyrraedd (ar y llethrau gan mwyaf), mae’r coed derw, onnen, ffawydd a masarn bach wedi aeddfedu heb rwystr.

     

    Mae gweddill y goedwig wedi ei rhannu’n ardaloedd penodol lle ceir gwahanol rywogaethau o goed o wahanol oedrannau mewn gwahanol gyflwr.

     

    Mae un ardal arall o ddiddordeb wrth ymyl Cwm Cidi, sy’n gymysgedd o dderi, ffawydd ac yw aeddfed, ynghyd â sawl onnen fawr. Mae nifer o’r coed yma wedi marw a chwympo, gan greu cynefin pwysig i nifer o infertebrata a’r anifeiliaid sy’n bwydo arnyn nhw.  

  • Glan môr Porthceri 

    Mae glan môr Porthceri’n ymestyn ar hyd pen deheuol y parc gwledig, rhwng caer Oes yr Haearn yn y pen gorllewinol a chlogwyn Trwyn y Tarw yn y pen dwyreiniol. Cerrig calch mân sydd ar y traeth sy’n ymestyn at y clogwyni calchfaen serth.

     

    Mae olion morfa heli hynafol i’r gogledd o’r bancyn cerrig lle gwelir rhywogaeth leol o eurllys, (math o blanhigyn sy’n tyfu ar draethau).

     

    O flaen Tŷ Porthceri, mae porfa arw sy’n cael ei rheoli er mwyn creu cynefin i flodau gwyllt. Mae gwiberod i’w gweld yn mwynhau’r heulwen yma’n aml.

     

    Tua phen dwyreiniol glan y môr, mae clogwyn yn codi o’r bancyn cerrig. Mae’n newid ei ffurf wrth fynd ar ei hyd, ac mae’n disgyn yn blwm ger Trwyn y Tarw. 

  • Coedwig y Draphont

    Mae Coedwig y Draphont yn cynnwys y coetir ar ddwy ochr traphont y rheilffordd. Mae’r ddwy lain yn wahanol iawn i’w gilydd oherwydd y gwaith torri coed a gynhaliwyd yma yn ystod y 1980au.

     

    Mae’r gwaith clirio wedi agor y coetir a chaniatáu i ragor o oleuni gyrraedd y tir ac i ragor o blanhigion dyfu. Mae yma gymysgedd o goed ffawydd, ynn, yw a helyg, ac mae rhai ohonynt yn dal iawn erbyn hyn.

     

    Mae’r ochr arall yn llawer mwy llaith a thywyll, gan na wnaethpwyd cymaint o waith yno yn y gorffennol. Cyll yw’r coed amlycaf, ac yn y gwanwyn, mae mentyll o glychau glas a blodau’r gwynt yn gorchuddio’r tir.

     

    Gallwch gerdded drwy Goedwig y Draphont ac ymuno â’r llwybr cyhoeddus sy’n arwain at bentref Porthceri.