Top

Brig

Hanes Parc Gwledig Porthceri

Bu cyfansoddiad Parc Gwledig Porthceri yn ddolydd cymysg, yn ffermdir ac yn goetir ers yr Oesoedd Canol. 

 

Ar un adeg, roedd yr ardal wedi ei rhannu rhwng maenorau hynafol y Barri, Porthceri a Phen-marc. Prynwyd y tir gan y teulu Romilly yn 1412, ac fe ddilynon nhw batrwm ystadau gwledig yn Lloegr.

 

Sefydlodd y teulu Romilly fferm ‘fodel’ a chodi adeiladau gan ddefnyddio technegau ffermio mwyaf modern y cyfnod, megis cylchdroi cnydau. Adeiladon nhw fythynnod i weithwyr yr ystad a’r fforestwyr, sefydlu stablau ac adeiladu melin lifio, ynghyd â chafnau melin niferus, a draenio coedwigoedd a chaeau.

 

Cafodd Parc Porthceri ei brynu gan ystad y teulu Romilly yn 1929 gan Gyngor Dosbarth Trefol y Barri, ac fe’i defnyddiwyd fel parc cyhoeddus, agored, mawr, yn ogystal ag yn safle i baratoi ar gyfer yr ymosodiad ar Normandi yn yr Ail Ryfel Byd.

 

Wall remains

Y drydedd a’r bedwaredd ganrif ar ddeg: Melin Cliffwood  

Roedd cafn Melin Cliff Wood a safle’r felin lifio yn cael eu defnyddio gydol y ddwy ganrif hyn, ac mae’n debygol fod yr adeilad wedi’i ddinistrio yn ystod gwrthryfel Glyndŵr yn gynnar yn y bymthegfed ganrif. Yn ystod cloddfeydd yn yr ugeinfed ganrif, darganfuwyd mai adeilad carreg sych, dwy ystafell oedd y felin, a bod cafn y felin oddeutu 450 metr o hyd. Mae’r safle lle safai’r felin a’r cafnau wedi ei phenodi’n Gofadail Hynafol Rhestredig erbyn hyn.

cwm ciddy house postcard

Canol y drydedd ganrif ar ddeg: Pentref Canoloesol Cwm Cidi

Yn wreiddiol, adeiladwyd Pentref Canoloesol Cwm Cidi fel annedd cyn canol y drydedd ganrif ar ddeg. Roedd 280 erw o dir ffrwythlon yn golygu y gellid cynhyrchu digon o fwyd i gefnogi eglwys blwyf yn ogystal â’r pentref. Yn 1622 roedd pum tŷ yng Nghwm Cidi, a thri chartref arall gerllaw. Yng nghanol y ddeunawfed ganrif, gwelwyd diboblogi pellach, a thri bwthyn a ffermdy yn unig oedd yn weddill. Ac eithrio’r ffermdy, diflannodd yr holl adeiladau pan sefydlwyd Parc Porthceri gan y teulu Romilly.

 

Ar un adeg, safai melin ban (i ddiseimio defnydd) ar lan nant Cwm Barri. Prin iawn yw’r olion sy’n weladwy.

1583: Bwthyn Cliffwood

Adeiladwyd Bwthyn Cliffwood yn wreiddiol yn 1583 gan Owen William, a’r preswylydd mwyaf nodedig oedd Ann Jenkin, a gafwyd yn euog o fod yn wrach. Cafodd y bwthyn ei ailadeiladu’n llwyr tua 1781, ac mae’n adlewyrchu arddull nodweddiadol o’r cyfnod.

Yr ail ganrif ar bymtheg / y ddeunawfed ganrif: Storfa Wystrys

Gellir gweld yn eglur lle torrwyd storfa wystrys i mewn i silffoedd creigiog blaen y traeth r yr adeg hon, oddeutu 100m o allanfa’r nant drwy gefnen y cerrig mân. Mae pyst pren magl pysgod hefyd i’w gweld gerllaw. 

1835: Y Felin Lifio

Adeiladwyd y Felin Lifio (yn Millwood) a chafnau gefail tua 1835 ar gyfer ystad Porthceri, ynghyd ag olwyn ddŵr pymtheg troedfedd o led. Cloddiwyd muriau’r felin, cadwyd yr arteffactau, ac atgyfnerthwyd y waliau yn y 1990au cynnar i atal unrhyw ddirywiad pellach.

1845: Bwthyn Cwm Barri

Adeiladwyd Bwthyn Cwm Barri tua 1845 yn gartref i fforestwr yr ystad a’i deulu. Roedd yn strwythur mawr â thalcen arno. Cafodd ei ddymchwel yn 1972, a’r cyfan sy’n weddill bellach yw wal isel y ffin. Mae coed ffrwythau o ardd y bwthyn yn dal i dyfu yng nghoetir Cwm Barri.

1850: Bwthyn Nightingale

Adeiladwyd Bwthyn Nightingale tua 1850 gan ystad y teulu Romilly yn dau annedd i weithwyr. Mae’r ddau fwthyn wedi cael eu troi’n un adeilad erbyn hyn.

Porthkerry Viaduct

Y 1890au: Traphont Porthceri

Adeiladwyd traphont Porthceri yn ystod cyfnod sefydlu Rheilffordd Bro Morgannwg yn y 1890au. Mae’n un o gofadeiladau diwydiannol mwyaf nodedig yr ardal hyd heddiw, ac fe’i hadeiladwyd o garreg, sy’n ffurfio’r bwâu – 13 bwa 50 troedfedd o uchder a thri bwa 45 troedfedd, yn cyrraedd 110 o droedfeddi ar y pwynt uchaf. Cafwyd trafferth ag ymsuddiant yn ystod y gwaith adeiladu yn 1896, a bu’n rhaid cau’r draphont dros dro ac adeiladu llinell gylch o’i chwmpas. Agorodd y draphont i gludo cerbydau yn 1900.

Trees in Porthkerry

Y 1940au / 1950au: Yr Ail Ryfel Byd

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddiannwyd rhannau helaeth o’r parc gan luoedd arfog Prydain ac America i baratoi ar gyfer D-Day, a chodwyd cloddiau ac amddiffynfeydd niferus rhag ymosodiad ar hyd y glannau. Cafodd y felin lifio ei hesgeuluso, ac ni thorrwyd y coed ar gyfer pren bellach.

 

Roedd llawer o dir y dolydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pori bras, a thyfodd ardaloedd eang o brysgwydd. Yng nghanol y 1950au, gweithredwyd cynllun coedwigaeth sylweddol i greu planfeydd newydd o ffawydd a llarwydd, â blociau o goed cedrwydd, pinwydd gwyllt a chastanwydd yn eu plith.

 

Mae arteffactau o’r Ail Ryfel Byd yma o hyd o gyfnod pan oedd y Barri yn un o brif borthladdoedd nwyddau a storfeydd De Cymru. Defnyddiwyd Parc Porthceri fel parc cerbydau a storfa gyflenwi, a gosodwyd lloriau carreg dros dro yno. Cynyddodd defnydd lluoedd arfog America o’r Barri a Phorthceri yn ystod y paratoadau ar gyfer D-Day. Yn y pen draw, cludwyd 15,000 o dunelli o gyfarpar o’r Dociau i Normandi, yn cynnwys 1,269 o gerbydau a 4,000 o filwyr.

Y 1960au a’r 1970au: Helyg, Morfa Heli a Dôl

Yn ystod y cyfnod hwn, plannwyd rhagor o goed helyg, a sefydlwyd morfa heli arfordirol a dôl. Oherwydd nifer cynyddol y ceir oedd yn ymweld, datblygwyd meysydd parcio, a chynyddodd nifer yr ymwelwyr â’r parc yn sylweddol.

 

Pennwyd Cliffwood yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Penodol am y tro cyntaf yn 1962, a chadarnhawyd ei statws yn 1983. Oherwydd pwysigrwydd y safle, pennodd y Cyngor Cadwraeth Natur hi’n Warchodfa Natur Leol yn 1970. 

Porthkerry logo

1976: Penodi Porthceri yn Barc Gwledig

Yn 1976, cyhoeddodd Cyngor Sir Bro Morgannwg fod Porthceri yn derbyn statws Parc Gwledig. 

Volunteers and rangers

1979: Gwasanaeth y Ceidwaid

Yn 1979 sefydlwyd gwasanaeth ceidwaid yn y parc er mwyn rheoli ei ddefnydd cyhoeddus ac er lles y bywyd gwyllt. Mae grwpiau gwirfoddol a mudiadau eraill yn helpu’r ceidwaid i reoli’r parc. 

Mill intact - 1930

2016: Arian Loteri ar gyfer project o goeden i olwyn, Porthceri  

Mae Parc Gwledig Porthceri wedi cael £63,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer project cyffrous O goeden i olwyn - hanes melin. 

 

Mae’r project wedi ei arwain gan y gwasanaeth ceidwaid parc ac mae wedi cynnwys y gymuned leol; bydd yn canolbwyntio ar adfeilion melin lifio Cwm Cidi a choetir Coed y Felin.   

 

Defnyddir yr arian a roddir i ddiogelu rhannau o’r hen Felin Lifio yng Nghoed y Felin ym mharc gwledig Porthceri er mwyn gallu ei hagor i ymwelwyr, yn cynnwys ysgolion lleol.


Bydd llwybr cerdded newydd yn cael ei adeiladu, grisiau’r pwll yn cael eu trwsio a llwybr newydd yn cael ei sefydlu ar hyd y ffrwd. Mae’r project hefyd â’r nod o ddangos y gellir trosi coeden fyw yn rhywbeth defnyddiol ac y gellir gwneud hyn mewn dull cynaliadwy, heb niweidio’r amgylchedd.


Pan fydd y project wedi ei gwblhau, bydd y tîm ceidwaid y parc yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau yn y felin wedi ei hadnewyddu, yn cynnwys llif gadwyn a dulliau torri coed traddodiadol, arddangosiadau ceffylau gwedd, gwehyddu helyg a throi coed. Mae deng ysgol eisoes wedi cofrestru er mwyn cymryd rhan ac mae dau ddiwrnod o ddigwyddiadau wedi eu cynllunio.


Mae’r tîm ym Mhorthceri nawr yn apelio i unrhyw un sy’n cofio’r felin pan oedd hi’n gweithio'r naill ai fel melin lifio neu fel cwt sgowt neu unrhyw un y mae ganddo hen luniau o’r lle.

 

Mae oddeutu 250,000 o ymwelwyr yn dod i’r parc bob blwyddyn i fwynhau’r llain werdd leol ac i ddysgu am yr amgylchedd. Mae’r ystod eang o gynefinoedd yn hwyluso amrywiaeth sylweddol o blanhigion a chreaduriaid, ac mae’n hanfodol i ni gynnal y gwasanaeth rheoli a meithrin gwerth y parc fel adnodd cyhoeddus, er mwyn iddo barhau i gynnig adnoddau ardderchog i bawb.

 

Rhannu Hoffi