Top

Brig

Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston

Mae amrywiaeth o gynefinoedd yn Cosmeston dros 100 hectar o dir a dŵr, ac mae rhai parthau wedi eu dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sy’n amddiffyn y rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid prin ac amrywiol a geir yma.

 

Agorodd y parc i’r cyhoedd yn 1978 a’i ddyrchafu i statws Gwarchodfa Natur Leol ym mis Mai 2013. Heddiw, mae Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston yn noddfa i fywyd gwyllt lleol.

Night-heron-peter-howlett---CopyCynefinoedd a Bywyd Gwyllt
Cosmeston-Cement-works-1926

Hanes Cosmeston

blue tit chick 2016Nest and Trail Camera
Aerial picture showing the SSSI boundary at Cosmeston LakesSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennigites

Cyfleusterau

  • Cuddfan Adar sy’n edrych dros y llyn i’r gorllewin. Mae'r guddfan ar agor 24 awr y dydd ac mae am ddim

  • Caffi a BBQ ac Ardaloedd Picnic
  • Maes Chwarae Antur

  • Croeso i feiciau. Ni chaniateir beiciau ar y llwybrau bordiau
  • Parcio am ddim
  • Toiledau
  • Coetir
  • Croeso i gŵn. Sicrhewch y cedwir cŵn dan reolaeth ac ar denynnau yn y maes parcio ac o gwmpas y llyn i'r dwyrain
  • Mae angen trwydded ar gyfer rhai o’r ardaloedd
  • Ardaloedd Cadwraeth
  • Gall clybiau chwaraeon dŵr a chlybiau cychod modur sydd wedi cofrestru gyda Chyngor Bro Morgannwg yn unig logi’r llyn.
  • Gwaherddir nofio
  • Llwybrau Cerdded
BBQ Food

Barbeciws a Phicnics

Tair uned BBQ fach ar gyfer hyd at 30 o bobl a BBQ mwy ar gyfer hyd at 100 o bobl. Mae byrddau picnic a meinciau trwy’r parc gwledig i chi eu defnyddio, sicrhewch na roddir unedau BBQ tafladwy ar y byrddau.

 

Costau: £19 BBQ bach, £36 BBQ mawr, yn ogystal â blaendal o £20.

 

 

Horse riders

Reidio Ceffylau

Caniateir reidio ceffylau ar hyd y llwybr march milltir o hyd, ond, os hoffech chi reidio ar y prif lwybrau o gwmpas y llynnoedd i’r Dwyrain ac i’r Gorllewin, bydd angen i chi brynu trwydded o £20 y flwyddyn sydd ar gael gan y dderbynfa.

 

Maes Chwarae Antur

Mae gan faes chwarae antur sydd ar ochr gyferbyn y llyn o’r maes parcio ystod o offer dringo, siglenni, sleidiau a chwch. Ni chaniateir cŵn yn y maes chwarae antur. 

Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston

Lavernock Road

Penarth

Bro Morgannwg

CF64 5UY

 

 

  • 029 2070 1678

 

 

Rhannu Hoffi