Cost of Living Support Icon

Hanes Cosmeston

Crewyd Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston gan ddefnyddio olion gorffennol amrywiol yr ardal. Ers y cyfnod Normanaidd, bu perchnogaeth Cosmeston wedi bod yn gysylltiedig â pherchnogaeth Castell Caerdydd. 

 

Yn 1766 pan briododd John, pedwerydd Iarll Bute, â Charlotte Windsor, daeth y tiroedd yn berchen i’r teulu a fyddai’n cael y dylanwad mwyaf drostynt, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Y teulu Bute a adeiladodd yr heol sy’n rhedeg drwy ganol y parc gwledig a heibio i’r pentref. Mile Road yw hwn, ac mae’n rhedeg o fferm Cogan Hall yn y gogledd i Swanbridge, a fu unwaith yn borthladd bach a gludai nwyddau ar draws Môr Hafren i Wlad yr Haf.

 

Yng Nghaerdydd, adeiladodd ail Farcwis Bute ddociau anferth i dderbyn y llongau fyddai’n cludo glo o erwau glo De Cymru i farchnadoedd ym mhedwar ban byd. Yn sgil y galw am lo, mi dyfodd trefi De Cymru’n sydyn tu hwnt, ac roedd angen sment i gefnogi’r tyfiant. Gwnaethpwyd hwn o’r garreg galch a oedd i’w chael mewn mannau megis Cosmeston.

 

Am dros 80 mlynedd, chwarel carreg galch oedd y tir lle saif y parc gwledig heddiw, a chloddiwyd pedwar twll gwahanol i dynnu’r garreg allan.

1886-1970

Blynyddoedd y Chwarel 

Y chwareli hyn oedd ffynhonnell y calchfaen ar gyfer y gwaith sment mawr a safai tan 1970 ar safle ystâd dai bresennol Cosmeston. W Li Morcom oedd berchen ar y safle o 1886 i 1892 at ddibenion cloddio’r calchfaen i gynhyrchu sment.   Ym 1892, gosodwyd y tir ar brydles i South Wales Portland Cement and Lime Company (a’i prynodd yn ddiweddarach) gan Ystâd Bute ac fe gynhyrchodd y cwmni Sment yma tan 1911. O 1911 tan iddo gau ym 1969, BPCM (Blue Circle) oedd perchnogion y gwaith sment. Dechreuwyd tynnu’r chwarel a ddaeth yn llyn y dwyrain yn y 1920au, ond fe’i hehangwyd pan agorwyd y chwarel a ddaeth yn llyn y gorllewin o ddiwedd y 1940au.

Roedd gan y chwarel ei reilffordd ei hun i fynd â'r garreg galch i’r gwaith sment gerllaw. Cludwyd y calchfaen draw i’r gwaith gan ddefnyddio locomotifau rheilffordd fain. Roedd y rheilffordd yn croesi’r ffordd ger y fynedfa i’r maes parcio heddiw.

 

Cyrhaeddodd cynhyrchiant y safle ei anterth ym 1962, pan gynhyrchwyd 175,000 tunnell o sment.

Yn y dechrau fe ddefnyddiwyd locomotifau stêm gyda’r enwau Marjorie’, ‘Annie’ a ‘Doris’ a enwyd ar ôl gwraig a dwy ferch y perchennog Walter Cooper. O 1951 ymlaen, defnyddiwyd peiriannau disel newydd Fowler. Wedi i’r chwarel gau, dad-gomisiynwyd un o’r peiriannau tra cafodd y ddau beiriant arall eu hailwampio ar gyfer y cynllun cnau daear yn Affrica ond chawson nhw fyth eu hanfon oherwydd yr aeth y cwmni cnau daear i’r gwellt. Arweiniodd hyn at un peiriant i gael ei werthu i reilffordd ysgafn y Trallwng a Llanfair tra gwerthwyd y llall i’r West Highland Railway ym 1968. Erbyn heddiw mae’r ddau beiriant wedi dod yn ôl at ei gilydd oherwydd y prynodd Whipsnade Safari Park nhw (ym 1972 a 1975) a’u hail enwi yn Victor a Hector.

 

Defnyddiwyd eu brand enwog o sment ‘Dragon’ i gynhyrchu llawer o’r cerrig palmant a osodwyd ym Mhenarth. Caeodd y gwaith am y tro olaf ym mis Tachwedd 1969. Dywedodd Blue Circle nad oedd yn bosib uwchraddio’r hen waith i gynyddu cynhyrchiant ymhellach, nac ymestyn y chwareli, a gaewyd ym mis Mehefin 1970. Arweiniodd rhoi terfyn ar y cynhyrchu at gau’r llinell reilffordd o’r gwaith sment i Benarth ac sydd erbyn hyn yn llwybr cerdded poblogaidd.

 

Gadawodd y cwmni’r safle ym 1970. Erbyn heddiw diflannodd y gwaith, ac yn ei le mae tai a’r rheilffordd bellach yn ddim mwy na llwybr. Fodd bynnag, mae rhywfaint o bethau ar ôl hyd y dydd heddiw i’n hatgoffa o flynyddoedd y gwaith chwarel. Ar Ffordd Larnog mae swyddfa’r ffatri yn dal i sefyll ac erbyn hyn yn dŷ bwyta, ac roedd perchennog y gwaith Sment rhwng 1892 – 1911 yn byw yn “The Elms” gyda phedwar “Bwthyn Clwm” rhwng The Elms ac adeilad y swyddfa - sydd i’w gweld hyd heddiw.

 

1964 - 1978

Safle Tirlenwi

Yn ystod pennod drist yn hanes Cosmeston, gwelwyd y chwarel yn cael ei defnyddio am sawl blwyddyn fel safle tirlenwi ar gyfer gwastraff cartrefi. Rhoddwyd caniatâd  i daflu gwastraff cartrefi i Gyngor Cylch Trefol Penarth yn 1964. Pan ddaeth dyddiau’r chwarel i ben, taflwyd gwastraff cartrefi ar y safle tan 1978, pan ddechreuwyd ar y gwaith o ddatblygu’r Parc Gwledig.

 

Roedd pedair ardal chwarelu ar y safle. Mae’r llynnoedd sy’n nodweddu’r parc heddiw ar safle dwy o’r rhain, a defnyddiwyd y ddwy arall ar gyfer tirlenwi. Cawsai ardaloedd y tirlenwi eu tirlunio i ffurfio dolydd eang o flodau gwyllt a glaswelltir agored sy’n ymestyn hyd at ymyl gogleddol Cosmeston.

 

Saif llynnoedd a dolydd Cosmeston bob ochr i Mile Road, y prif lwybr troed sy’n rhedeg drwy’r Parc Gwledig. 

 

Heddiw, ychydig iawn o olion sy’n adlewyrchu gorffennol amrywiol mwy diweddar Cosmeston. Fe welir un o wagenni’r rheilffordd gul, a gludai carreg galch yn ystod cyfnod y chwarel, yn y maes parcio.

 

Yn 1966, mewn papur gwyn gan y llywodraeth, argymhellwyd sefydlu parciau gwledig hygyrch o fewn cyrraedd hawdd i drefi mawr a dinasoedd, a gorau oll os oedd y rhain ar safleoedd a oedd angen eu hadfer. Roedd Cosmeston yn ddelfrydol – trawsffurfiwyd tir wedi’i ddifetha, yn agos at Benarth a’r Barri a heb fod yn bell o Gaerdydd, yn ardal gefn gwlad ar riniog drws trigolion y ddinas.


Cyngor Sir De Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg ar y cyd a adferodd y tir i greu ardal o gefn gwlad diogel a hygyrch. Agorwyd y parc gwledig yn 1978 ac mae’n parhau i gael ei ddatblygu a’i wella. Caiff cefn gwlad y parc gwledig ei reoli mewn modd sensitif, sy’n cloriannu gofynion cadwraeth a hamdden.

 

Os oes gennych luniau diddorol neu wybodaeth am hanes Cosmeston, buasai staff y parc gwledig wrth eu bodd yn clywed gennych.