Cost of Living Support Icon

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)

Ardaloedd sy’n cael eu gwarchod oherwydd eu nodweddion biolegol neu ddaearegol yw Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

                                                                                                           

Aerial picture showing the SSSI boundary at Cosmeston Lakes

Dynodiad cadwraeth sy’n gartref i rai o’r cynefinoedd, rhywogaethau a nodweddion pwysicaf yw SSSI. Mae dros fil o safleoedd o’r fath yng Nghymru, sy’n ymestyn dros 235,000 hectar, sef ychydig dros 12 y cant o arwyneb tir y wlad.

 

Mae SSSI wedi eu hamddiffyn gan y gyfraith yn erbyn niwed gan waith datblygu neu arferion rheoli niweidiol.

 

Gall SSSI amrywio’n sylweddol o ran maint. Y lleiaf yw safle clwydo’r ystlum bach trwyn pedol yn Sir Benfro, sy’n ddim ond 0.004ha, a’r mwyaf yw mynyddoedd y Berwyn a’u 24,321ha o rostiroedd, corsydd eang ac adar yr ucheldir sy’n gysylltiedig â nhw. 

 

 

Mae 25.6ha o Barc Gwledig Llynnoedd Cosmeston wedi eu dynodi’n SSSI i warchod planhigyn prin o’r enw rhawn yr ebol serennog (Nitellopsis obtuse). Mae rhawn yr ebol serennog yn ffafrio llynnoedd rhwng un a chwe metr o ddyfnder, ar dir isel, mewn dyfroedd calchog sy’n agos at yr arfordir fel arfer, felly mae llynnoedd Cosmeston yn gynefin delfrydol iddo.

 

Yn y DU, mae rhawn yr ebol serennog ar gofrestr y rhywogaethau dan fygythiad, ac mae’n brin ledled Ewrop yn ogystal. Y prif ffactorau sy’n gyfrifol am golled a dirywiad y rhywogaeth yw: dirywiad y cynefin, llygredd dŵr a lefelau dwyster maeth gormodol, yn enwedig yn achos ffosffadau a nitradau.  Ceir gwybodaeth bellach am safleoedd SSSI ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Mae’r fideo hwn yn dangos delwedd 3D o lyn y dwyrain. Casglwyd y wybodaeth gan aelodau clwb sgwba-blymio Cardiff BSAC gyda’u camera sonar.

 

Dyfnder mewn Metrau:

  • Parthau gwyn 9 metr
  • Glas golau 7.5 metr
  • Glas tywyll 6 metr
  • Gwyrdd 4 metr
  • Melyn 3 metr
  • Oren 1 metr
  • Coch llai nag 1 metr