Top

Brig

Y Tymhorau yn Cosmeston

Mae Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston yn newid gyda phob tymor

 

Great Crested Grebe in the water with a chick on her backGwanwyn: Mawrth, Ebrill a Mai

Y gwanwyn yw’r tymor mwyaf cyffrous o’r pedwar, pan fod bywyd newydd yn ffrydio drwy’r Parc Gwledig ar ôl oerfel y gaeaf. Mae blodau’n britho’r dolydd ac mae pili-palod megis y blaen oren, a heidiau o bryfed eraill yn ymddangos, wedi eu denu gan yr arogleuon a’r lliwiau wrth iddynt flaguro.

 

O fynd am dro drwy’r goedwig, fe welwch chi  ddant y ci, clychau glas a blodau gwyn, tryloyw garlleg gwyllt. Fe glywir cân yr haf sydd i ddod wrth i’r telor penddu a’r dryw melyn gyrraedd ar eu hymweliad.

 

Edrychwch yn y ffosydd a’r pyllau dŵr ac fe welwch glytiau a llinynnau grifft y llyfant a’r broga, a fydd yn creu miloedd o benbyliaid yn nes ymlaen yn y gwanwyn.

 

Gallwch weld arferion carwriaethol yr alarch a’r wyach fawr gopog hefyd. Cadwch lygad am bâr o wyaich yn ysgwyd eu pennau ac yn perfformio dawns garu ddyfrllyd, osgeiddig.

 

Bydd miliynau o adar ymfudol yn cyrraedd, a theloriaid penddu, gwenoliaid blaen y traeth a thinwynion ymhlith y cyntaf i gyrraedd ym mis Mawrth, a gwenoliaid, cwcwod, ehedyddion ac amryw o deloriaid gwahanol yn eu dilyn ym mis Ebrill a Mai.

 

Dyma dymor diwrnodau hirach, a heulwen y gwanwyn yn hwyluso tyfiant a glesni ym mhob man, y blagur yn ffrwydro a’r dail yn agor. 

Swan on the water with her nine cygnets following

Haf: Mehefin, Gorffennaf ac Awst

Yr haf yw’r tymor cynhesaf o’r pedwar, ac mae’n amser gwych i chwilio am bili-palod a phlanhigion. Bydd y dolydd yn llond eu blodau, ac yn eu plith mae rhywogaethau trawiadol o degeirianau, megis y tegeirian llydanwyrdd a’r tegeirian pigfain. Mae’r rhain a’r llu o flodau eraill yn denu myrdd o fywyd gwyllt. Gwelir planhigion dyfrol blodeuol megis lili’r dŵr, yr iris felen a melyn y gors ger y llynnoedd, y pyllau dŵr a’r ffosydd hefyd.

 

Mae pili-palod yn gymylau ar hyd pob man, megis y pili-pala glas cyffredin, yr iâr fach lygadog, y glöyn trilliw a’r fantell goch. Bydd gwas y neidr a’r fursen yn brysur ar hyd ymylon y dŵr yn gwibio drwy’r gwelyau cyrs yn hel eu hysglyfaeth neu’n gorffwys ar drawstiau cynnes y pren ar hyd y rhodfa bren.

                                                                                                                                  

Mae 16 o rywogaethau yn Cosmeston, yn cynnwys gwas y neidr yr ymerawdwr a phicellwr, a mursen las gyffredin a chynffon-las. Mae’r coetir yn llond ei ddail, ac yn fan delfrydol i gysgodi rhag yr haul ac efallai weld brithbin porffor neu bili-pala brith y coed.

 

Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’r adar yn brysur yn hwyr gyda’r nos, yn chwilota am fwyd i’w cywion, a bydd hwyaid bach a chywion alarch yn dilyn eu rhieni ac archwilio’r llynnoedd. Bydd glannau bas y llyn hefyd yn denu nifer o’r pysgod sy’n byw yno, megis llyswennod, cochiaid, rhuddbysgod, merfogiaid a cherpynnod. 

A squirrel up a tree with an acorn in his mouth

Hydref: Medi, Hydref a Thachwedd

Daw’r hydref â’i newidiadau rhyfeddol – mae’r dail yn troi’n goch ac aur, yr awel yn miniogi a nifer o adar cyfarwydd yr haf yn paratoi i ymfudo dros y gaeaf.

 

Hwn yw’r cyfle olaf i lawer o adar, llygod y gwair a llygod cyffredin wledda ar gyfoeth aeron y ddraenen wen a’r ddraenen ddu cyn dyfodiad y tywydd oer, ynghyd â ffrwythau, hadau a chnau eraill sydd bellach yn tyfu yn y cloddiau a’r goedwig.

 

Mae gwiwerod yn brysur ar yr adeg hon hefyd, yn casglu cymaint o fwyd â phosibl i’w storio ar gyfer misoedd y gaeaf.

 

Mae ffyngau rhyfedd yn tyfu yn yr hydref, wedi eu denu gan leithder cynyddol yn yr aer. Gall ymwelwyr craff weld ambareli bwgan a ffwng bachog.

 

Mi fyddwch chi’n clywed y robin goch yn canu’n aml. Mae’n aderyn sy’n nodweddu’r hydref a’r gaeaf, ac mae’n canu gydol y flwyddyn, yn annhebyg i adar eraill.

 

Bydd adar bach yn prysur fanteisio ar y cyflenwad bwyd cyforiog i besgi gymaint â phosibl cyn misoedd caled y gaeaf. 

Swans and ducks stood in line in the snow feeding on corn

Gaeaf: Rhagfyr, Ionawr a Chwefror

Yn y tywydd garw a’r tymheredd oerach, bydd coed diosgol yn colli eu dail a bydd gwe pry cop yn rhewi. Mae’r diwrnodau’n fyr, ac mi fydd yr holl greaduriaid, yn enwedig adar bach, yn treulio oriau golau dydd yn chwilota am ddigon o fwyd i oroesi. Gall rhew ac iâ ei gwneud yn llawer anoddach iddynt ddod o hyd i fwyd.

 

I’r creaduriaid rheiny nad sydd wedi ymfudo dros y gaeaf nac wedi gaeafu, yr her yw cadw’n fyw tan y gwanwyn. Pob gaeaf, mae’r llynnoedd yn denu heidiau o adar hela ymfudol, a bydd rhai ohonynt wedi teithio dros fil o filltiroedd i dreulio’r gaeaf yn Cosmeston.

 

Mae elyrch mud, hwyaid gwyllt a chwtieir yn byw ar lyn y dwyrain gydol y flwyddyn. Mae llyn y gorllewin yn denu amrywiaeth fawr o hwyaid, megis corhwyaid chwibanog, hwyaid copog, hwyaid pengoch a hwyaid llydanbig, yn ogystal ag un o brif atyniadau byd adar, aderyn y bwn. Ymhlith ymwelwyr gaeafol eraill ceir esgyll cochion, adar yr eira ac weithiau, adenydd cwyr.

 

Yn aml iawn yn ystod y gaeaf, bydd rhannau o’r llynnoedd, os nad llyn cyfan, yn rhewi’n gorn, a’i gwneud yn amhosibl i elyrch a hwyaid fwyta. Gall hyn arwain at yr achlysuron prin rheiny pan fydd ceidwaid yn gorfod dosbarthu sacheidiau o yd iddynt. Yn y llun ar y chwith, gallwch eu gweld yn ymuno â’r gwt cinio. 

 

 

Rhannu Hoffi