Cost of Living Support Icon

Hanes ac Ail-greu

Mae perchnogaeth y tir o amgylch Cosmeston wedi newydd dwylo sawl gwaith ers i’r Normaniaid ddod i Gymru.

 

Ceir yma olwg gryno ar y newidiadau rheiny, a phwy neu beth gafodd y dylanwad mwyaf ar y pentref.

 

Unfed ganrif ar ddeg O. C

Dydy hi ddim yn hysbys pwy oedd yn berchen ar y tir o amgylch Cosmeston cyn i’r Normaniaid ddod i Gymru. Gorweddai yn iseldiroedd amaethyddol cyfoethog brenhiniaeth Gymreig Morgannwg, a goncrwyd tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg O. C. gan yr arglwydd Normanaidd Robert Fitzhamon, a sefydlwyd Arglwyddiaeth Morgannwg bryd hynny.

 

Ymhlith dilynwyr Fitzhamon roedd teulu de Costentin o benrhyn Cotentin yng ngogledd Ffrainc. Y rhain oedd arglwyddi hysbys cyntaf maenor Cosmeston, a rhoesant eu henw i’r pentref, Costentinstune (lleoliad y teulu de Costentin).

 

Y teulu Costentin a adeiladodd y maenordy gwreiddiol, ac ambell dyddyn neu fferm fach, o bosib, ond am y ddwy ganrif wedyn, mae’n debyg na fu llawr o ddatblygiadau pellach. Ni sefydlwyd eglwys Normanaidd yn y cyffiniau erioed, a oedd yn lled anghyffredin yn y cyfnod.

1317

Erbyn 1317 roedd y maenordy wedi symud o ddwylo’r teulu de Costentin family i’r teulu de Caversham, ac yna trosglwyddwyd yr eiddo i’r teulu Herbert yn 1550. Cysylltir perchnogaeth Cosmeston â pherchnogaeth Castell Caerdydd.

Picture of John 4th Earl-of-Bute with wife Charlotte and Cardiff castle in background

1766

Yn 1766, pan briododd John, pedwerydd Iarll Bute, â Charlotte Windsor, daeth y tir yn berchen i’r teulu a fyddai’n cael y dylanwad mwyaf drosto, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

  

Y teulu Bute a adeiladodd yr heol sy’n rhedeg drwy ganol y parc gwledig a heibio i’r pentref. Mile Road yw hwn, ac mae’n rhedeg o fferm Cogan Hall yn y gogledd i Swanbridge, a fu unwaith yn borthladd bach a gludai nwyddau ar draws Môr Hafren i Wlad yr Haf.

1824

Erbyn 1824, pedwar tyddyn diarffordd a Ffermdy Little Cosmeston, fel y’u gwelir ar fapiau manwl y Marcwis Bute o’r cyfnod, oedd unig olion pentref Cosmeston. Mae’n ddigon posibl y bu farw y rhan fwyaf o’r pentrefwyr yn ystod pla du y 1340au. 

The uncovered foundations of the medieval buildings1978

Er 1978, bu Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston a’r Pentref Canoloesol yn perthyn i Gyngor Bro Morgannwg. Ceir yr hanes mewn mwy o fanylder yn y ddogfen pdf hon: History of Cosmeston Medieval Village (Saesneg yn unig).

 

Yn ystod gwaith cloddio datblygu Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston yn 1978 a gyflawnwyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent, datgelwyd olion adeiladau o’r drydedd a’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Esgorodd hyn ar gomisiynu cynllun ymchwil tymor hir ar y safle.

 

Datgelodd yr Ymddiriedolaeth olion cymuned a oedd dros 600 mlwydd oed, ac felly y dechreuodd cynllun archeolegol unigryw i adfer pentref canoloesol Cosmeston. Prif arwyddocâd y pentref canoloesol yw ei raddfa, gan fod y rhan fwyaf o ddarganfyddiadau tebyg wedi bod yn dipyn llai o ran maint a chwmpas. 

 

Yn Cosmeston, mae’r archeolegwyr wedi cael cyfle i gloddio dros gyfnod hir. Yn sgil y cloddfeydd hyn, cynhaliwyd adferiad pentref canoloesol wrth raddfa ar ei safle a’i seiliau gwreiddiol. Mae’r cloddfeydd wedi eu dadansoddi a’u cyflwyno i Gyngor Bro Morgannwg er mwyn darparu darlun cywir o’r dreflan a ddarganfuwyd yn Cosmeston.

 

Yn ystod y gwaith cloddio manwl, datgelwyd gweddillion seiliau a gladdwyd ers canrifoedd, lle bu unwaith cymuned lewyrchus. Yn ogystal, daethpwyd o hyd i ddeunyddiau hynod ddiddorol, gan gynnwys cyllell fetel, crochenwaith canoloesol, esgyrn anifeiliaid a dwy garreg falu cynhanesyddol.

 

Roedd yr ystâd yn rhan o’r tiroedd maenorol oedd yn cyflenwi nifer o bethau moethus i’r arglwydd lleol. Ar dir Cosmeston, safai perllan, llynnoedd pysgod a cholomendy. Mae olion y colomendy wedi eu lleoli yn y cae i’r gorllewin o’r pentref.

 

Partly reconstructed dovecote

1980s

Yn ystod y broses gloddio yn y 1980au, mi benderfynodd Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent, mewn cydweithrediad â’r Awdurdod Lleol, ail-lunio rhai o’r adeiladau a gloddiwyd. Dyma un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous a gododd yn sgil y prosiect hwn.

 

Caiff muriau paralel o garreg calch eu llenwi â rwbel. Mae dwb (cymysgedd o dail gwartheg, clai a gwellt) yn ffurfio clustog, gan wastadu’r cerrig a’u helpu i lynu at ei gilydd. Codir to pren mawr dros y waliau, a fframiau ‘A’ sy’n ffurfio’r prif strwythur cynhaliol.

 

Caiff brigau helyg eu gweu at goed y to i ffurfio sail i’r to gwellt. Caiff toadau cyrs o wlypdiroedd lleol - neu wellt yn absenoldeb cyrs - eu clymu wrth y to. Yn dilyn cloddfa a dadansoddiad archeolegol, ail-luniwyd yr adeiladau gan ddefnyddio deunyddiau a fyddai’n adlewyrchu bywyd canoloesol.

 

Er nad yw’n bosib gwybod i sicrwydd beth fyddai pwrpas adeilad penodol, defnyddir yr holl wybodaeth archeolegol, bensaernïol a hanesyddol i ail-greu adeiladau’r pentref yn y modd agosaf posibl at y gwreiddiol. Yn achos Cosmeston, dyfarnwyd mai gardd a fu mewn ardal amaethyddol aeddfed, ac fe’i plannwyd i adlewyrchu hyn, gan gynnwys amrywiaeth o berlysiau at berwyl coginio a pharatoi meddyginiaethau

Students from Cardiff University history and archaeology department standing at the dig site2011

Yn ystod cloddfa ym mis Gorffennaf 2011, daethpwyd o hyd i nifer o dameidiau o lestr ddŵr wedi ei haddurno â phen hwrdd ar safle’r maenordy. Byddai’r llestri hyn yn cael eu defnyddio gan westeion i olchi eu dwylo wrth y bwrdd bwyd. Dyma’r stori ar wefan y BBC (Saesneg).

 

Mae’r cloddfeydd yn parhau ym Mhentref Canoloesol Cosmeston. Mae Cyngor Morgannwg a Phrifysgol Hanes ac Archeoleg Caerdydd wedi cynnal cloddfeydd ar y safle er mwyn darganfod mwy am archeoleg y safle unigryw hwn.

 

Ymhlith y darganfyddiadau, mae llwybr hynafol a fyddai o bosib wedi cael ei ddefnyddio i arwain anifeiliaid i yfed yn Nant y Sili ger llaw, ac adran o fur a allai fod yn perthyn i adeilad a elwid yn Gastell Cosmeston..