Mynediad i Ganolfannau Hamdden i Bobl ag Anabledd
Ceir manylion yr adnoddau sydd ar gael i gwsmeriaid ag anabledd yng nghanolfannau hamdden y Fro isod.
Disable Access information
| Canolfan Hamdden y Barri | Canolfan Hamdden y Bont-faen | Canolfan Hamdden Llanilltud Fawr | Canolfan Hamdden Penarth |
Cilfachau parcio penodedig |
Oes |
Oes |
Oes |
Oes |
Prif dderbynfa hygyrch |
Oes |
Oes |
Oes |
Oes |
Yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn |
Ydy |
Ydy |
Nac ydy |
Ydy |
Cylchwifren yn y dderbynfa |
Oes |
Oes |
Oes |
Oes |
Toiledau hygyrch
|
Oes |
Oes |
Oes |
Oes |
Ystafelloedd newid hygyrch |
Oes |
Oes |
Nac oes |
Oes |
Teclyn codi wrth y pwll nofio
|
Oes |
Ddim yn berthnasol |
Oes |
Oes |
Ystafell newid i gwsmeriaid ag anabledd
|
Nac oes |
Oes |
Nac oes |
Oes |
Canolfan Hamdden Y Barri
- Mynediad ramp i'r Ganolfan.
- Cownter is wrth ddesg y dderbynfa.
- Yr holl arwyddion mewn Braille.
- Lifft hygyrch i'r llawr cyntaf.
- Toiledau hygyrch ar y ddau lawr.
- Mynediad bas a grisiau i’r pwll nofio bach, a rheiliau llaw.
- Mae’r prif bwll nofio ar lefel y dec a theclyn codi ar gyfer mynediad.
- Ystafell newid benodol wrth ymyl y pwll nofio.
- Mae llawer o’r cyfarpar Lifestyle yn y gampfa wedi derbyn achrediad y Cynllun Ffitrwydd Cynhwysol (IFI).
- Cyfarpar cyferbyniad eglur i bobl â nam ar eu golwg.
- Mae’r beiciau braich a’r cyfarpar gwrthbwysau’n hygyrch i gadeiriau olwyn.
- Lifft i’r stiwdio ffitrwydd.
- Mae’r rhan fwyaf o’r staff wedi’u cymhwyso yng Nghynllun Atgyfeirio’r Wright Foundation.
- Mae pedwar aelod o staff wedi’u cymhwyso i lefel 4 Cymdeithas Brydeinig Adferiad y Galon (BACR).
- Cynhelir dosbarthiadau NERS drwy gydol yr wythnos, a dosbarth er lles y galon ar ddydd Mawrth.
- Mae'r Ganolfan yn rhan o'r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (NERS)ac mae yma un cydlynydd a thri gweithir proffesiynol yn y maes.
Canolfan Hamdden Y Bont-faen
- System symudol cylchwifren clyw.
- Cyfarpar hygyrch yn y stiwdio Lifestyle, yn cynnwys cynorthwyon golwg a chylchwifren.
- Cylchwifren clyw yn y dderbynfa.
- Arwyddion Braille.
- Drysau awtomatig yn y fynedfa.
- Lifft o’r llawr gwaelod i’r llawr cyntaf.
- Ystafell ‘Changing Places’ benigamp.
- Toiledau hygyrch i fyny’r grisiau.
- Cilfachau parcio penodedig ag ymylon parcio isel a rampau’n arwain i mewn i’r adeilad.
- Mae llawer o’r cyfarpar Lifestyle yn y gampfa wedi derbyn achrediad y Cynllun Ffitrwydd Cynhwysol (IFI).
- Cyfarpar cyferbyniad eglur i bob â nam ar eu golwg.
- Mae’r beiciau braich a’r cyfarpar gwrthbwysau’n hygyrch i gadeiriau olwyn.
- Lifft i’r stiwdio ffitrwydd.
- Mae’r ganolfan hefyd yn croesawu grŵp Insight Bro Morgannwg (i bobl sy’n gweld yn rhannol) bob yn ail ddydd Mercher o 10.30am–12.30pm.
Canolfan Hamdden Llanilltud Fawr
- Cylchwifren clyw yn y dderbynfa.
- Teclyn codi i’r pwll nofio.
- Arwyddion Braille.
- Drysau awtomatig yn y fynedfa.
- Mae cyfarpar campfa Lifestyle yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn a phobl â nam ar eu golwg.
- Mae’r staff wedi eu hyfforddi mewn ymwybyddiaeth o anghenion pobl ag anabledd.
- Lifft o’r llawr gwaelod i’r llawr cyntaf.
- Toiledau hygyrch ar y llawr gwaelod.
- Cilfachau parcio penodedig.
- Ramp i fynd i mewn i ystafelloedd newid y pwll nofio.
Canolfan Hamdden Penarth
- Cilfachau parcio penodedig ag ymylon parcio isel a rampau’n arwain i mewn i’r adeilad.
- Drysau awtomatig yn y fynedfa, cylchwifren clyw a chownter isel yn y dderbynfa.
- Arwyddion Braille.
- Ystafell ‘Changing Places’ benigamp.
- Drysau mwy a phadiau cyffwrdd ar gyfer mynediad.
- Teclyn codi, rheiliau llaw a grisiau bas i’r pwll nofio.
- Carped cyferbyniol wrth nesáu at y grisiau a desg y dderbynfa.
- Dosbarth er lles y galon ar ddydd Mawrth a dydd Iau.
Os oes gennych ymholiadau pellach, ffoniwch y canolfannau hamdden ar 01446 403000.