Top

Brig

Dod o hyd i'ch Llyfrgell Leol

Mae naw llyfrgell ym Mro Morgannwg.

Mae yma bedair llyfrgell llawn amser a phum llyfrgell gymunedol. Cewch fanylion cyswllt, oriau agor a rhestr o’u gwasanaethau ar eu tudalennau unigol.

find a library

Llyfrgelloedd dan reolaeth Bro Morgannwg

Mae pedair llyfrgell llawn amser ym Mro Morgannwg 

 

  •  Llyfrgell y Barri, Llyfrgell y Sir, King Square, Y Barri, CF63 4RW

    Yn Llyfrgell y Barri ceir y dewis mwyaf o lyfrau yn y Fro, ynghyd â chasgliad amrywiol o gerddoriaeth a DVDs. Gall aelodau ddychwelyd a benthyg eu llyfrau drwy ddefnyddio’r adnodd hunanwasanaeth.

     

    Mae prif lyfrgell ymchwil a chasgliadau o astudiaethau lleol ar lawr cyntaf y llyfrgell. Yn ogystal, mae yma:

     

     - ystafell technoleg gwybodaeth 

     - parth plant a phobl ifanc

     - ystafell gymunedol

     - mynediad am ddim i gyfrifiadur a’r rhyngrwyd ac mae adnoddau sganio ac argraffu ar gael

     - cyswllt diwifr am ddim (ar gael drwy’r Cwmwl)

     - peiriant llungopïo du a gwyn A4 ac A3

     - gwasanaeth ffacs

     - papurau newydd a chylchgronau

     - ystafelloedd cyfarfod i’w llogi

     

    Llogi Ystafell

    Mae Ystafell Philip John, yr Ystafell Gymunedol Fach, yr ystafell gyfrifiaduron a’r ystafell fwrdd ar gael i’w llogi. Am wybodaeth bellach, ewch i’r dudalen prisiau a ffioedd.

     

    Hygyrchedd: mae’r llyfrgell ar ddau lawr. Mae yma ddrysau mynediad awtomatig, lifft ac adnoddau toiled hygyrch. Ceir cylched clyw wrth bob cownter. Ymhlith yr adnoddau eraill mae Zoomtext ar nifer o’r cyfrifiaduron, cyfrifiadur wedi’i addasu, chwyddwydr Smartview a sganiwr sy’n chwarae’r gair printiedig yn ôl. 

     

    Rhif ffôn: 01446 422425 (ymholiadau cyffredinol) / 01446 422423 (ymholiadau ymchwil)

    Ffacs: 01446 709377

    E-bost: barrylibrary@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Cyfarwyddiadau a map

     

    Oriau agor

    -
    Dydd Llun  9.30am - 7.00pm
    Dydd Mawrth  9.30am - 5.30pm
    Dydd Mercher  9.30am - 5.30pm
    Dydd Iau  9.30am - 5.30pm
    Dydd Gwener  9.30am - 5.30pm
    Dydd Sadwrn  9.30am - 4.00pm

     

  •  Llyfrgell y Bont-faen, Yr Hen Neuadd, High Street, Y Bont-faen CF71 7AH

    Mae Llyfrgell y Bont-faen yn lle golau, croesawus a bywiog ac mae yma rywbeth i bob aelod o’r teulu. Ceir yma ystafell technoleg gwybodaeth, ardal ar wahân i blant a pheiriannau hunanwasanaeth. Yn ogystal, mae yma: 

     

     - amrywiaeth eang o lyfrau, cerddoriaeth, DVDs a llyfrau llafar

     - ardal i blant lle mae llyfrau a phum cyfrifiadur at eu defnydd nhw yn unig

     - casgliad hanes lleol

     - ystafell gyfrifiaduron a deg peiriant ynddi

     - mynediad am ddim i gyfrifiadur a’r rhyngrwyd ac mae adnoddau sganio ac argraffu ar gael

     - cyswllt diwifr am ddim (ar gael drwy’r Cwmwl)

     - peiriant llungopïo du a gwyn A4 ac A3

     

    Hygyrchedd: mae’r llyfrgell i gyd ar yr un llawr. Mae yma ddrysau mynediad awtomatig ac adnoddau toiled hygyrch. Ceir cylched clyw wrth y cownter. Ymhlith yr adnoddau eraill mae cyfrifiadur wedi’i addasu, chwyddwydr Smartview a sganiwr sy’n chwarae’r gair printiedig yn ôl. 

     

    Rhif ffôn: 01446 773941

    Ffacs: 01446 771353

    E-bost: CowbridgeLibrary@valeofglamorgan.gov.uk 

     

    Cyfarwyddiadau a map

     

     

    Oriau agor

    -
    Dydd Llun 10.00am - 5.00pm
    Dydd Mawrth 10.00am - 5.00pm
    Dydd Mercher 10.00am - 7.00pm
    Dydd Iau 10.00am - 5.00pm
    Dydd Gwener 10.00am - 5.00pm
    Dydd Sadwrn 10.00am - 4.00pm
  • Llyfrgell Llanilltud Fawr, Boverton Road, Llanilltud Fawr, CF61 1XZ

    Cafodd Llyfrgell Llanilltud Fawr ei hailwampio yn ddiweddar, a bellach mae’n llyfrgell gyfoes, golau a deniadol sy’n cynnig gofod cynnes, croesawus i’w holl ddefnyddwyr.

     

     - amrywiaeth eang o lyfrau, DVDs a llyfrau llafar

     - ardal liwgar i blant a phedwar cyfrifiadur at eu defnydd nhw yn unig

     - casgliad hanes lleol

     - mynediad am ddim i gyfrifiadur a’r rhyngrwyd ac mae adnoddau sganio ac argraffu ar gael

     - cyswllt diwifr am ddim (ar gael drwy’r Cwmwl)

     - peiriant llungopïo du a gwyn A4 ac A3

     - byrddau lle gellir astudio, darllen neu fwynhau tawelwch.

     

    Hygyrchedd: ceir mynediad i’r llyfrgell ar ramp concrit â llethr fechan sy’n arwain at ddrysau mynediad awtomatig. Mae maes parcio o fewn pellter cerdded rhwydd. Ceir cylched clyw wrth y cownter, ac mae yma doiledau cyhoeddus.

     

    Rhif ffôn: 01446 792700

    E-bost: LlantwitMajorLibrary@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Cyfarwyddiadau a map

     

     

    Oriau agor

    -
    Dydd Llun 10.00am - 5.00pm
    Dydd Mawrth 10.00am - 7.00pm
    Dydd Mercher 10.00am - 5.00pm
    Dydd Iau 10.00am - 5.00pm
    Dydd Gwener 10.00am - 5.00pm
    Dydd Sadwrn 10.00am - 4.00pm

     

  •  Llyfrgell Penarth, Stanwell Road, Penarth, CF64 2YT

    Mae gan Lyfrgell Penarth amrywiaeth eang o lyfrau i’w benthyg ynghyd â llyfrgell aml-gyfrwng sylweddol ac amrywiol, lle ceir y ffilmiau, cyfresi teledu a’r gerddoriaeth ddiweddaraf.

     

     - mynediad am ddim i gyfrifiadur a’r rhyngrwyd ac mae adnoddau sganio ac argraffu ar gael

     - cyswllt diwifr am ddim (ar gael drwy’r Cwmwl)

     - peiriant llungopïo du a gwyn A4 ac A3

     - gwasanaeth ffacs

     - papurau newydd a chylchgronau

     - casgliad hanes lleol.

     

    Hygyrchedd: mae ramp a grisiau’n arwain ar fynediad y llyfrgell. Y tu mewn i’r adeilad, gall ymwelwyr ddefnyddio’r lifft i gyrraedd y llawr cyntaf neu’r llawr gwaelod. Ceir cylched clyw wrth y cownter. Mae ambell le parcio ar y stryd o flaen y llyfrgell. 

     

    Rhif ffôn: 029 2070 8438

    Ffacs: 029 2070 6564

    E-bost: PenarthLibrary@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Oriau agor

    Dydd Llun 10.00am - 5.00pm
    Dydd Mawrth 10.00am - 5.00pm
    Dydd Mercher 10.00am -  5.00pm
    Dydd Iau 10.00am - 7.00pm
    Dydd Iau 10.00am - 5.00pm
    Dydd Sadwrn 10.00am - 4.00pm

     

Llyfrgelloedd o dan Reolaeth Gymunedol

Mae pum llyfrgell o’r fath ym Mro Morgannwg

Caiff llyfrgelloedd o dan reolaeth cymunedol eu rhedeg gan grwpiau cymunedol lleol gyda chefnogaeth Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth y Fro. 

 

  • Llyfrgell Gymunedol Dinas Powys, Fairoaks, The Murch, Dinas Powys CF64 4QU

    Mae amrywiaeth eang o lyfrau i blant ac oedolion yn Llyfrgell Dinas Powys, ac mae yma wyth cyfrifiadur â mynediad am ddim i’r rhyngrwyd. Yn ogystal, mae yma: 

     

     - gwybodaeth ymchwil mewn copi caled ac ar-lein

     - llyfrau llafar a llyfrau print bras

     - ffacs, llungopïo

     - llyfrau Cymraeg

     - deunydd dysgu ieithoedd tramor

     

    Hygyrchedd: mae maes parcio bach gan y llyfrgell. Ceir mynediad i’r adeilad drwy ddrysau awtomatig. Mae’r llyfrgell ar un llawr, a cheir cownter isel â chylched clyw ymghlwm.

     

    Os hoffech wirfoddoli yn y llyfrgell, cysylltwch â chroeso:

    Rhif ffôn: 029 2051 2556

    E-bost: khatton263@btinternet.com

    Facebook: www.facebook.com/dinaspowyslibrary

     

    Cyfarwyddiadau a map

     

     

    Oriau agor

    -
    Dydd Llun 10.00am - 12:00pm  2:00pm - 4:30pm
    Dydd Mawrth 10.00am - 12:00pm  2:00pm - 4:30pm
    Dydd Mercher 10.00am - 12:00pm  2:00pm - 4:30pm
    Dydd Iau 10.00am - 12:00pm Ar gau
    Dydd Gwener 10.00am - 12:00pm 2:00pm - 4:30pm
    Dydd Sadwrn 10.00am - 12:00pm Ar gau

     

  • Llyfrgell Gymunedol y Rhws, Fontygary Road, Y Rhws CF62 3DS

    Mae amrywiaeth eang o lyfrau i blant ac oedolion yn Llyfrgell y Rhws, yn ogystal â phedwar cyfrifiadur â chyswllt am ddim â’r rhyngrwyd. Ceir yma hefyd:

     

     - gwybodaeth ymchwil mewn copi caled

     - llyfrau llafar a llyfrau print bras

     - llungopïo

     - llyfrau Cymraeg

     

    Hygyrchedd: ceir gofod hygyrch penodol yn y maes parcio bach. Mae mynediad i’r adeilad drwy ddrysau awtomatig (gan ddefnyddio botwm gwthio) ac mae troad union i’r dde mewn cyntedd bach. Ceir cylched clyw yn y llyfrgell.

     

    Os hoffech wirfoddoli yn y llyfrgell, cysylltwch â chroeso:

    Rhif ffôn: 01446 710220

    E-bost: rhooselibrary@yahoo.co.uk

    Facebook: facebook.com/rhoosecommunitylibrary

     

    Cyfarwyddiadau a map

     

     

    Oriau agor

    -
    Dydd Llun 10.00am - 1.00pm / 2.00pm - 5.00pm
    Dydd Mawrth 10:00am - 12:00pm
    Dydd Mercher 10.00am - 1.00pm / 2.00pm - 5.00pm
    Dydd Iau 10:00am - 12:00
    Dydd Gwener 10.00am - 1.00pm / 2.00pm - 4.00pm
    Dydd Sadwrn 10:00am - 12:00pm

     

  • Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Sain Tathan, Yr Hen Ysgol Gynradd, Church Lane CF62 4PL

    Mae Llyfrgell Sain Tathan yng nghanol y pentref, ger swyddfa’r post. Mae naws gyfeillgar yn y gangen, a cheir yma amrywiaeth dda o lyfrau a llyfrau llafar poblogaidd i oedolion a phlant.

     

    Mae yma chwe chyfrifiadur wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd a gwasanaeth llungopïo A4. 

     

    Hygyrchedd: mae ramp yn arwain ar ddrws y llyfrgell. Ceir cylched clyw wrth ddesg y llyfrgell. Gellir parcio yn y lôn wrth ymyl y llyfrgell. Nod oes adnoddau toiled yma. 

     

    Os hoffech wirfoddoli yn y llyfrgell, cysylltwch â chroeso:

    Rhif ffôn: 01446 751497

    E-bost:  SACHaL@stathancommunityhubandlibrary.org

     

    Cyfarwyddiadau a map

     

     

    Oriau agor

    -
    Dydd Llun Ar gau
    Dydd Mawrth 9.30am - 12.30pm
    Dydd Mercher Ar gau
    Dydd Iau 2.00pm - 6.00pm
    Dydd Gwener Ar gau
    Dydd Sadwrn 9.30am - 12.30pm

     

  • Ymddiriedolaeth Llyfrgell Gymunedol y Sili a Larnog, South Road CF64 5SP

    Mae amrywiaeth eang o lyfrau i blant ac oedolion yn Llyfrgell y Sili, ac mae yma bedwar cyfrifiadur â mynediad am ddim i’r rhyngrwyd. Yn ogystal, mae yma:

     

     - gwybodaeth ymchwil

     - cyswllt diwifr am ddim

     - llyfrau llafar a llyfrau print bras

     - llyfrau Cymraeg

     - adnoddau ailgylchu swyddogol Bro Morgannwg.

     

    Hygyrchedd: mae gofod parcio hygyrch penodol yn union o flaen y llyfrgell a thoiled hygyrch y tu mewn iddi. Ceir cylched clyw wrth ddesg y llyfrgell. 

     

    Os hoffech wirfoddoli yn y llyfrgell, cysylltwch â chroeso:

    Rhif ffôn: 029 2053 1267

    E-bost: sullylibrarytrust@gmail.com

     

    Cyfarwyddiadau a map

     

     

    Oriau agor

    -
    Dydd Llun Ar gau
    Dydd Mawrth 11.00am - 6.00pm
    Dydd Mercher Ar gau
    Dydd Iau 3.00pm - 6.00pm
    Dydd Gwener Ar gau
    Dydd Sadwrn 9.00am - 1.00pm

     

  • Llyfrgell Gymunedol Gwenfô Cyfyngedig, Canolfan Gymunedol Gwenfô, Gwenfô CF5 6AL

    Llyfrgell bentref brysur yw Llyfrgell Gwenfô, ac mae’r gymuned leol yn gwneud defnydd helaeth ohoni ar gyfer darllen hamdden. Mae casgliad da o’r llyfrau print a’r llyfrau llafar diweddaraf ar gael, ac mae’r stoc yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Mae pedwar cyfrifiadur wedi eu cysylltu â’r rhyngrwyd yma, a pheiriant llungopïo A4 at ddefnydd y cyhoedd. 

     

    Hygyrchedd: mae maes parcio tipyn o faint wrth ymyl y llyfrgell. Ceir mynediad i fyny llethr fechan i’r drws blaen. Ceir cylched clyw wrth y cownter ac adnoddau toiled hygyrch.

     

    Os hoffech wirfoddoli yn y llyfrgell, cysylltwch â chroeso:

    Rhif ffôn: 029 2059 4176

    Facebook: www.facebook.com/wenvoe

     

    Cyfarwyddiadau a map 

     

     

    Oriau agor

    -
    Dydd Llun Ar gau
    Dydd Mawrth 10.00am - 1.00pm

    Dydd Mercher

    10.00am- 12.00pm / 3.00pm - 5.00pm

    Dydd Iau Ar gau
    Dydd Gwener Ar gau

    Dydd Sadwrn

    9.00am - 1.00pm

    Dydd Sul Ar gau
Rhannu Hoffi