Cost of Living Support Icon
Elderly lady reading

Gwasanaeth Llyfrgell Cartref

Dod â llyfrau i'ch cartref. Mae rhai darllenwyr yn methu cyrraedd eu llyfrgell leol i ddewis eu llyfrau, a does neb all ddod i’r llyfrgell ar eu rhan.

 

Yn benodol i’r darllenwyr hynny, mae gennym Wasanaeth Llyfrgell Cartref, lle caiff sachaid fawr o lyfrau neu lyfrau llafar o blith y stoc yn eich Llyfrgell agosaf eu cludo i’ch cartref gan wirfoddolwyr dethol.

 

Fel arfer, caiff darllenwyr un ymweliad y mis, a gallan nhw gael benthyg hyd at 10 eitem, sydd wedi eu stampio am bedair wythnos. Gellir rhagnodi llyfrau ar-lein yn ogystal.

 

Mae’r cynllun yn rhad ac am ddim, ond mae’n ddibynnol ar gael digon o wirfoddolwyr i gludo’r llyfrau at ein darllenwyr. O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd rhestr aros.

 

Os ydych chi’n credu bod y gwasanaeth hwn yn addas i chi, daw aelod o staff i ymweld â chi i drafod eich dilysrwydd a chael sgwrs am eich diddordebau a’ch chwaeth mewn llyfrau.Byddwch chi wedyn yn cael eich paru â gwirfoddolwr sydd wedi derbyn gwiriad heddlu (DBS) ac sy’n meddu ar gerdyn adnabod â llun arno gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

Os ydych chi’n adnabod rhywun allai fod yn ddilys i dderbyn y gwasanaeth hwn, neu os oes gennych ymholiadau pellach, cysylltwch â Melanie Weeks:

 

Man carrying a pile of books

Gwirfoddolwyr

Dim ond â chymorth tîm brwdfrydig a gweithgar o wirfoddolwyr y gall ein Gwasanaeth Llyfrgell Cartref barhau i fod, ac mae’r tîm yn gweithio o’u llyfrgell leol ac yn cludo llyfrau i fenthycwyr cartref yn eu hardal.

 

Gall unrhyw oedolyn wneud cais i fod yn wirfoddolwr gyda Llyfrgelloedd y Fro. Yr hyn sydd ei angen arnoch ydy: personoliaeth gyfeillgar, diddordeb mewn llyfrau a darllen, profiad o gydweithio â phobl a dealltwriaeth o anghenion pobl mewn oed a phobl ag anabledd. Bydd hefyd arnoch chi angen trwydded yrru ddilys a mynediad i gar sydd wedi ei yswirio a chanddo dystysgrif MOT.

 

Bydd pob gwirfoddolwr yn cael ei gyfweld a bydd gofyn iddynt ddarparu geirda. Caiff pawb eu gwirio gan yr heddlu (DBS) a byddan nhw’n derbyn cerdyn adnabod â llun arno. Telir costau teithio ar y gyfradd safonol.