Cost of Living Support Icon

Ymaelodi â’ch Llyfrgell Leol 

Cyfle i gael benthyg llyfrau, cerddoriaeth a ffilmiau a defnyddio adnoddau ar-lein llyfrgelloedd y Fro.

 

A Gall unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn y Fro ymaelodi ag un o lyfrgelloedd Bro Morgannwg. Mae naw llyfrgell yn y Fro, ac mae dewis eang o adnoddau ym mhob un.

join the library
Person

Ymaelodi â’r llyfrgell

Mae ymuno â'ch llyfrgell leol yn gyflym ac yn hawdd.  Dim ond llenwi ein ffurflen ar-lein sydd raid i gael mynediad yn y fan a’r lle i'n hystod eang o adnoddau ar-lein.

 

Ymaelodi â’ch Llyfrgell Leol ar-lein

 

Ar ôl i chi gofrestru ar-lein, gallwch uwchraddio eich aelodaeth drwy ymweld ag un o'n canghennau lle gallwn roi cerdyn aelodaeth i chi.

 

Wrth ymweld â changen i gofrestru eich aelodaeth peidiwch ag anghofio dod â’r canlynol gyda chi:

  • Dogfen adnabod sy’n dangos eich enw a chyfeiriad cyfredol

Os ydych chi’n gwneud cais am aelodaeth grŵp, e.e. clwb darllen, efallai fyddwn ni’n gofyn am wybodaeth ychwanegol. 



Ydych chi o dan 16 oed?

Os ydych chi, bydd angen i riant neu warcheidwad warantu eich aelodaeth. Os na allan nhw ddod i’r llyfrgell, mi anfonwn ni lythyr atyn nhw iddyn nhw gadarnhau eu bod yn hapus i chi ymaelodi.

library card

Eich cerdyn llyfrgell 

Unwaith byddwch chi wedi ymaelodi, byddwch yn derbyn cerdyn llyfrgell a rhif unigryw at eich defnydd. Gallwch ddefnyddio’ch cerdyn i gael mynediad i’n gwasanaethau gwych mewn unrhyw lyfrgell yn y Fro. Gallwch chi gael benthyg llyfrau, cerddoriaeth a ffilmiau, mynd ar-lein a defnyddio’n hadnoddau am ddim, a chael benthyg eLyfrau ac eLyfrau Llafar.

exclamation mark

Cofiwch

Cadwch eich cerdyn llyfrgell yn ddiogel, a pheidiwch â rhannu eich rhif unigryw â neb arall, gan mai chi sy’n gyfrifol am bopeth sy’n cael ei fenthyg gyda’r cerdyn hwnnw.

 

Os yw’ch manylion personol yn newid, cysylltwch â’r llyfrgell drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy alw heibio, a hysbyswch ni ar unwaith os ydych chi’n colli’r cerdyn neu os yw’n cael ei ddwyn, er mwyn i ni arbed ei ddefnydd gan neb arall.