Cost of Living Support Icon

Gwasanaethau Amlddiwylliannol

Mae nifer o adnoddau gwahanol ar gael mewn ieithoedd gwahanol yn y Fro.

 

Llyfrgell y Barri

Mae gan Lyfrgell y Barri gasgliad ffuglen sydd ar gael i'w fenthyg yn yr ieithoedd canlynol: Bengaleg, Bwlgareg, Tsieinëeg, Mandarin Tsieinëeg, Gwjarat, Hindŵ, Lithwaneg, Pwyleg (a phlant), Sbaeneg (plant), Twrceg, Wrdw.

 

Mae llawer o adnoddau eraill ar gael yn Llyfrgell y Barri:

  • Darlleniadau Cyflym a Darlleniadau Cyflym gyda CDs i’r rhai sy’n dysgu Saesneg
  • Llyfrau siarad i oedolion ar gael am £1.00 am dair wythnos ac am ddim i blant
  • Llyfrau stori i blant gyda thestun Saesneg ac mewn iaith arall. Nifer o ieithoedd ar gael.
  • Tapiau a CDs iaith am ddim.
  • Defnydd am ddim o’r ystafelloedd cymunedol yn Llyfrgell y Barri i grwpiau cymunedol.
  • DVDs cerddoriaeth i’w llogi am ffi fechan.

 

Camau Cyntaf

Mae Camau Cyntaf yn gwrs ar-lein ar gyfer pobl sy'n newydd i'r cyfrifiadur. Mae'n cynnig opsiwn i weld modiwlau yn Arabeg, Bengaleg, Pwyleg, Somalieg ac Wrdw wrth wrando ar y Saesneg ar lafar. Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiaduron am ddim i ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar lein.

 

Mae Gwasanaeth Llyfrgell y GIG Sheffield yn cynnig gwybodaeth iechyd mewn ieithoedd ar wahân i Saeseng.

 

 

Camau Cyntaf 

 

Pecynnau Croeso i Gymru i Weithwyr Mudol

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio pecynnau Deall Cymru sy’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth am fyw a gweithio yng Nghymru. Y nod yw sicrhau bod gweithwyr mudol sy’n dod i’r wlad hon yn ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau, a’u helpu i ymgartrefu yn eu cymuned leol.

 

Deall Cymru

 

Papurau Newydd a Chylchgronau Ar-lein

Mae mynediad ar-lein i bapurau newydd a chylchgronau ar gael mewn nifer o ieithoedd.

 

Papurau Newydd a Chylchgronau Ar-lein