Grwpiau Darllen
Cofrestru eich grŵp darllen gyda Llyfrgelloedd y Fro
P’un a ydych chi’n dechrau grŵp darllen o’r newydd neu wedi bod yn mynychu un ers blynyddoedd, gall Llyfrgelloedd y Fro gynnig ystod eang o adnoddau a chymorth i chi.
Cofrestrwch eich grŵp gyda gwasanaeth y llyfrgell er mwyn cael benthyg nifer ddigyfyngiad o setiau llyfrau o’n casgliad penodol i grwpiau. Mae deg llyfr ym mhob set, a gellir eu benthyg am gyfnod estynedig yn rhad ac am ddim.
Os ydych chi’n sefydlu grŵp o’r newydd, darllenwch ein canllawiau isod. Ewch i’r tudalennau perthnasol am ysbrydoliaeth neu syniadau ar gyfer eich grŵp.
Am ymholiadau sy’n ymwneud â grwpiau darllen, cysylltwch â Danielle neu Laura yn Llyfrgell y Barri: