Cost of Living Support Icon

Rhoi llyfr ar gadw

Mae’n haws nag erioed i ragnodi eitem o’r llyfrgell

 

Yr hyn fydd ei angen arnoch chi Lady relaxing on beach with laptop

I roi llyfr ar gadw ar-lein, yn gyntaf bydd angen i chi gael rhif PIN o'ch llyfrgell leol, gofynnwch i'r staff yn eich llyfrgell agosaf i ddyrannu un i chi.

 

Unwaith byddwch chi wedi derbyn y rhif, rydych chi’n barod i ddechrau rhagnodi eich eitemau drwy ddefnyddio ein catalog ar-lein

 

 

Sut i roi llyfr ar gadw ar-lein

  1. Cliciwch ar Mewngofnodi yn y ddewislen ar frig y sgrin
  2. Mewnosodwch eich rhif cerdyn Llyfrgell a'ch PIN.
  3. Cliciwch Mewngofnodi.
  4. Dylai eich enw a neges groeso ymddangos nawr ar frig y sgrin.
  5. Chwiliwch am yr eitem yr hoffech ar gadw.
  6. Pan fyddwch wedi dod o hyd i’ch eitem dewisol yn y rhestr o ganlyniadau chwilio, cliciwch Rhoi Ar Gadw ar ochr dde'r eitem.
  7. Bydd blwch deialog yn ymddangos, gwiriwch fod y lleoliad casglu’n gywir (yn ddiofyn, hyn bydd eich cangen gartref). Os nad yw’n gywir, cliciwch ar y lleoliad a dewiswch eich cangen dewisol o'r ddewislen.
  8. Cliciwch Rhoi Ar Gadw.
  9. Dylai neges ymddangos yn cadarnhau bod eich dewis wedi'i osod yn llwyddiannus a dylech glicio Iawn.
  10. I weld statws eich dewisiadau ar gadw ar unrhyw adeg, cliciwch ar Fy Nghyfrif a restrir ar frig y sgrin.
  11. Yna cliciwch ar y ddolen Ar Gadw.
  12. Bydd rhestr o’ch dewisiadau ar gadw yn ymddangos.
  13. O'r rhestr hon, gallwch weld statws eich dewisiadau ar gadw neu gallwch olygu'r lleoliad casglu, gohirio’r dyddiad ar gadw neu ddileu'r dewis ar gadw'n gyfan gwbl.
  14. Cofiwch glicio Ymadael ar ddiwedd eich sesiwn.