Cost of Living Support Icon

Babanod wrth eu bodd â llyfrau

Mae croeso i bawb yn llyfrgelloedd Bro Morgannwg, gan gynnwys y babanod ieuengaf. Dydy llyfrgelloedd ddim yn llefydd llym o dawel erbyn hyn, felly peidiwch â phoeni y bydd eich babi’n rhy swnllyd. 

 

Yma ym Mro Morgannwg, rydyn ni’n deall pwysigrwydd cyflwyno’ch plentyn i fyd llyfrau mor ifanc â phosibl. Mae’r gweithgareddau isod wedi eu creu i sicrhau bod plant o dan bump oed yn mwynhau eu hymweliad. Mae ein holl lyfrau a thapiau stori yn rhad ac am ddim i’w benthyg, ac mae’r gweithgareddau am ddim hefyd! Ymhlith y rhain, mae:

  • Her Dechrau Da
  • Storytime (Saesneg) - straeon a chrefftau i blant 2-5 oed
  • Amser Stori - straeon i fabanod a phlant 0-4 oed
  • Odl ac Arwyddo - sesiynau canu gan ddefnyddio iaith arwyddo babanod 1- 4 oed
  • Bowns ac Odl - sesiynau canu i fabanod newydd-anedig hyd at flwydd oed

 

Bookstart logo

Her Dechrau Da

Bydd eich plentyn yn derbyn sticer bob tro mae’n ymweld, ac ar ôl chwe ymweliad, mae’n derbyn tystysgrif a llyfr.

 

Yn yr archwiliad datblygiad naw mis oed, mae Ymwelwyr Iechyd yn cyflwyno bag Dechrau’n Deg i rieni a chynhalwyr (ynddo, mae dau lyfr bwrdd, cyngor ar ddarllen gyda’ch baban, mat bwrdd â hwiangerdd arno a gwahoddiad i ymaelodi â’r llyfrgell).

 

Yn y sesiwn gwirio iechyd pan mae’r plentyn yn ddwy flwydd oed, rhoddir pecyn y Blynyddoedd Cynnar iddo (sy’n cynnwys dau lyfr, cyngor ar ddarllen gyda’ch plentyn, llyfr lliwio, creonau a ffris lliwiau).

 

Gwefan Dechrau Da