Cost of Living Support Icon

cyber securityDiogelwch Ar-lein

Mae’r rhyngrwyd yn adnodd ardderchog i blant a phobl ifanc, ond mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r hyn gallan nhw ei weld, ei glywed a’i rannu amdanynt eu hunain ar-lein

 

Gallant ei ddefnyddio i wneud ymchwil ar gyfer gwaith cartref, i gyfathrebu â’u hathrawon a’u ffrindiau ac i chwarae gemau rhyngweithiol. Gall unrhyw blentyn sy’n ddigon hen i daro bysellfwrdd ddarganfod y byd â blaenau eu bysedd.

 

Fel yn achos unrhyw fater sy’n ymwneud â diogelwch, mae’n beth doeth i drafod eich pryderon â phlant a phobl ifanc, manteisio ar yr adnoddau sydd ar gael i’w diogelu a chadw llygad barcud ar eu gweithgareddau. 

child computer cyber safety

Plant

Mae’r rhyngrwyd yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer dysgu, creu a chysylltu â’r teulu a ffrindiau. Mwynhewch, a chofio’r cod call:

  • Pam - pam bydau rhywun ar-lein angen eich manylion personol?
  • Ysbrydoliaeth - mae adnoddau gwych ar y rhyngrwyd ar gyfer dysgu, darganfod a chreu
  • Diogelwch - gosodwch feddalwedd diogelwch i warchod eich cyfrifadur a'ch data
  • Cloriannu - nid yw unrhyw wybodaeth o anghenraid yn wir, yn ddibynadwy nac yn gywir dim ond oherwydd ei fod ar y rhyngrwyd

 

(Dolenni i wefannau Saesneg sydd yn y rhestr isod.) 

 

teenagers Cyber Safety

Pobl Ifanc

Mae’r rhyngrwyd yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer dysgu, creu a chysylltu â’r teulu a ffrindiau. Mwynhewch, a chofio’r cod call:

  • Pam - pam bydau rhywun ar-lein angen manylion personol?
  • Ysbrydoliaeth - mae adnoddau gwych ar y rhyngrwyd ar gyfer dysgu, darganfod a chreu.
  • Diogelwch - gosodwch feddalwedd diogelwch i warchod eich cyfrifiadur a'ch data
  • Cloriannu - nid yw unrhyw wybodaeth o anghenraid yn wir, yn ddibynadwy nac yn gywir dim ond oherwydd ei bod ar y rhyngrwyd

 

(Dolenni i wefannau Saesneg sydd yn y rhestr isod.) 

 

child parent computer

Rhieni a Cynhalwyr

Mae’r rhyngrwyd yn adnodd byw a rhagorol a all ysbrydoli pobl ifanc a rhai hŷn i ymchwilio, dysgu, rhyngweithio, creu a chyfrannu.

 

Mae llawer o rieni’n teimlo ar ei hôl hi braidd, gan fod eu plant yn gwybod gymaint mwy am y rhyngrwyd na nhw.

 

Ond mae gan rieni swyddogaeth bwysig yng nghyd-destun defnydd eu plant o’r rhyngrwyd.

Hyd yn oed nad yw’ch gwybodaeth dechnolegol yn eang, mae gennych brofiad bywyd, sy’n hynod werthfawr. Gallwch chi ddefnyddio’ch profiad yn y byd go iawn i gynnig arweiniad i’ch plant yn eu defnydd o’r rhyngrwyd.

 

(Dolenni i wefannau Saesneg sydd yn y rhestr isod os nad yw’r enw yn Gymraeg.)