Top

Brig

eLyfrau-llafar

Gall aelodau llyfrgelloedd Bro Morgannwg gael mynediad i ddarpariaeth tri gwahanol gyflenwr llyfrau llafar ar-lein.

 

Ydych chi’n aelod o’r llyfrgell? Ydych chi’n mwynhau gwrando  ar lyfrau llafar wrth deithio, cyn mynd i’r gwely neu hyd yn oed wrth wneud y gwaith tŷ?

 

Drwy ddefnyddio’ch cerdyn llyfrgell, gallwch droi at filoedd o lyfrau llafar newydd, poblogaidd a chlasurol unrhyw awr o’r dydd neu’r nos. Lawrlwythwch nhw i’ch ffôn, chwaraewr MP3, iPod neu gyfrifiadur, a gwrando arnynt yn unrhyw le, unrhyw bryd.  

audiobooks

BorrowBox

Lawrlwythwch hyd at 10 llyfr ar y tro ar eich dyfais dabled, ffôn clyfar, cyfrifiadur neu Mac.

Os oes angen help arnoch chi i ddechrau arni, dewch â’ch dyfais i’ch llyfrgell leol am sesiwn gymorth gychwynnol yn rhad ac am ddim.

Yn achos unrhyw broblemau technegol, e-bostiwch: 

BarryLibrary@valeofglamorgan.gov.uk

Lawrlwytho

 

Apple: iTunes

 

Android: Play Store

 

Cyfrifadur: BorrowBox

RBDigital

RBDigital (OneClickDigital)

Lawrlwythwch hyd at 10 llyfr ar y tro ar eich dyfais dabled, ffôn clyfar, cyfrifiadur neu Mac.

Os oes angen help arnoch chi i ddechrau arni, dewch â’ch dyfais i’ch llyfrgell leol am sesiwn gymorth gychwynnol yn rhad ac am ddim.

Yn achos unrhyw broblemau technegol â’r gwasanaeth, gallwch gysylltu â OneClick yn uniongyrchol am gymorth. 

Lawrlwytho

 

Apple: iTunes

 

Android: Play Store

 

Cyfrifadur RBDigital

 

Ulverscroft Digital

Lawrlwythwch hyd at 10 llyfr ar y tro ar eich dyfais dabled, ffôn clyfar, cyfrifiadur neu Mac.

Yn achos trafferthion gydag Ulverscroft Digital na allwch chi mo’u datrys ar ôl darllen y tudalennau cymorth, e-bostiwch: BarryLibrary@valeofglamorgan.gov.uk

Lawrlwytho

 

Apple: iTunes

 

Android:Play Store

 

Cyfrifadur: Ulverscroft

 

 

 

 

 

Rhannu Hoffi