Cost of Living Support Icon

Gerddi Muriog Dunraven 

Southerndown, Bro Morgannwg

 

Gerddi Dunraven ar fap 

 

Yn sgil cynllun adfywio gwerth £99,000, mae Gerddi Muriog Dunraven yn Southerndown wedi cael eu hadfer i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau. 

 

Cyngor Bro Morgannwg, mewn partneriaeth ag Ystâd Dunraven, fu’n gyfrifol am wneud y gwaith atgyweirio sylweddol a ddigwyddodd rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd 2013. Agorwyd yr ardd ar ei newydd wedd gan y Fonesig Dunraven a’r Fonesig Ana o Ystâd Dunraven ar 22 Tachwedd 2013.

 

Mae muriau’r gerddi’n gofrestredig, ac mae’r gerddi eu hunain wedi eu cofnodi fel Gradd II yng Nghofrestr Tirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig CADW. 

 

Adeiladwyd strwythur newydd ar do’r tŷ haf, a hynny dros ffelt bitwmen, sy’n cynnig gofod clwydo i ystlumod lleiaf. 

 

Mae cwpanau gwenoliaid wedi cael eu gosod tua brig y mur cefn er mwyn darparu elfennau ychwanegol o ddiddordeb o ran bioamrywiaeth.