Trwyn y Rhws
Mae’r trysor cudd hwn ym Mro Morgannwg yn gyforiog o fywyd gwyllt a dyma bwynt mwyaf deheuol Cymru
Cyfarwyddiadau i Drwyn y Rhws
Mae Trwyn y Rhws wedi ei ddynodi’n Safle o Bwys ar gyfer Cadwraeth Natur. Mae’r llynnoedd hardd, ardaloedd y glaswelltiroedd a’r clogwyni trawiadol yn y Rhws yn ei gwneud yn safle pwysig ar gyfer ecoleg a bioamrywiaeth. Yn y cynefin, ceir:
- Iseldir calchaidd glaswelltir
- Gwelyau cyrs a phyllau dŵr
- Clogwyn a llethrau morwrol
- Prysgwydd cymysg o strwythurau amrywiol a chyfoeth o rywogaethau
Fel yn achos parciau a pharthau agored eraill y Fro, parchwch yr ardal hon os gwelwch yn dda. Rydyn ni’n gofyn yn garedig i chi fynd â’ch ysbwriel adref i’w ailgylchu, neu i ddefnyddio un o’r biniau a ddarperir ger y mynedfeydd i’r safle.
Nodwch nad oes caniatâd i bysgota yn Nhrwyn y Rhws.
Map cyfeirnodau Trwyn y Rhws (Saesneg)
Mae gan bob parth ar y map hwn ei gymeriad a’i gynefin ei hun. Os oes angen i chi gysylltu â ni ag ymholiad, bydd defnyddio enw cywir y parth yn help i ni wrth eich cynorthwyo.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddilyn cynllun rheoli cynhwysfawr i gadw Trwyn y Rhws fel ardal naturiol.