Cost of Living Support Icon

Tir Mynediad Agored

Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn sicrhau bod pobl yn cael hawl mynediad (ar droed) i dros 350,000 hectar o gefn gwlad agored a thir comin cofrestredig.

 

Mae 451,000 hectar o dir (22% o Gymru), gan gynnwys coedwigoedd cyhoeddus, yn cynnig hawl mynediad.  Mae hyn ar ben ardaloedd mawr o lwybrau caniataol lleol, traethau, llwybrau tynnu a tua 25,000 o Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

  

Eich Hawliau

Mae gennych hawl i gerdded ar dir mynediad – cefn gwlad agored (mynyddoedd, gweunydd, rhostir a rhosydd), tir cyffredin cofrestredig ac unrhyw dir arall y mae perchnogion yn eu ddynodi’n dir mynediad.

Mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o weithgareddau hamdden rydych chi’n eu gwneud ar droed, fel cerdded, ymweld â lleoliadau, gwylio adar, dringo a rhedeg. 

Mae'n galluogi ‘mynediad agored’, sy’n golygu y gall pobl gerdded yn rhydd ar draws ‘tir mynediad’ a pheidio â gorfod glynu at lwybrau.


Mewn sawl lle, mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn arwain at a thros ardaloedd mynediad agored, a gall tir mynediad gael ei gyrraedd drwy bwyntiau mynediad: camfa neu gât; pont neu gerrig camu; neu agoriad clir mewn wal, ffens neu berth.

NID oes gennych yr hawl i...

Nid oes gennych hawl i farchogaeth neu feicio, gyrru cerbyd na gwneud gweithgareddau penodol eraill fel gwersylla, nofio neu ogofa – ond nid yw’r cyfyngiadau hyn yn atal perchennog neu feddiannwr y tir rhag caniatáu’r gweithgareddau hyn.

Ceir rheolau arbennig ar gyfer rheoli cŵn ar dir mynediad; ac nid oes gennych hawl i fynd ag unrhyw anifeiliaid eraill ar y tir. Er enghraifft, rhaid i gŵn gael eu cadw ar dennyn byr pan fo da byw o gwmpas.

Gall mynediad gael ei gyfyngu weithiau am resymau’n ymwneud â rheoli tir neu dda byw neu gadwraeth natur, neu i osgoi perygl i’r cyhoedd gan weithgareddau ar y tir.

Mae rhai lleoedd na all y cyhoedd fynd iddynt, hyd yn oed os ydynt o fewn ardaloedd o dir mynediad sydd wedi’i fapio – mae’r ‘ardaloedd eithriedig’ yn cynnwys adeiladau, gerddi, chwareli a thir âr.

 

Mae’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy yn ychwanegu tua 350,000 hectar o gefn gwlad agored a thir comin cofrestredig i’r ardal oedd ar gael yn flaenorol. Ychwanegwyd tua 100,000 hectar arall ar ôl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymrwymo coetir rhydd-ddaliadol a reolwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth. Mae rhai tirfeddianwyr eraill wedi agor eu tir yn yr un ffordd.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Dir Mynediad Agored ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.