Gwirfoddoli
Mae’n bosibl ennill cymwysterau chwaraeon, cael profiad gwaith gwerthfawr ac yn fwy na dim, cael hwyl, wrth wirfoddoli.
Mae cyfleoedd niferus ar gael i helpu ledled y Fro drwy hyfforddi, cynorthwyo hyfforddwyr, eistedd ar bwyllgor clwb neu dderbyn ffioedd aelodaeth mewn sesiynau. Gallwch roi cymaint neu gyn lleied o amser ag sy’n gyfleus i chi. Rydyn ni’n gwerthfawrogi pob cyfraniad.
Mae chwaraeon anabledd yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynnal nifer o’r gweithgareddau y gall pobl ag anabledd gymryd rhan ynddynt, felly os oes gennych amser i’w gynnig i helpu plant ag anabledd yn y Fro i roi cynnig ar wahanol gampau, buasai’r tîm yn ddiolchgar.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli o fewn y cynllun chwaraeon anabledd, cysylltwch â Simon Jones, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru: