Cost of Living Support Icon

Gwarchod yr Arfordir

Partneriaeth sy’n cydweithio i warchod yr arfordir ym Mro Morgannwg

  

O fewn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) sy’n gyfrifol am warchod yr arfordir rhag llifogydd ac erydiad.

 

Mae’r cyfrifoldeb am y morlinau, fodd bynnag, wedi ei rannu rhwng amrywiol awdurdodau morwrol yn unol â deddfwriaeth. Mae’r rhain wedi eu hawdurdodi i gyflawni gwaith yn eu rhanbarthau i warchod yr arfordir rhag erydiad yn unol â Deddf Gwarchod yr Arfordir 1949.

 

Cynhelir y gwaith adeiladu a chynnal a chadw sy’n gwarchod rhag llifogydd ar yr arfordir gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn unol â Deddf Adnoddau Dŵr 1991.

 

Mae gennym bwerau i amddiffyn y tir rhag erydiad arfordirol yn unol â thelerau Deddf Gwarchod yr Arfordir 1949. Mae’r pwerau’n rhai caniataol, sy’n golygu eu bod yn rhoddi awdurdod i gynnal gweithgareddau amddiffyn rhag llifogydd a gwarchod yr arfordir, ond nid yw’n orfodol ar yr awdurdodau gweithredol rheiny gynnal y gweithgareddau rheiny.

 

Cynllun Rheoli’r Arfordir (CRhA)

Dogfen bolisi anstatudol ar gyfer cynllunio rheoli amddiffynnol yw’r CRhA, ac mae’n cynghori ar sut dylai’r draethlin newid dros y tymor hir. Caiff ei ddatblygu mewn partneriaeth gan awdurdodau lleol, cyrff rheoleiddio a rhanddalwyr eraill.

 

Mae’n galluogi i gynllunwyr a rheoleiddwyr gynllunio ar gyfer y modd mae’n arfordir yn mynd i newid a rheoli hyn. Gallant wneud hynny drwy gynnal neu wella amddiffynfeydd, drwy alluogi i’r prosesau naturiol chwarae mwy o ran, creu cynefinoedd newydd neu drwy helpu ardaloedd a fydd yn cael eu peryglu gan lifogydd yn y dyfodol, er mwyn ymdopi ag achosion o orlifo a chyfyngu ar ei effaith.

 

Shoreline Management map

  • Adnabod y peryglon posibl i gynefinoedd datblygedig, hanesyddol a naturiol wrth i'r arfordir newid
  • Fframwaith polisi i reoli'r peryglon mewn dull cynaliadwy
  • Asesiadau o'r draethlin ar raddfa eang - adnabod y grymoedd naturiol sy'n ei llunio a rhagweld, i'r graddau ei bod yn bosibl, sut bydd yr arfordir yn newid dros gyfnod oherwydd erydu, codiad yn lefel y môr a newid hinsawdd (ymhen tri epoc o 20, 50 a 100 mlynedd)

  

Gosod polisi ar gyfer rheoli gwarchod yr arfordir yn unig y mae CRhA. Ni yw’n gosod polisi ar gyfer unrhyw ddulliau o reoli peryglon llifogydd (megis draenio tir) nac ar gyfer rheoli adnoddau arfordirol.

 

Caiff yr arfordir ei rannu’n adrannau a elwir yn ‘Unedau Polisi’. Bydd y CRhA yn argymell un o’r pedwar dewis polisi isod ar gyfer pob ardal:

  1. Dim ymyrraeth weithredol - dim codi amddiffynfeydd newydd na chynnal a chadw nac uwchraddio amddiffynfeydd cyfredol
  2. Cadw’r llinell amddiffyn gyfredol - cynnal a chadw amddiffynfeydd cyfredol yn eu safle bresennol, ac uwchraddio i wrthbwyso newid i’r hinsawdd a chodiad yn lefel y môr
  3. Adlinio dan reolaeth - ildio rhywfaint o dir i'r môr gan dynnu’r amddiffynfeydd gyfeiriad y tir er mwyn ffurfio amddiffynfa fwy cynaliadwy yn y tymor hir
  4. Gwthio'r llinell amddiffyn gyfredol - symud yr amddiffynfeydd i gyfeiriad y môr

Bydd cais yn cael ei gyflwyno i Awdurdodau Lleol a rheoleiddwyr sy’n gyfrifol am reoli’r draethlin i fabwysiadu’r CRhA a seilio eu penderfyniad ar y dewisiadau polisi yn y ddogfen. Bydd hyn o help i sicrhau, er enghraifft, nad yw gwaith datblygu yn y dyfodol mewn mwy o berygl rhag llifogydd neu erydu arfordirol.

 

Grŵp Arfordirol Moryd Hafren

Rydyn ni’n aelodau o Grŵp Arfordirol Moryd Hafren, a’r diben yw rhannu arferion gorau ac arolygu’r broses o baratoi cenhedlaeth newydd o Gynlluniau Rheoli’r Arfordir (CRhA2). 

 

Yn yr un modd, mae Grŵp Peirianegol Arfordirol Abertawe a Bae Caerfyrddin yn gofalu am y celloedd arfordirol rhwng Trwyn Larnog a Phen Pyrod (Abertawe) i Drwyn Sant Gofan (Milffwrd), ac yn cydweithio ag:

  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Cyngor Cefn Gwlad Cymru

 

Amcanion Grŵp Arfordirol Moryd Hafren:

  • Meithrin agwedd strategol at reoli’r draethlin yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
  • Darparu strwythur i weinyddu cydariannu astudiaethau strategol, monitro a sicrhau cydymffurfiaeth o safon uchel â’r targedau
  • Hwyluso cyfnewid gwybodaeth rhwng yr aelodau a’r cyhoedd
  • Cynhyrchu polisïau cynaliadwy ar gyfer amddiffynfeydd arfordirol gan gloriannu prosesau arfordirol naturiol
  • Darparu dyletswyddau rheoli arfordir strategol ar gyfer dros 200km o’r draethlin (ased sy’n werth oddeutu £100m)