Cost of Living Support Icon

Gwaith Lliniaru Llifogydd Coldbrook – Newyddion Diweddaraf

Ceir yr holl newyddion diweddaraf am Gynllun Lliniaru Llifogydd Coldbrook yn yr adran hon.

 

 

Mehefin 2018

 

Mae ardal agored gyhoeddus Dyfan Road wedi ail-agor i’r cyhoedd

 

 

 

 

Chwefror 2018

 

Mae’r gwaith Lleihau Perygl Llifogydd yn Coldbrook wedi’i gwblhau

 

 

 

 

Rhagfyr 2017

 

Wythnos yn dechrau 11 Rhagfyr 2017

 

Mae gwaith yn y dalgylch yr wythnos hon yn cynnwys:

  • Parhau â gwaith tirlunio a ffensio ym Man Agored Dyfan Road
  • Gosod ffensys a rhwyll cilfach ceuffos i gilfach Brookfield Avenue a chilfach Meadow Vale
  • Gosod ffensys a rhwyll cilfach ceuffos yng nghilfach Coldbrook Road East
  • Gwaith ailosod i erddi preifat yn Solent Road, Bron y Nant a Meadow Vale
  • Gwaith ailosod yn Lydstep Road a Merthyr Dyfan Road
  • Gwaith cyffredinol yn y dalgylch i unioni problemau rhwygo
  • Tirlunio a gwaith gwella ecolegol ym Man Agored Dyfan Road, Smithies Field a Coldbrook Road East.

 

Tachwedd 2017

 

Wythnos yn Dechrau 13 Tachwedd 2017:

 

Mae gwaith yn y dalgylch yr wythnos hon yn cynnwys:

  • Gwaith ailosod a ffensio o gwmpas y fewnfa a’r allfa yn Meadow Vale
  • Gwaith ffensio o gwmpas y fewnfa a'r allfa yn Brookfield Avenue, ac ailosod y gerddi
  • Cau pen y mwdwl ar y gwaith cloddio Trawst Sianel rhwng Brookfield Avenue a Meadow Vale
  • Ailosod y gerddi yn Solent Road, Price Avenue a Gibbonsdown Rise
  • Parhau â gwaith tirlunio a ffensio ym Man Agored Dyfan Road
  • Bydd gwaith glanhau cwlfer yn digwydd mewn amryw leoliadau ledled y dalgylch 

 

Hydref 2017

 

Wythnos yn dechrau 16 Hydref 2017:

 

Caiff y gwaith canlynol ei wneud ledled dalgylch Coldbrook yr wythnos hon:

  • Parhau â’r gwaith i’r ollyngfa a’r fewnfa, gan gynnwys gosod concrid, yn Meadow Vale
  • Adeiladu strwythur gollyngfa a chaergewyll mewnfa yn Brookfield Avenue
  • Parhad o’r Trawst Sianel rhwng gollyngfa Brookfield Avenue a mewnfa Meadow Vale
  • Parhau â’r gwaith o adeiladu cwlfer gollyngfa yn 7 Solent Road, ynghyd â gwaith ar y cwlfer bwa brics presennol dan Coldbrook Road East
  • Parhau â’r gwaith i’r ardal fynediad cynnal a chadw uwch ben y cwlfer ger mewnfa Price Avenue
  • Parhau â gwaith tirlunio a ffensio ym Man Agored Dyfan Road
  • Bydd gwaith glanhau cwlfer yn digwydd mewn amryw leoliadau ledled y dalgylch 

 

 

 

Wythnos yn dechrau 9 Hydref 2017:

 

Mae gwaith yn y dalgylch yr wythnos hon yn cynnwys:

  • Parhau â’r gwaith i’r allfa a’r fewnfa, gan gynnwys gosod concrid, yn Meadow Vale
  • Adeiladu strwythur gollyngfa a chaergewyll mewnfa yn Brookfield Avenue
  • Parhau â’r gwaith o adeiladu cwlfer allfa yn 7 Solent Road, ynghyd â gwaith ar y cwlfer bwa brics presennol dan Coldbrook Road East
  • Mae gwaith ar y nant wedi’i gwblhau yn Price Avenue ac eithrio’r sgrin frigau a’r trap silt
  • Parhau â gwaith tirlunio a ffensio ym Man Agored Dyfan Road
  • Bydd gwaith glanhau cwlfer yn digwydd mewn amryw leoliadau ledled y dalgylch
  • Bydd gwaith i ostwng a newid y rhwyll ar y siambr allfa yn Robins Lane yn parhau

 

 

 

Wythnos yn Dechrau 2 Hydref 2017:

 

Bydd y mynediad dros dro trwy Erddi Priory ar gau 08:00 ddydd Llun 02/10/2017.  Bydd traffig yn parhau ar hyd y llwybr arferol trwy Meadowvale a Coldbrook Road East.

 

Mae gwaith yn y dalgylch yr wythnos hon yn cynnwys:

  • Parhau â’r gwaith i’r allfa a’r fewnfa, gan gynnwys gosod concrid, yn Meadow Vale
  • Adeiladu strwythur gollyngfa a chaergewyll mewnfa yn Brookfield Avenue
  • Parhau â’r gwaith o adeiladu cwlfer allfa yn 7 Solent Road, ynghyd â gwaith ar y cwlfer bwa brics presennol dan Coldbrook Road East
  • Gwaith i erddi cefn, ochr a blaen 13 Price Avenue.   Mae angen gwaith sianel, caergewyll a sgrin frigau i gwblhau’r gwaith
  • Parhau â gwaith tirlunio a ffensio ym Man Agored Dyfan Road
  • Bydd gwaith glanhau cwlfer yn digwydd mewn amryw leoliadau ar draws y dalgylch 

 

Medi 2017

 

Wythnos yn dechrau 18 Medi 2017

 

Caiff y gwaith canlynol ei wneud ledled dalgylch Coldbrook yr wythnos nesaf:

 

  • Parhau â’r gwaith i allfa a mewnfa’r cwlfer yn Meadow Vale
  • Bydd traffig yn dal i ddefnyddio'r mynediad dros dro yn Priory Gardens. Mae adeiladwaith yr allfa yn Brookfield Avenue wrthi'n cael ei adeiladu. Bydd y gwaith i gaergewyll yr allfa hefyd yn dechrau
  • Parhau â'r gwaith yn Rhif 7 Solent Road i adeiladu allfa’r cwlfer
  • Bydd gwaith yn Bron y Nant hefyd yn parhau’r wythnos hon
  • Bydd y gwaith adsefydlu yn parhau yng ngardd Rhif 13 Price Avenue. Bydd gwaith ar sianel y fewnfa a gwaith ar y caergewyll yn dechrau’r wythnos hon.
  • Bydd gwaith tirlunio, ffensio a gosod rheiliau llaw yn parhau ym Man Agored Dyfan Road

 

 

 

Wythnos yn dechrau 11 Medi 2017

 

Mae’r gwaith yn parhau yn nalgylch Coldbrook, gan gynnwys:

 

  • Gwaith i allfa a mewnfa y cwlfer yn Meadow Vale
  • Bydd traffig ystâd Brookfield yn parhau i ddefnyddio’r mynediad dros dro trwy Erddi’r Priordy
  • Cwblhau’r gwaith o osod pibelli yn Brookfield Avenue, ac adeiladu'r strwythur gollyngfa
  • Bydd gwaith i allfa’r cwlfer ar Coldbrook Road East yn dechrau. Caiff y ffordd y rheolir traffig ei newid fel y bydd ochr arall y lôn gerbydau ar agor i draffig.
  • Bydd gwaith tirlunio a ffensio yn parhau ym Man Agored Dyfan Road
  • Gwaith adfer i erddi yng nghefn ac wrth ochr 13 Price Avenue ar ôl cwblhau gwaith i’r fewnfa
  • Gwyro cebl trydan trwy bont droed newydd ym Mron y Nant
  • Gwaith gwaredu llaid yng nghwlfer Solent Road/Dobbins Road

 

 

 

 

Wythnos yn Dechrau 4 Medi 2017

 

Mae’r gwaith yn parhau yn nalgylch Coldbrook, gan gynnwys:

 

  • Ailosod y gulffos yn Meadow Vale a chulffos Brookfield Avenue. Bydd traffig ystâd Brookfield yn parhau i ddefnyddio’r mynediad dros dro trwy Erddi’r Priordy.
  • Cadw’r goleuadau traffig yn Coldbrook Road East wrth i’r gwaith barhau er mwyn creu'r fewnfa a'r allfa newydd
  • Bydd gwaith tirlunio a ffensio yn parhau ym Man Agored Dyfan Road
  • Bydd gwaith yn parhau ar fewnfa Price Avenue yn cynnwys gwaith ailosod
  • Gwyro cebl trydan ym Mron y Nant
  • Gwaith gwaredu llaid yng nghulffos Solent Road/Dobbins Road 

Awst 2017

Wythnos yn Dechrau 28 Awst 2017

 

Mae gwaith yn nalgylch Coldbrook yr wythnos hon yn cynnwys:

  • - Disodli’r gulffos ym Meadow Vale
  • - Ailagorwyd Meadowvale i draffig ar 31/07/2017. Fodd bynnag, bydd traffig sy’n gysylltiedig ag Ystâd Brookfields yn parhau i ddefnyddio’r mynediad/allanfa trwy Erddi’r Priordy.
  • - Bydd y gwaith yn parhau ar gulffos Brookfield Avenue. Mae hyn yn cynnwys cwblhau’r gwaith ar y gulffos yng ngardd Rhif 2 Brookfield Avenue, a  bydd gwaith yn dechrau er mwyn agor y cwrs dŵr
  • - Cedwir y goleuadau traffig yn Coldbrook Road East wrth i’r gwaith adeiladu'r fewnfa a'r allfa barhau
  • - Bydd gwaith tirlunio a ffensio yn parhau ym Man Agored Dyfan Road
  • - Bydd y gwaith ar fewnfa Price Avenue yn parhau
  • - Disodli'r bont droed ym Mron y Nant

 

 

 

Wythnos yn Dechrau 14 Awst 2017

 

Caiff y gwaith canlynol ei wneud ledled dalgylch Coldbrook y mis hwn:

 

  • Mae’r fynedfa i’r ystâd yn Meadow Vale ar hyd Coldbrook Road East bellach wedi ailagor.   Bydd traffig o ystâd Brookfield yn parhau i ddefnyddio’r fynedfa trwy Priory Gardens.  Mae gwaith i adeiladu waliau caergewyll yn parhau yn rhan o’r gwaith i adnewyddu ceuffodd yn Meadow Vale.
  • Mae gwaith yn parhau yn Brookfield Avenue i adeiladu ceuffos newydd ar draws y briffordd ac i mewn i’r afon.  Bydd y gwaith yn cynnwys gosod basgedi caergewyll wrth y gilfach yn dibynnu ar y tywydd.
  • Mae goleuadau Traffig ar waith ar Coldbrook Road East i ganiatáu adeiladu cilfach newydd
  • Bydd gwaith tirlunio yn parhau ym Man Agored Dyfan Road
  • Mae gwaith yn parhau ar gilfach Price Avenue
  • Mae gwaith yn parhau i osod pont droed newydd ym Mron y Nan
  • Caiff gwaith i gilfach Armco yn nhiroedd Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant ei gwblhau 

Mehefin 2017

 

Mis yn Dechrau 12 Mehefin 2017

 

  • Caiff y gwaith canlynol ei wneud ledled dalgylch Coldbrook yr wythnos nesaf:
  • - Mae’r fynedfa i’r ystâd yn Meadow Vale ar hyd Coldbrook Road East bellach wedi cau. Mae rheolaeth traffig wedi ei roi ar waith ac mae’r fynedfa amgen drwy Priory Gardens. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo i newid y cwlfert yn Meadow Vale.
  • - Mae goleuadau Traffig ar waith ar Coldbrook Road East i ganiatáu adeiladu cilfach newydd
  • - Bydd gwaith tirlunio yn parhau ym Man Agored Dyfan Road
  • - Mae Goleuadau Traffig ar waith ar Carew Close er mwyn cwblhau gwaith adeiladu i system ddraenio’r briffordd
  • - Mae gwaith yn parhau ar gilfach Price Avenue

 

Mai 2017

 

Yr Wythnos sy’n Dechrau 29 Mai 2017

 

Caiff y gwaith canlynol ei gynnal ledled dalgylch Coldbrook yr wythnos hon:

  • Bydd y ffordd i Ystâd Meadow Vale drwy Ddwyrain Coldbrook Road ar gau. Caiff traffig ei reoli a chaiff y ffordd arall drwy Priory Gardens ei hagor.
  • Mae Goleuadau Traffig ar Ddwyrain Coldbrook Road er mwyn cynnal gwaith ar fewnfa'r geuffos
  • Mae gwaith tirlunio yn parhau ym Man Agored Dyfan Road
  • Mae Goleuadau Traffig Dros Dro yn Carew Close er mwyn cynnal gwaith ar y briffordd
  • Mae gwaith yn parhau yn Price Avenue ar fewnfa’r geuffos

 

 

Wythnos yn Dechrau 22 Mai 2017

 

Mae’r gwaith yn parhau yn nalgylch Coldbrook yr wythnos hon, gan gynnwys:

  • Mae rheoli traffig ar waith yn Coldbrook Road East wrth i waith fynd rhagddo
  • Bydd gwaith tirlunio a ffensio yn parhau ym Man Agored Dyfan Road
  • Mae rheoli traffig ar waith ar Carew Close er mwyn gallu gosod cwterydd newydd
  • Mae gwaith yn mynd rhagddo o fewn terfyn eiddo preifat ar Gibbonsdown Rise
  • Mae gwaith yn parhau ar y gilfach a waliau’r afon yn Price Avenue
  • Mae gwaith yn dechrau ar adeiladu mynedfa dros dro i gysylltu Brookfield Avenue a Priory Garden i hwyluso mynd a dod o’r ystâd. Mae hyn er mwyn paratoi ar gyfer cau ffyrdd Brookfield Avenue a Meadow Vale yn dilyn penwythnos Gŵyl y Banc 

 

 

Wythnos yn Dechrau 15 Mai 2017

 

Caiff y gwaith canlynol ei wneud ledled dalgylch Coldbrook yr wythnos hon:

  • Mae’r cysylltiad dros dro yn Ewbank Close a Dobbins Road i gael ei gau ac mae’r gwaith adfer olaf i gael ei wneud
  • Mae rheoli traffig ar waith yn Coldbrook Road East wrth i waith barhau.
  • Bydd gwaith tirlunio a ffensio yn parhau ym Man Agored Dyfan Road
  • Mae rheoli traffig ar waith yn Carew Close i alluogi tyllau treial a gwaith tir i gael eu gwneud
  • Bydd rheoli traffig yn dod i ben ar ôl i waith yn Dyfan Road/Gibbonsdown Rise gael ei gwblhau. Mae gwaith yn dal i gael ei wneud o fewn terfyn eiddo preifat yn y lleoliad hwn
  • Mae gwaith yn parhau ar y gilfach ac waliau’r afon yn Price Avenue 

 

 

Wythnos yn Dechrau 8 Mai 2017

 

Caiff y gwaith canlynol ei wneud ledled dalgylch Coldbrook yr wythnos hon:

  • Mae Langlands Road wedi ailagor i draffig. Mae’r cysylltiad dros dro yn Ewbank Close a Dobbins Road i gael ei gau.
  • Mae rheoli traffig ar waith yn Coldbrook Road East wrth i waith barhau. Mae tir wedi’i halogi yn oedi datblygiad y gwaith hwn.
  • Bydd gwaith tirlunio a ffensio yn parhau ym Man Agored Dyfan Road
  • Mae rheoli traffig ar waith yn Carew Close i alluogi tyllau treial a gwaith tir i gael eu gwneud
  • Mae rheoli traffig ar waith yn Dyfan Road a Gibbonsdown Rise i alluogi’r gwaith o ailosod cyrbau a gwaith pellach
  • Mae gwaith yn parhau ar y gylfach ac waliau’r afon yn Price Avenue 

 

 

Yr Wythnos sy’n Cychwyn 1 Mai 2017

 

Mae gwaith yn nalgylch Coldbrook yr wythnos hon yn cynnwys:

  • Rhoi arwyneb newydd ar Solent Road a Langlands Road ar ôl cwblhau gwaith adeiladu.  Caiff y ffordd ei hail-agor i draffig. Bydd y mynediad dros dro yn Ewbank Close a Dobbins Road ar gau ac yn cael ei ail-osod 
  • Bydd rheolau traffig ar waith yn Coldbrook Road East tra bod y gwaith yn mynd rhagddo.  Mae tir wedi’i halogi yn achosi oedi o ran parhau â’r gwaith hwn
  • Bydd gwaith tirlunio yn parhau ym Man Agored Dyfan Road
  • Mae rheolau traffig ar waith yn Carew Close er mwyn gallu adeiladu gylïau newydd
  • Mae rheolau traffig ar waith yn Dyfan Road a Gibbonsdown Rise er mwyn ail-osod cyrbau a gwaith pellach
  • Mae gwaith yn parhau ar y gilfach a waliau'r afon yn Price Avenue

Ebrill 2017

 

Yr Wythnos sy’n Dechrau 24 Ebrill 2017

 

Mae gwaith yn parhau ledled dalgylch Coldbrook, gan gynnwys:

- Bydd Langlands Road ar gau hyd nes y bydd y gwaith i osod twll archwilio ac i ailosod y ffordd wedi’i gwblhau.  Mae cyffordd Langland Road/Solent Road wedi ailagor i draffig. Mae mynediad dros dro i Solent Road/Dobbins Road wedi’i gau ac mae’r gwaith adfer wedi’i gwblhau. Bydd cyffordd Ewbank Close/Dobbins Road ar agor hyd nes y bydd modd ailagor pob rhan o Langland Road.

- Mae gwaith yn parhau ar y gilfach ar ddwyrain Coldbrook Road. Rheolir traffig o hyd. Efallai y caiff gwaith ei ohirio oherwydd bod y tir wedi'i halogi.

- Mae gwaith tirlunio, gwaith i godi ffens a gwaith i osod llwybr troed yn parhau ym Man Agored Dyfan Road.

- Caiff traffig ei ddargyfeirio o Carew Close dros dro er mwyn cynnal gwaith cloddio. Mae goleuadau traffig ar waith.

- Mae rhagor o waith wedi dechrau yn Gibbonsdown Rise. Rheolir traffig o hyd.

- Mae gwaith yn parhau yn Price Avenue, gan gynnwys cilfach newydd a gwaith ar wal.

 

Yr Wythnos sy’n Cychwyn 18 Ebrill 2017

 

Mae gwaith yn parhau ledled dalgylch Coldbrook, gan gynnwys:

- Bydd Langlands Road ar gau hyd nes y bydd y gwaith i osod twll archwilio ac i ailosod y ffordd wedi’i gwblhau.  Mae cyffordd Langland Road/Solent Road wedi ailagor i draffig. Mae mynediad dros dro i Solent Road/Dobbins Road wedi’i gau ac mae’r gwaith adfer wedi’i gwblhau. Bydd cyffordd Ewbank Close/Dobbins Road ar agor hyd nes y bydd modd ailagor pob rhan o Langland Road.

- Mae gwaith yn parhau ar y gilfach ar ddwyrain Coldbrook Road. Rheolir traffig o hyd.

- Mae gwaith tirlunio, gwaith i godi ffens a gwaith i osod llwybr troed yn parhau ym Man Agored Dyfan Road.

- Caiff traffig ei ddargyfeirio o Carew Close dros dro er mwyn cynnal gwaith cloddio. Mae goleuadau traffig ar waith.

- Cynhelir gwaith ailosod terfynol ar Merthyr Dyfan Road.

- Gosodwyd Rheolaeth Draffig ar Dyfan Road a Gibbonsdown Rise er mwyn cynnal gwaith gosod gylïau newydd.

- Mae gwaith cloddio’n parhau yn Price Avenue.

 

Yr Wythnos sy’n Cychwyn 3 Ebrill 2017

 

Bydd y gwaith isod yn parhau ledled dalgylch Coldbrook yr wythnos hon:

- Mae gwaith Dŵr Cymru wedi’i gwblhau ac mae modd parhau â gwaith adeiladu ar Solent Road/Langlands Road.  Caiff y gyffordd ei hailagor rhwng Langland Road a Solent Road, a chaiff y gyffordd dros dro ar Solent Road a Dobbins Road ei chau a’i hadfer.  Bydd cyffordd dros dro Ewbank Close/Dobbins Road ar agor hyd nes y bydd modd ailagor pob rhan o Langland Road.

- Mae gwaith Dŵr Cymru wedi’i gwblhau ar ddwyrain Coldbrook Road. Bydd gwaith yn dechrau ar y llwybr cerdded presennol.  Mae Rheolaeth Traffic wedi cael ei hadleoli i'r ochr arall o'r briffordd er mwyn hwyluso gwaith sydd ei angen ar wal ategol y geuffos bresennol/mur cynnal y ffordd.

- Mae Brock Street wedi’i hailagor ac mae gwaith adfer wedi’i gwblhau.

- Mae gwaith tirlunio, gwaith i godi ffens a gwaith i osod llwybr troed yn parhau ym Man Agored Dyfan Road.

- Caiff traffig ei ddargyfeirio o Carew Close dros dro er mwyn cynnal gwaith cloddio. Mae goleuadau traffig ar waith.

- Cynhelir gwaith ailosod terfynol ar Merthyr Dyfan Road.

- Gosodwyd Rheolaeth Draffig ar Dyfan Road a Gibbonsdown Rise er mwyn cynnal gwaith gosod gylïau newydd.

- Mae gwaith wedi dechrau ar Price Avenue. Mae hwn yn cynnwys gwaith clirio sianeli a galluogi mynediad.

 

Mawrth 2017

 

Yr Wythnos sy’n Cychwyn 27 Mawrth 2017

 

Cynhelir y gwaith canlynol yr wythnos hon ledled dalgylch Coldbrook:

- Caiff y gyffordd ei hailagor rhwng Langland Road a Solent Road, a chaiff y gyffordd dros dro ar Solent Road a Dobbins Road ei chau a’i hadfer.  Bydd cyffordd dros dro Ewbank Close/Dobbins Road ar agor hyd nes y bydd modd ailagor pob rhan o Langland Road.

- Mae Dŵr Cymru’n parhau â gwaith dargyfeirio’r brif bibell ddŵr ar Ddwyrain Coldbrook Road. Mae hwn wedi’i gynllunio i ddod i ben ar 29/03/2017.

- Rheolir traffig ar Brock Street ac mae gwaith adeiladu’n parhau.

- Mae gwaith tirlunio, gwaith i godi ffens a gwaith i osod llwybr troed yn parhau ym Man Agored Dyfan Road.

- Caiff traffig ei ddargyfeirio o Carew Close dros dro er mwyn cynnal gwaith cloddio. Mae goleuadau traffig ar waith.

- Mae’r ffordd bresennol a’r llwybr cerdded yn cael eu hailadeiladu ar Merthyr Dyfan Road ac mae hynny’n cynnwys cloddwaith cysylltiedig.

- Gwaith i gysylltu gylïau ar Dyfan Road a Gibbonsdown Rise. Rheolir traffig yn rhan ohono.

- Mae gwaith wedi’i gynllunio ar Price Avenue.

 

Yr Wythnos sy’n Cychwyn 20 Mawrth 2017

 

Mae gwaith yn parhau ledled dalgylch Coldbrook, gan gynnwys:

- Caiff y gyffordd ei hailagor rhwng Langland Road a Solent Road, a chaiff y gyffordd dros dro ar Solent Road a Dobbins Road ei chau a’i hadfer.  Bydd cyffordd dros dro Ewbank Close/Dobbins Road ar agor hyd nes y bydd modd ailagor pob rhan o Langland Road.

- Mae Dŵr Cymru’n parhau â gwaith dargyfeirio’r brif bibell ddŵr ar Ddwyrain Coldbrook Road. Mae hwn wedi’i gynllunio i ddod i ben ar 24/03/2017.

- Rheolir traffig ar Brock Street ac mae gwaith adeiladu’n parhau.

- Mae gwaith tirlunio, gwaith i godi ffens a gwaith i osod llwybr cerdded yn parhau ym Man Agored Dyfan Road.

- Caiff traffig ei ddargyfeirio o Carew Close dros dro er mwyn cynnal gwaith cloddio. Mae goleuadau traffig ar waith.

- Mae’r ffordd bresennol a’r llwybr cerdded yn cael eu hailadeiladu ar Merthyr Dyfan Road ac mae hynny’n cynnwys cloddwaith cysylltiedig.

- Gwaith i gysylltu gylïau ar Dyfan Road a Gibbonsdown Rise. Rheolir traffig yn rhan ohono.

 

Yr Wythnos sy’n Cychwyn 13 Mawrth 2017

 

Bydd y gwaith isod yn parhau ledled dalgylch Coldbrook yr wythnos hon:

- Caiff y gyffordd ei hailagor rhwng Langland Road a Solent Road, a chaiff y gyffordd dros dro ar Solent Road a Dobbins Road ei chau a’i hadfer.  Bydd cyffordd dros dro Ewbank Close/Dobbins Road ar agor hyd nes y bydd modd ailagor pob rhan o Langland Road.

- Mae Dŵr Cymru’n parhau â gwaith dargyfeirio’r brif bibell ddŵr ar Ddwyrain Coldbrook Road. Mae hwn wedi’i gynllunio i ddod i ben ar 24/03/2017.

- Mae gwaith tirlunio, gwaith i godi ffens a gwaith i osod llwybr cerdded yn parhau ym Man Agored Dyfan Road.

- Rheolir traffig ar Brock Street ac mae gwaith adeiladu’n parhau.

- Caiff traffig ei ddargyfeirio o Carew Close dros dro er mwyn cynnal gwaith cloddio.

- Mae’r ffordd bresennol a’r llwybr cerdded yn cael eu hailadeiladu ar Merthyr Dyfan Road ac mae hynny’n cynnwys cloddwaith cysylltiedig.

- Gwaith i gysylltu gylïau ar Dyfan Road a Gibbonsdown Rise. Rheolir traffig yn rhan ohono.

 

Yr Wythnos sy’n Cychwyn 6 Mawrth 2017

 

Cynhelir y gwaith canlynol yr wythnos hon ledled dalgylch Coldbrook:

- Bydd y ffordd yn parhau i fod ar gau a bydd gwaith yn parhau ar Solent Road a Langlands Road.

- Mae Dŵr Cymru’n parhau â gwaith i ddargyfeirio’r brif bibell ddŵr ar Ddwyrain Coldbrook Road. Mae hwn wedi’i gynllunio i ddod i ben ar 17/03/2017.

- Rheolir traffig ar Brock Street ac mae gwaith adeiladu’n parhau.

- Mae gwaith tirlunio, gwaith i godi ffens a gwaith i osod llwybr cerdded yn parhau ym Man Agored Dyfan Road.

- Mae gwaith ar Carew Close yn parhau sy’n cynnwys gwaith cloddio a gwaith i osod pibellau.

- Mae gwaith ar Merthyr Dyfan Road yn parhau.

 

Chwefror 2017

 

Wythnos yn Cychwyn 27 Chwefror 2017 

 

Gwneir y gwaith canlynol yr wythnos hon ledled dalgylch Coldbrook:

- Bydd Solent Road/Langlad Road yn parhau i fod ar gau, gyda gwaith yn parhau i adeiladu twll caead newydd

- Bydd gwyriad prif gyflenwad dŵr DCWW yn parhau i fod ar waith yn Coldbrook Road East. Mae hyn yn cynnwys mesurau rheoli traffig

- Bydd gwaith yn Brock Street yn parhau. Mae mesurau Rheoli Traffig wedi’u gosod ac mae gwaith i adeiladu pibell orlif ar y gweill

- Bydd gwaith tirlunio a ffensio yn parhau yn Fan Agored Dyfan Road

- Bydd gwaith cloddio a gosod ffos newydd yn parhau yn Carew Close

- Bydd mesurau Rheoli Traffig yn Merthyr Dyfan Road yn dechrau ar 27 Chwefror 2017. Mae hyn i alluogi ailadeiladu’r ffordd bresennol.

 

Wythnos yn dechrau 20 Chwefror 2017

Bydd y gwaith isod yn parhau ledled dalgylch Coldbrook yr wythnos hon:

 - Bydd Solent Road/Langlad Road yn parhau i fod ar gau, gyda gwaith yn parhau i adeiladu twll caead newydd

- Mae DCWW yn parhau i wneud gwaith i’r gwyriad prif gyflenwad dŵr yn Coldbrook Road East. Mae hyn yn cynnwys mesurau rheoli traffig

- Bydd gwaith yn Brock Street yn parhau. Mae mesurau Rheoli Traffig wedi’u gosod ac mae gwaith i adeiladu pibell orlif ar y gweill

- Bydd gwaith yn Fan Agored Dyfan Road yn parhau gyda chodi ffens, pontydd troed a rheiliau llaw perthnasol.

- Bydd gwaith cloddio a gosod ffos newydd yn parhau yn Carew Close

 

Wythnos yn Cychwyn 6 Chwefror 2017

 

Mae gwaith yn parhau ledled dalgylch Coldbrook, gan gynnwys:

- Mae Solent Road/Langlands Road ar gau i alluogi cloddio twll caead newydd

- Mae DCWW yn parhau gyda gwyriad y prif gyflenwad dŵr Mae hyn yn cynnwys Mesurau Rheoli Traffig ar hyn Coldbrook Road East.

- Bydd gwaith yn Brock Street yn parhau. Mae mesurau Rheoli Traffig wedi’u gosod ac mae gwaith i adeiladu pibell orlif ar y gweill

- Caiff gwyriad ei osod yn Carew Close Bydd gwaith i gloddio ffos newydd yn parhau

- Bydd gwaith i adeiladu twll newydd yn Merthyr Dyfan Road yn parhau. Bydd gwaith i ailadeiladu'r ffordd bresennol hefyd yn parhau

- Bydd gwaith i adfer mynedfa’r safle datblygu yn Robbins Road yn parhau. Caiff gylïau ychwanegol eu gosod hefyd.

 

Ionawr 2017

 

Wythnos yn Cychwyn 30 Ionawr 2017

 

 Caiff y gwaith canlynol ei wneud yr wythnos hon.

- Mae Solent Road/Langlands Road ar gau i alluogi cloddio twll caead newydd

- Mae DCWW yn parhau gyda gwyriad y prif gyflenwad dŵr Mae hyn yn cynnwys Mesurau Rheoli Traffig ar hyn Coldbrook Road East.

- Bydd gwaith yn Brock Street yn parhau. Mae mesurau Rheoli Traffig wedi’u gosod ac mae gwaith i adeiladu pibell orlif ar y gweill

- Mae gwaith cloddio yn parhau yn Carew Close i alluogi gosod ffos newydd.

- Bydd gwaith i adeiladu twll newydd yn Merthyr Dyfan Road yn parhau. Bydd gwaith i ailadeiladu'r ffordd bresennol hefyd yn parhau

- Bydd gwaith i adfer mynedfa’r safle datblygu yn Robbins Road yn parhau. Caiff gylïau ychwanegol eu gosod hefyd.

 

Wythnos yn Cychwyn 23 Ionawr 2017

 

Gwneir y gwaith canlynol yr wythnos hon ledled dalgylch Coldbrook:

- Mae Solent Road/Langlands Road ar gau i alluogi cloddio twll caead newydd

- Mae DCWW yn parhau gyda gwyriad y prif gyflenwad dŵr Mae hyn yn cynnwys Mesurau Rheoli Traffig ar hyn Coldbrook Road East.

- Bydd gwaith yn Brock Street yn parhau. Mae mesurau Rheoli Traffig wedi’u gosod ac mae gwaith i adeiladu pibell orlif ar y gweill

- Cwblhau gwaith i osod rhwystr sbwriel yn Fan Agored Dyfan Road

- Mae gwaith cloddio yn parhau yn Carew Close i alluogi gosod ffos newydd.

- Bydd gwaith i adeiladu twll newydd yn Merthyr Dyfan Road yn parhau. Bydd gwaith i ailadeiladu'r ffordd bresennol hefyd yn parhau

- Bydd gwaith i adfer mynedfa’r safle datblygu yn Robbins Road yn parhau. Caiff gylïau ychwanegol eu gosod hefyd.

 

Wythnos yn Cychwyn 16 Ionawr 2017

 

Gwneir y gwaith canlynol yr wythnos hon ledled dalgylch Coldbrook:

- Mae Solent Road/Langlands Road ar gau i alluogi cloddio twll caead newydd

- Disgwylir i waith ddechrau ar wyriad prif gyflenwad dŵr DCWW. Bydd hyn yn cynnwys gosod mesurau Rheoli Traffig.

- Mae gwaith yn Brock Street wedi dechrau. Mae mesurau Rheoli Traffig wedi’u gosod ac mae gwaith i adeiladu pibell orlif i ddechrau.

- Cwblhau gwaith i osod rhwystr sbwriel yn Fan Agored Dyfan Road

- Dechrau gwaith cloddio yn Carew Close i alluogi gosod ffos newydd.

- Bydd gwaith i adeiladu twll newydd yn Merthyr Dyfan Road yn parhau. Bydd gwaith i ailadeiladu'r ffordd bresennol hefyd yn parhau

 

Wythnos yn dechrau 9fed Ionawr 2017

 

Cynhelir y gwaith canlynol yr wythnos hon ar draws dalgylch Coldbrook:

- Parhau’r gwaith yn Ffordd Langlands a Ffordd Solent, gan gynnwys cloddio twll archwilio newydd

- Gosod rheolaeth traffig yn Brock Street, i ganiatáu ar gyfer cychwyn adeiladu gwaith yn y lleoliad hwn

- Cwblhau'r gwaith ar Fan Agored Ffordd Dyfan

- Gosod rheoli traffig yn Carew Close, ar gyfer cychwyn y gwaith cloddio

- Parhau’r gwaith adeiladu yn Ffordd Merthyr Dyfan, ynghyd ag ailadeiladu’r ffordd bresennol

 

Wythnos yn dechrau 2il Ionawr 2017

 

Ar ôl ailddechrau’r cynllun ym mis Ionawr, bydd y gwaith canlynol yn cael ei gynnal ar draws dalgylch Coldbrook:

- Cau Ffordd Solent a Ffordd Langlands i ganiatáu cychwyn y gwaith cloddio

- Cwblhau'r gwaith adfer i erddi yn Brookfield Avenue

- Cwblhau'r gwaith ategol ar Fan Agored Ffordd Dyfan

- Cwblhau'r gwrthgloddiau a newidiadau i lwybrau troed yn Ffordd Merthyr Dyfan

- Bydd y gwaith adeiladu yn parhau i fewnfa cwlfer Ffordd Merthyr Dyfan

- Gwaith adfer yn cychwyn yn Smithies Field

Rhagfyr 2016

Noder, bydd cyfnod cau Nadolig ein contractwyr, Dyer & Butler, yn dechrau ddydd Mercher 21 Rhagfyr 2016, gyda gwaith yn ailddechrau Dydd Mawrth 3 Ionawr 2017.

Cyn cau am y Nadolig, bydd yr holl waith yn cael ei wneud yn ddiogel dros y cyfnod gwyliau. Mae hyn yn cynnwys:

- ail-agor Ffordd Solent a Ffordd Langlands

- Cwblhau gwaith atodol, gan gynnwys y llifddor a sgrin sbwriel, ym Mhwll Gwanhau Ffordd Dyfan

- Cwblhau’r gwaith adfer yn Ffordd Merthyr Dyfan

- Gwneud gwaith yn ddiogel yn Price Avenue, Coldbrook Road East, Brookfield Avenue a Redberth Close

 

Wythnos yn dechrau 12fed Rhagfyr 2016

Cynhelir y gwaith canlynol yr wythnos hon ar draws dalgylch Coldbrook:

- Adfer dros dro'r ffordd gerbydau yn Ffordd Solent / Ffordd Langlands i ailagor y ffordd cyn y cyfnod cau dros y Nadolig

- Cwblhau adfer gerddi yn Brookfield Avenue, ynghyd â chychwyn y wal gynnal caergawell

- Cwblhau'r ffens llifddor o amgylch Man Agored Ffordd Dyfan a gosod sgrin sbwriel ar y mur pen yn yr ardal hon

- Adfer palmant bloc a llwybrau troed yn Redberth Close

- Parhau’r gwaith adeiladu ar y fewnfa newydd yn Ffordd Merthyr Dyfan

- Parhau’r gwaith ymchwilio yn Price Avenue

- Dileu’r gwaith ffensio Heras dros dro a gosod ffens goed dros dro yn ei le ym mewnfa Meadow Vale/Coldbrook Road East

 

Wythnos yn dechrau 5ed Rhagfyr 2016

Bydd y gwaith isod yn parhau ar draws dalgylch Coldbrook yr wythnos hon:

- Parhau’r gwaith i’r bibell 1200 diamedr yn Ffordd Solent/Ffordd Langlands

- Cwblhau’r gwaith ar y gerddi yn Brookfield Avenue, ynghyd â chlirio’r rhwystr yn y cwlfer 1200 diamedr

- Cwblhau’r gwaith ym Man Agored Ffordd Dyfan

- Parhau’r gwaith adeiladu yn Redberth Close a Smithies Field. 

- Parhau’r gwaith i’r fewnfa newydd yn Ffordd Merthyr Dyfan

- Cychwyn y gwaith ymchwilio i fewnfa Price Avenue

Tachwedd 2016

Wythnos yn dechrau 28ain Tachwedd 2016

Bydd y gwaith isod yn parhau ar draws dalgylch Coldbrook yr wythnos hon:

- Parhau’r gwaith ar y bibell 1200 diamedr yn Ffordd Solent/Ffordd Langlands

- Cwblhau’r gwaith i'r gerddi yn Brookfield Avenue, ynghyd â chlirio'r rhwystr yn y cwlfer 1200 diamedr

- Cwblhau'r gwaith ym Man Agored Ffordd Dyfan

- Parhau’r gwaith adeiladu yn Redberth Close a Smithies Field. 

- Parhau’r gwaith i’r fewnfa newydd yn Ffordd Merthyr Dyfan

- Cychwyn y gwaith ymchwilio i fewnfa Price Avenue

 

Wythnos yn dechrau 14eg Tachwedd 2016

Bydd y gwaith canlynol yn parhau'r wythnos hon:

- Parhau’r gwaith i’r bibell 1200 diamedr yn Ffordd Solent/Ffordd Langlands

- Adfer gerddi a gosod waliau hyfforddiant afon caergawell yn Brookfield Avenue

- Gwaith adeiladu i gwlfer Ffordd Merthyr Dyfan

- Ailddechrau’r gwaith yn Lydstep Road, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth y cwmni cyfleustodau

- Gwaith adeiladu yn Redberth Close a Smithies Field

- Parhau’r gwrthgloddiau a gwaith ategol ym Man Agored Ffordd Dyfan

 

Wythnos yn dechrau 7fed Tachwedd 2016

Mae’r gwaith yn parhau ar draws dalgylch Coldbrook, gan gynnwys:

- Parhau’r gwaith i’r bibell gorlif 1200 diamedr yn Ffordd Solent/Ffordd Langlands

- Adfer gerddi a gosod waliau hyfforddiant afon caergawell yn Brookfield Avenue

- Parhau’r gwrthgloddiau ym Man Agored Ffordd Dyfan i gwblhau’r pwll gwanhau

- Ailddechrau’r gwaith yn Lydstep Road, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth y cwmni cyfleustodau

- Gwaith adeiladu yn Redberth Close a Smithies Field

- Gwaith adeiladu i gwlfer Ffordd Merthyr Dyfan

Hydref 2016

Wythnos yn dechrau 31ain Hydref 2016

Gwneir y gwaith canlynol yr wythnos hon:

- Bydd gwaith yn parhau yn Ffordd Solent, gan gynnwys gosod y biblinell newydd a siambrau tyllau archwilio cysylltiedig

- Bydd DCWW yn mynychu’r safle yn Ffordd Langlands i sefydlu statws yr hyn a gredir yw’r brif bibell ddŵr. Trefnir gwaith pellach yn unol â chanlyniad y cyfarfod safle hwn

- Bydd gwaith clirio llaid yn parhau i’r cwrs dŵr yn Coldbrook Road East. Rhagwelir y bydd hyn yn parhau tan ddydd Mercher 2il Tachwedd.

- Bydd gwaith yn parhau i’r basn gwanhau ym Man Agored Ffordd Dyfan. 

- Bydd gwaith yn parhau yn Redberth Close a Smithies Field.

- Yn amodol ar ganlyniad y cyfarfod safle gyda Wales and West Utilities mewn perthynas â gwaith amddiffyn nwy i offer presennol, gall ailadeiladu cyrbau a throedffordd gychwyn yn Ffordd Merthyr Dyfan. 

 

RHYBUDD: 

Er bod gwaith draenio yn Ffordd Solent yn parhau i fynd yn ei flaen, mae’r gwaith yn Ffordd Langlands wedi ei atal oherwydd dau rwystr gwasanaethau dieithr arwyddocaol. Mae'r rhain wrthi'n cael eu hadolygu gyda'r cleient a chwmnïau cyfleustodau. Cynhelir ymchwiliadau pellach. 

 

Wythnos yn dechrau 17eg Hydref 2016

Yr wythnos hon, mae’r gwaith canlynol yn digwydd ar draws y dalgylch:

- Parhau â gosod y biblinell 1200 diamedr yn Ffordd Solent/Ffordd Langlands

- Parhau â gosod y waliau caergawell yn Brookfield Avenue

- Parhau’r gwaith i’r strwythur allanfa ym Man Agored Ffordd Dyfan, ynghyd ag adeiladu llwybrau troed

- Parhau’r gwaith yn Ffordd Merthyr Dyfan

- Glanhau’r cwrs dŵr presennol yn Coldbrook Road East

 

Sylwch y bydd y gwaith yn Coldbrook Road East angen defnyddio Goleuadau Traffig Dros Dro er mwyn caniatáu glanhau’r cwrs dŵr. Dylai hyn fod yn ei le gydol yr wythnos. 

 

Wythnos yn dechrau 10fed Hydref 2016

Mae gwaith yn mynd yn ei flaen yn y lleoliadau canlynol yr wythnos hon:

- Yn Ffordd Solent/Ffordd Langlands defnyddiwyd adnoddau ychwanegol i gyflymu cwblhau’r gwaith. Bydd y ffordd ar gau am oddeutu 10 wythnos

- Yn Brookfield Avenue mae’r gwaith yn parhau ar y waliau caergawell. Mae'r strwythur mewnfa newydd wedi ei adeiladu a'r ardal wedi’i hôl-lenwi

- Ym Man Agored Ffordd Dyfan mae’r gwaith yn parhau ar y pwll gwanhau, gyda darpariaeth uwchbridd ac adeiladu llwybrau troed, ynghyd â gwrthgloddiau pellach

- Yn Ffordd Merthyr Dyfan mae gwaith adeiladu yn parhau. Sylwch y bydd craeniau yn yr ardal i symud yr unedau cwlfer o amgylch y safle. 

- Yn Price Avenue bydd y gwaith ymchwilio yn dechrau o fewn y sianel o fewn yr wythnos nesaf

 

Wythnos yn dechrau 3ydd Hydref 2016

Mae’r gwaith yn parhau ar draws dalgylch Coldbrook, gan gynnwys:

- Gwaith i’r gorlif 1200 diamedr yn Ffordd Solent a Ffordd Langlands

- Adeiladu waliau caergawell ar hyd yr ochrau ym mewnfa Brookfield Avenue

- Gwaith i'r siambr gored yn Robins Lane

- Parhau’r gwaith yn Ffordd Merthyr Dyfan.

 

Noder, y bydd y gwaith i’r pwll gwanhau ym Man Agored Ffordd Dyfan yn parhau’r wythnos hon, ac efallai y bydd angen defnyddio pympiau dros nos am hyd at dair noson.  

Medi 2016

Cynnydd y Gwaith

Gwaith yn Ffordd Solent yn parhau ar y bibell 1200 diamedr a dargyfeirio’r garthffos fudr.

- Ffyrdd cerbydau a llwybrau troed yn cael eu hadfer er mwyn caniatáu defnydd y cyhoedd i Ewbank Close.

- Gwrthgloddiau ym Man Agored Ffordd Dyfan yn mynd ymlaen a’r strwythur concrid terfynol ar y gweill

- Gwaith yn digwydd ar y siambr gored yn Robins Lane

- Gwaith ym Meadowvale/Brookfield Avenue yn mynd yn ei flaen. Mae'r mur pen fewnfa diwygiedig wedi ei gwblhau tra bo gwaith cwlfer pellach wedi ei atal oherwydd materion mynediad

- Ffordd Merthyr Dyfan wedi ei dargyfeirio i ganiatáu gosod cwlferi Concrid Rhag-Gastiedig. Gwaith ar y strwythur fewnfa newydd a thwll archwilio allfa hefyd yn symud ymlaen yn y lleoliad hwn.

- Gwaith yn ysgolion Gwaun y Nant/Oakfield ac Ysgol Gyfun Bryn Hafren wedi ei gwblhau yn ystod y gwyliau ysgol. 

Awst 2016

Cynnydd y Gwaith

- Gwaith yn mynd yn ei flaen yn Ffordd Solent. Y bibell 1200 diamedr nawr wedi ei chysylltu, ac adeiladu’r strwythur concrid uwchben hwn ar y gweill

- Yn Robins Lane y siambr gored wedi ei hail ddylunio a gyda gwaith yn ailgychwyn ar y strwythur hwn

- Gwaith ym Meadowvale/Brookfield Avenue yn mynd yn ei flaen. Ailgynllunio angenrheidiol yn effeithio ar gynnydd y strwythur mur pen 

- Gwaith yn Coldbrook Road East wedi cychwyn. Bydd Goleuadau Traffig yn eu lle am oddeutu 8 wythnos

- Gwaith ar Ffordd Merthyr Dyfan yn parhau

 

Gorffennaf 2016

Cynnydd y Gwaith

- Un o'r strwythurau mewnfa ym Man Agored Ffordd Dyfan yn gyflawn, a gwaith ar strwythurau eraill yn parhau

- Gwrthgloddiau wedi ailgychwyn ym Man Agored Ffordd Dyfan

- Glanhau’r cwrs dŵr yn 90%. Bydd y gwaith sy'n weddill yn cael ei wneud ar ôl cwblhau'r prif waith

- Adeiladu’r cwlferi blwch yn Robins Lane yn gyflawn erbyn hyn ac mae'r siambr gored yn cael ei hadeiladu

- Gwaith ym Meadowvale/Brookfield Avenue yn mynd yn ei flaen. Mae'r bibell orlif 750 dia yn gyflawn a chychwynnir yn fuan ar y mur pen

Mehefin 2016

Digwyddiad Pont i Ysgolion

Ar ddydd Mercher 15fed Mehefin, cynhaliwyd digwyddiad pont i ysgolion gan Sefydliad Peirianneg Sifil Cymru gydag Ysgol Gwaun y Nant. Cafodd ei gynnal gan ddosbarth Blwyddyn 6 a rannwyd yn ddau dîm, gyda phob disgybl yn cael rôl ei hun. Ar ôl sgwrs fer ar Beirianneg Sifil, Diogelwch Safle a phwysigrwydd PPE, cawsant eu gwisgo yn eu PPE eu hunain a dechreuwyd adeiladu’r bont. Adeiladodd y disgyblion y bont, gan ddysgu am y gwahanol agweddau sy'n ymwneud â’i hadeiladu. Y Dirprwy Bennaeth Mrs Thomas oedd y cyntaf i groesi'r bont orffenedig, ac yna aeth pob un o'r disgyblion drosti. Roedd y disgyblion wrth eu bodd, ac roedd y digwyddiad yn llwyddiant 

 

Cynnydd y Gwaith

- Gwaith yn Ffordd Solent wedi ailgychwyn ac yn mynd yn ei flaen yn araf oherwydd bod cyflwr y ddaear yn anodd

- Mae'r gwaith gwyro’r garthffos fudr ym Man Agored Ffordd Dyfan yn gyflawn ac yn aros i gael archwiliad gan Dŵr Cymru Welsh Water

- Gwaith ar y strwythurau fewnfa ym Man Agored Heol Dyfan wedi dechrau

- Glanhau mewnol y cwlferi presennol a chlirio cwrs dŵr 90% wedi'i gwblhau

- Gwaith yn Robins Lane 40% wedi'i gwblhau

- Cwteri newydd wedi cael eu hadeiladu yn Lydstep Way

- Gwaith wedi dechrau ar Meadowvale / Brookfield Avenue ac yn symud ymlaen yn araf oherwydd amodau tir annisgwyl 

Ebrill 2016

Symud adeilad safle

Mae’r prif adeilad wedi cael ei symud o Brock Street ac mae bellach ar gael yn Nepo Court Road Cyngor Bro Morgannwg. Mae Sian Gadd, Cydlynydd Cyswllt Cymunedol, ar gael yn yr adeilad bob dydd Llun 9:30am-2:30pm i ateb unrhyw gwestiynau a phryderon.

Cyfeiriad y prif adeilad yn awr yw:

Depo Court Road

Ffordd y Barri

Y Barri

CF62 9BG

Mawrth 2016

Gwaith Presennol/Wedi’i Gwblhau:
1. Adeiladu cwlferi/piblinellau newydd yn Ffordd Solent.
2. Clirio’r safle a gwaith glanhau/atgyweirio’r cwlferi yn ardal Ffordd Merthyr Dyfan (Cemetery Lane).
3. Adeiladu cwlferi a strwythurau newydd yn ardal y pwll gwanhau.

Gwaith arfaethedig:
1. Adeiladu piblinellau newydd yn ardal Ffordd Merthyr Dyfan (Cemetery Lane).
2. Glanhau/atgyweirio’r cwlferi presennol yng nghyffiniau Redberth Close. 
3. Clirio’r safle gwaith yn gyffredinol.
4. Adeiladu strwythurau newydd yn ardal y pwll gwanhau.

Chwefror 2016

Gwaith Presennol/Wedi’i Gwblhau:
1. Gwaith cloddio yn Ffordd Solent.
2. Clirio’r safle gwaith yn ardaloedd y pwll gwanhau a Ffordd Merthyr Dyfan (Cemetery Lane).
3. Adeiladu cwlferi newydd yn ardal y pwll gwanhau.

Gwaith arfaethedig:
1. Adeiladu cwlferi/piblinellau newydd yn Ffordd Solent.
2. Dechrau gosod pibellau yn ardaloedd Ffordd Merthyr Dyfan (Cemetery Lane). 
3. Clirio’r safle gwaith yn gyffredinol.

Yn dilyn datganiad i'r wasg Cyngor Bro Morgannwg ym mis Rhagfyr 2015, mae cyfnod adeiladu Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Dalgylch Coldbrook wedi dechrau ar y safle, gyda gwaith yn cael ei wneud yn y mannau canlynol ar hyn o bryd:

Gwaith Presennol/Wedi’i Gwblhau:
1. Cau Ffordd Solent, gwyriadau a rheoli traffig yn eu lle.
2. Gwaith wedi’i gwblhau yn Solva Close.
3. Galluogi i waith gael mynediad i'r ardal pwll gwanhau.

Gwaith arfaethedig:
1. Adeiladu cwlferi newydd yn ardal y pwll gwanhau.
2. Clirio cwrs dŵr gan ddechrau yn ardal Ffordd Merthyr Dyfan. 
3. Glanhau cwlfer / dad-leidio / atgyweirio yn cychwyn ardal Smithies Field.

Mae prif gontractwr y cynllun, Dyer & Butler, wedi sefydlu eu prif swyddfa ar y safle yn Brock Street CF63 1LB ac fel arfer bydd rhywun ar gael yn y swyddfeydd hyn rhwng 8 am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, lle gellir gweld darluniau safle manwl drwy apwyntiad. Mae gan Dyer & Butler Gydlynydd Cyswllt Cymunedol y gellir cysylltu â hi i drafod unrhyw bryderon sydd gan drigolion ynghylch y gwaith. Yn ogystal, bydd Dyer & Butler hefyd yn darparu cylchlythyr misol i hysbysu trigolion am gynnydd y cynllun.

Hydref 2014 - Digwyddiad Cymunedol

Cynhelir digwyddiad cymunedol ar 22ain Hydref 2014 yn Ysgol Gynradd Oakfield, Amroth Court, Caldy Close, Y Barri i roi gwybod am y cynnydd gyda Chynllun Rheoli Perygl Llifogydd Dalgylch Coldbrook. Bydd sesiwn galw heibio yn y prynhawn o 3.30pm i 6pm - lle bydd arddangosfa rheoli'r perygl o lifogydd a manylion am y Cynllun Rheoli Llifogydd ar gael i'w gweld. Yna cynhelir cyfarfod cymunedol am 6pm lle bydd cyflwyniad yn dangos manylion y cynllun, ac wedyn ceir sesiwn holi ac ateb lle y gellir esbonio’r cynllun ynghyd ag unrhyw faterion rheoli perygl llifogydd eraill yr hoffai’r gymuned eu trafod.

Medi 2014 - Gwahoddiadau i Dendro

Mae’r gwahoddiadau i dendro ar gyfer Cynllun Rheoli Llifogydd Dalgylch Coldbrook bellach wedi'u hanfon at gontractwyr yn dilyn y broses cyn-gymhwyso. Rhagwelir y bydd gwaith o adeiladu'r cynllun yn dechrau yn gynnar ym mis Rhagfyr 2014.

Awst 2014 - Hysbysiad Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol

Cyhoeddwyd yr hysbysiad Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol. I gael manylion am yr hysbysiad, gweler yma

Gorffennaf 2014 - Cynnydd y Cynllun

Mae dyluniad manwl Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Coldbrook bron wedi’i gwblhau, tra bod camau yn cael eu cymryd i ddewis Contractwyr i brisio’r gwaith arfaethedig. Cafodd yr holiaduron cyn-gymhwyso ar gyfer y gwaith, a hysbysebwyd ar y wefan 'GwerthwchiGymru', eu dychwelwyd ddydd Gwener 18fed Gorffennaf.  Gwahoddir tendrau gan y contractwyr a ddewiswyd yn y dyfodol agos. Bydd manylion y gwaith arfaethedig ar gael i'w gweld yn y digwyddiad cymunedol y bwriedir ei gynnal ym mis Medi 2014 (dyddiadau a lleoliadau i’w cadarnhau)

Man Agored Ffordd Dyfan - Clirio Llystyfiant – Mae angen gwaith clirio llystyfiant ym Man Agored Cyhoeddus Ffordd Dyfan i hwyluso'r gwaith o adeiladu ardal storio llifogydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Dim ond yn ystod digwyddiadau glaw eithafol y bydd y lagŵn storio yn llenwi, gan ddal dŵr yn ôl ac atal llifogydd yn is yn y dalgylch. Mae ôl troed yr ardal storio wedi cynyddu ers dyluniad y cynllun gwreiddiol yn sgil y cynnydd mewn llif dylunio a ragwelir. Rhaid i'r llystyfiant, gan gynnwys coed sy’n ffinio ffrydiau, gael eu symud i osgoi unrhyw oedi i'r gwaith adeiladu arfaethedig. Os bydd adar yn nythu o fewn yr ardaloedd hyn, bydd y gwaith ar y safle yn cael ei ohirio nes bod y nythod wedi eu gadael yn yr Hydref. Mae adar gwyllt yn cael eu diogelu gan y gyfraith rhag cael eu lladd, eu hanafu neu eu dal, tra bod eu nythod a'r wyau yn cael eu diogelu rhag cael eu difrodi, dinistrio neu eu cymryd.

Chwefror 2014 - Ail-ddylunio’r cynllun wedi ei gwblhau

Mae dyluniad y cynllun diwygiedig wedi'i gwblhau a cheisir y caniatadau, trwyddedau a chymeradwyaethau priodol yn awr i symud ymlaen gyda'r cynllun.

Rhagfyr 2013 - Gwaith Ymchwilio’r Ddaear a’r Safle

Gwaith Ymchwilio’r Ddaear a’r Safle (Pyllau Prawf Ardal Storio, 2il Rhagfyr 2013). Cynhaliwyd gwaith ymchwilio i'r safle i gadarnhau lefelau’r ochrau y tu ôl i Odd Fellows Cottages, ar hyd Heol y Bont-faen a Coldbrook Road West, a Ffordd Solent ym mis Rhagfyr 2013.

 

Ionawr 2013 - Modelu ac ail-ddylunio’r cynllun

Mae ail-ddylunio’r cynllun yn mynd rhagddo yn dilyn adolygiad o'r modelau llif dalgylch a ddefnyddiwyd i ddylunio’r cynllun. Dyluniwyd y cynllun i safon gwasanaeth 1 mewn 100 mlynedd yn ogystal â lwfans newid yn yr hinsawdd. Bydd cynnydd yn y llif i lawr drwy'r dalgylch a ragwelir ar gyfer digwyddiad eithafol angen cynyddu maint elfennau'r cynllun ac ailwirio'r effeithiau lawr yr afon o'r dalgylch.

Hysbysiad Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol – Wedi’i ddisodli

Cyhoeddwyd yr hysbysiad Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol. I gael manylion am yr hysbysiad, gweler yma.  

Gwahoddiadau i Dendro

Mae’r gwahoddiadau i dendro ar gyfer Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Dalgylch Coldbrook bellach wedi cael eu hanfon at y chwe chontractwr llwyddiannus yn dilyn y broses cyn-gymhwyso gychwynnol.  Rhagwelir y bydd gwaith o adeiladu'r cynllun yn dechrau yn gynnar ym mis Medi 2012.

 

Gweithdai Perygl Llifogydd

Mae aelodau o'r tîm project bellach wedi cwblhau cyfres o weithdai perygl llifogydd mewn ysgolion yn y Barri.  Mae'r pynciau a drafodir yn ystod y gweithdai yn cynnwys; darllen map, Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Dalgylch Coldbrook, dulliau o wella systemau draenio a chynyddu’r gallu i wrthsefyll llifogydd.  Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bob disgybl yn Ysgol Gatholig St Richard Gwyn, Ysgol Gwaun Y Nant, Ysgol Gynradd Oakfield ac Ysgol Gyfun Bryn Hafren am eu cyfraniad gwych yn ystod y gweithdai.

31 Mai 2012 - Digwyddiad cymunedol

Mae'r digwyddiad cymunedol a drefnwyd yn flaenorol ar gyfer 24 Mai 2012 bellach wedi ei aildrefnu ar gyfer 31 Mai 2012 yn Ysgol Gynradd Oakfield, Amroth Court, Caldy Close, Y Barri i roi gwybod am y cynnydd gyda Chynllun Rheoli Perygl Llifogydd Dalgylch Coldbrook.  Bydd sesiwn galw heibio yn y prynhawn o 3.30pm i 6pm - lle bydd arddangosfa rheoli'r perygl o lifogydd a manylion am y Cynllun Rheoli Llifogydd ar gael i'w gweld.  Yna cynhelir cyfarfod cymunedol o 6pm i 8pm, gyda chyfarfod ffurfiol o 7 pm i 8pm, lle bydd cyflwyniad yn dangos manylion y cynllun ac yna ceir sesiwn holi ac ateb lle y gellir esbonio’r cynllun ynghyd ag unrhyw faterion rheoli perygl llifogydd eraill yr hoffai’r gymuned eu trafod.  Caiff hwn ei gadeirio gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gweladwy a gwneir y cyflwyniad gan gynrychiolwyr o Martin Wright Associates (MWA), yr ymgynghorwyr dylunio peirianneg a benodwyd ar gyfer y project, a Chyngor Bro Morgannwg.

Mai 2012 - Cynnydd y Cynllun

Mae dyluniad manwl Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Coldbrook yn symud ymlaen yn chwim, tra bod camau yn cael eu cymryd i ddewis Contractwyr i brisio’r gwaith arfaethedig. Cafodd yr holiaduron cyn-gymhwyso ar gyfer y gwaith, a hysbysebwyd ar y wefan 'GwerthwchiGymru', eu dychwelwyd ddydd Gwener 4ydd Mai.  Gwahoddir tendrau gan y contractwyr a ddewiswyd yn y dyfodol agos. Bydd manylion y gwaith arfaethedig ar gael i'w gweld yn y digwyddiad cymunedol yn Ysgol Gynradd Oakfield ar 24 Mai. 

Mai 2012 - Digwyddiad cymunedol

Cynhelir digwyddiad cymunedol ar 24ain Mai 2012 yn Ysgol Gynradd Oakfield, Amroth Court, Caldy Close, Y Barri i roi gwybod am y cynnydd gyda Chynllun Rheoli Perygl Llifogydd Dalgylch Coldbrook.  Bydd sesiwn galw heibio yn y prynhawn o 3.30pm i 6pm - lle bydd arddangosfa rheoli'r perygl o lifogydd a manylion am y Cynllun Rheoli Llifogydd ar gael i'w gweld.  Yna cynhelir cyfarfod cymunedol o 6pm i 8pm, gyda chyfarfod ffurfiol o 7 pm i 8pm, lle bydd cyflwyniad yn dangos manylion y cynllun ac yna ceir sesiwn holi ac ateb lle y gellir esbonio’r cynllun ynghyd ag unrhyw faterion rheoli perygl llifogydd eraill yr hoffai’r gymuned eu trafod.  Caiff hwn ei gadeirio gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gweladwy a gwneir y cyflwyniad gan gynrychiolwyr o Martin Wright Associates (MWA), yr ymgynghorwyr dylunio peirianneg a benodwyd ar gyfer y project, a Chyngor Bro Morgannwg.

Rhagfyr 2011 - Gwaith Ymchwilio’r Ddaear a’r Safle

Gwnaed gwaith ymchwilio'r safle i sefydlu cyflwr y ddaear ym mis Rhagfyr 2011. Cloddiwyd pyllau prawf ar dir gerllaw Ffordd Merthyr Dyfan, yn y cae chwarae yn Raldan Close ac ar dir oddi ar Daniel Street a Hebble Lane. Cloddiwyd tri phwll prawf hefyd ar diroedd Ysgol Gynradd Oakfield & Ysgol Gwaun y Nant ac un ar dir Ysgol Uwchradd Gatholig St Richard Gwyn. Gwnaed profion ffosydd cerrig mewn dau leoliad ar diroedd Ysgol Gynradd Oakfield ac Ysgol Gwaun y Nant i sefydlu anathreiddedd yr isbridd.

Medi 2011 - Grŵp Rheoli Risg Llifogydd Dalgylch Coldbrook

Cynhaliwyd cyfarfod o Grŵp Rheoli Risg Llifogydd Coldbrook ar 12 Medi 2011. Yn y cyfarfod rhoddodd Dave Collyer o Martin Wright Associates gyflwyniad ar gynnydd y cynllun. Roedd ei gyflwyniad yn cynnwys manylion am yr arolygon a gynhaliwyd, modelu hydrolegol a wnaed, a'r Gwerthusiad Opsiynau a gynhaliwyd i benderfynu ar yr ateb gorau i berygl rheoli llifogydd. Hefyd trafododd Dave rôl Asiantaeth yr Amgylchedd, ymgysylltu â'r cyhoedd a'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r cynllun.

Gorffennaf 2011 - Gwefan yn mynd yn fyw

Mae gwefan y cynllun yn awr yn 'fyw' yn www.coldbrookflood.co.uk. Wrth i'r cynllun fynd yn ei flaen, bydd y safle yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd er mwyn rhoi gwybodaeth gyfredol i drigolion a phartïon eraill â diddordeb. Un o nodweddion pwysicaf y safle yw’r dudalen 'Cysylltwch â ni'. Mae croeso i chi ei defnyddio i roi adborth, neu i ofyn cwestiynau.

Mehefin 2011 - Cyflwyniad i Sefydliad y Peirianwyr Sifil

Rhoddodd Cyfarwyddwr Martin Wright Associates, Dave Collyer, gyflwyniad am y cynllun i Frecwast Busnes Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) a gynhaliwyd yn y Novotel, Caerdydd.  Roedd y gynulleidfa yn cynnwys amrediad eang o gynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Mehefin 2011 - Gwaith arolygu

Cynhelir gwaith rhagarweiniol i gasglu data ar gyfer y cynllun yn ystod pythefnos olaf mis Mehefin. Invek Surveys Ltd fydd yn cynnal archwiliad mewnol manwl o bob un o'r pibellau dŵr wyneb sylweddol a chwlferi yn y dalgylch, a bydd Survey Operations Ltd yn gwneud gwaith arolwg topograffig manwl.
Mae dros ddau gant o gartrefi yn yr ardal wedi derbyn llythyrau yn eu rhybuddio am y posibilrwydd y gall fod yn ofynnol cael mynediad i’w gerddi cefn.


Unwaith y bydd yr arolygon wedi eu cwblhau, defnyddir y data i greu model cyfrifiadurol manwl o'r system ddraenio yn y dalgylch, a fydd yn ei dro yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi ble mae'r problemau a beth yw'r opsiynau gorau ar gyfer gwelliannau.

 

Mai 2011 - Ymrwymiad Asiantaeth yr Amgylchedd i’r cynllun

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd (Cymru) wedi cadarnhau eu hymrwymiad i'r cynllun a byddant yn gweithio'n agos gyda Chyngor Bro Morgannwg i sicrhau bod y project yn cyflawni pob un o'i amcanion. Mae gan yr Asiantaeth gyfrifoldebau rheoli ar gyfer y rhan 'brif afon' o gwrs dŵr Coldbrook ym mhen isaf y dalgylch trefol (h.y. gerllaw Ysgol Uwchradd Gatholig St Richard Gwyn)

Mawrth 2011 - Project ar y Gweill

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi penodi Martin Wright Associates i ymgymryd â dyluniad a datblygiad y project gyda golwg ar ddechrau adeiladu’r gwaith gwella yn 2012.

 

2011 - Cyllid Ewropeaidd

Mae Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Dalgylch Coldbrook yn un o nifer fechan o brojectau ledled Cymru a fydd yn derbyn cymorth grant gan Gronfa Cystadleurwydd yr UE. Bydd y project, sy'n cael ei hyrwyddo gan Gyngor Bro Morgannwg, hefyd yn derbyn cymorth grant gan Raglen Gyfalaf Llifogydd ac Arfordirol Llywodraeth Cymru.