Cost of Living Support Icon

Draenio Tir

Yn unol â Deddf Draenio Tir 1991, mae gan nifer o gyrff ddiddordeb mewn draenio tir. 

 

Y cyrff rheiny yw: Asiantaeth yr Amgylchedd, Byrddau Draenio Mewnol, Awdurdodau Lleol, Awdurdodau Llywio a pherchnogion glannau afon. Mae gan bob un swyddogaeth i’w gyflawni wrth liniaru llifogydd.

 

Nid y Cyngor sy’n gyfrifol am ddraenio tir, ond mae’n medru gweithredu yn unol ag amodau’r Ddeddf Draenio Tir ar faterion sy’n ymwneud â draenio tir, yn enwedig pan fod cwrs dŵr wedi’i dagu’n debygol o achosi llifogydd. 

 

Swyddogaeth Perchnogion Glannau Afon

Gelwir chi yn berchennog glannau afon os ydych chi’n berchen ar dir neu adeilad ger afon neu gwrs dŵr arall. Yn rhinwedd hyn, mae gennych hawliau a chyfrifoldebau. 

 

Eich hawliau fel perchennog glannau afon:

  • Tybir mai chi sy’n berchen ar y tir hyd at ganol y cwrs dŵr, oni bai ei bod yn hysbys mai rhywun arall sy’n berchen arno
  • Mae gennych hawl i dderbyn llif y dŵr yn ei gyflwr cynhenid, heb ymyrraeth orfodol mewn cyfaint nag ansawdd
  • Mae gennych hawl i amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd a’ch tir rhag erydiad. Fodd bynnag, yn gyffredinol, bydd gofyn i chi gael caniatâd gan yr Asiantaeth  cyn cynnal gweithfeydd o unrhyw fath
  • Mae gennych hawl i bysgota yn eich cwrs dŵr, er y dylid gwneud hyn mewn modd cyfreithlon ac yn unol ag amodau trwydded gwialen gan yr Asiantaeth
  • Heb fod angen trwydded, cewch dynnu hyd at 20 medr ciwbig o ddŵr y diwrnod at ddefnydd trigolion eich cartref neu at ddiben amaethyddol, ac eithrio dyfrhau â chwistrell, o gwrs dŵr mewn man sy’n agos at eich tir. Bydd angen trwydded gan yr Asiantaeth at y rhan fwyaf o ddulliau eraill o dynnu dŵr

 

Cyn dechrau gwneud unrhyw waith ar gwrs dŵr neu ger llaw i un, rhaid i chi gyflwyno cynlluniau o’r gwaith arfaethedig i’r Asiantaeth ac i’r awdurdod lleol er mwyn iddynt benderfynu a oes angen eu caniatâd a / neu ganiatâd cynllunio arnoch chi.

 

Os bydd y gwaith yn debygol o effeithio ar safleoedd cadwraeth cydnabyddedig neu sydd o werth archeolegol, efallai fydd angen caniatâd pellach gan yr awdurdodau perthnasol yng Nghymru a Lloegr. Rhaid ystyried pob mater amgylcheddol priodol, gan gynnwys perygl rhag llifogydd, cadwraeth bywyd gwyllt, pysgodfeydd ac ail-lunio afon neu dirwedd.

 

Eich cyfrifoldebau fel perchennog glannau afon:

  • Hwyluso llif y dŵr heb fod yno rwystrau na llygredd, ac nad ydych yn tramgwyddo hawliau pobl eraill
  • Derbyn llifogydd dros eich tir, hyd yn oed os cânt eu hachosi gan ddiffyg cynhwysedd yn is ar yr afon, gan nad oes dyletswydd o dan y gyfraith gyffredin i wella cwrs dŵr
  • Ni ddylech beri unrhyw rwystr i symudiad rhydd i bysgod
  • Dylech chi drafod trefn cynnal a chadw amddiffynfeydd rhag llifogydd â swyddfa Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Gallai methu â chyflawni eich dyletswyddau olygu bod pobl eraill yn dwyn achos sifil yn eich erbyn
  • Cynnal a chadw gwely a glannau'r cwrs dŵr yn gyson (yn cynnwys coed a phrysgwydd sy’n tyfu ar y glannau), a chlirio unrhyw falurion, naturiol neu fel arall, gan gynnwys sbwriel a chyrff anifeiliaid, hyd yn oed nad ydynt wedi deillio oddi ar eich tir chi
  • Sicrhau nad oes tyfiant yng ngwely'r afon nac ar ei glannau a allai beri rhwystr, boed hynny ar eich tir neu drwy gael ei gludo gan lif cryf i rwystro strwythur yn is ar yr afon
  • Clirio unrhyw adeiladwaith sy'n perthyn i chi, megis ceuffosydd, sgriniau sbwriel, coredau a gatiau melin
  • Amddiffyn eich eiddo rhag diferiadau drwy llanau naturiol neu wneuthuredig. Os yw diferiad o'r fath yn bygwth cyfanrwydd strwythurol amddiffynfa rhag llifogydd, gall ddod yn fater sy'n ymwneud â’r Asiantaeth