Cost of Living Support Icon

Rheoleiddio Cyrsiau Dŵr Arferol

Diben Rheoleiddio cwrs dŵr arferol yw rheoli rhai gweithgareddau a allai gael effaith andwyol ar y perygl o lifogydd a’r amgylchedd. Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gyfrifol am reoleiddio’r holl gyrsiau dŵr arferol yn y fwrdeistref.

 

Mae cyrsiau dŵr arferol yn cynnwys nentydd, draeniau a ffosydd, a llwybrau y mae dŵr yn llifo drwyddynt nad ydynt yn rhan o’r rhwydwaith o brif afonydd. Rheoleiddir prif afonydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae rheoleiddio cyrsiau dŵr arferol yn cynnwys dwy elfen:

  • Camau gorfodi i unioni gwaith anghyfreithlon a allai fod yn niweidiol i gwrs dŵr
  • Rhoi cydsyniad i newidiadau i gyrsiau dŵr arferol a allai rwystro neu addas llif cwrs dŵr.

 

Perchenogaeth afonydd

Mae perchennog afon yn berchen ar dir sydd gyfagos at gwrs dŵr ac felly mae ganddo hawliau a chyfrifoldebau penodol. 

 

GOV.UK

 

Gwneud Cais

Sylwch:  Mae Cyngor Bro Morgannwg yn annog trafodaethau cyn i’r cais am ganiatâd. Drwy hyn, mae modd ystyried opsiynau nad oes angen caniatâd arnynt ac nad yw’n cael effaith andwyol ar y cwrs dŵr. Os oes angen caniatâd eto, gall trafodaethau cyn cais sicrhau bod ymgeiswyr yn deall y gofynion ac unrhyw ffyrdd posibl eraill o wneud y gwaith yn llawn heb fod angen caniatâd arnynt.
 
Gall y broses hon gymryd hyd at ddau fis calendr, felly gadewch ddigon o amser yn eich amserlen adeiladu.
 
Mae cost o £50 am bob strwythur neu weithrediad ar gyfer ceisiadau a wneir dan Ddeddf Draenio’r Tir 1991 ac ni ddechreuir gwneud penderfyniad ynghylch y cais tan y bydd y cais a'r ffi wedi eu derbyn.
 
Ni roddir caniatâd yn olynol a bydd gofyn i chi dynnu unrhyw waith sydd wedi ei gwblhau cyn y rhoddir caniatâd boed y gwaith yn cydymffurfio ai peidio.

 

 

Asesiad Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr:  Bydd angen gwneud Asesiad Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer rhai gweithgareddau y mae angen caniatâd ar eu cyfer.  Amcan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (Cyfarwyddeb 2000/60/EC) yw sefydlu fframwaith ar gyfer diogelu dyfroedd arwyneb (yn cynnwys afonydd, llynnoedd, dyfroedd newidiol ac arfordirol) a dyfroedd tir trwy diriogaeth yr UE.  Bydd trafodaethau cyn gwneud cais yn adnabod neu’n diystyru’r angen am asesiad o’r fath.  Sylwch os oes angen Asesiad Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, bydd yn rhaid ei gwblhau cyn cyflwyno cais am ganiatâd.  Os oes angen asesiad Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac ni chyflwynir un, ni roddir caniatâd. 
 
Cyflwyno:  Os ydych am wneud cais trwy e-bost, sicrhewch eich bod yn atodi unrhyw ddogfennau ategol.  Os yw’r atodiadau hyn dros 10MB, anfonwch nhw atom ar CD trwy’r post i’r cyfeiriad a roddir ar ddiwedd y ffurflen gais.  Gallwch e-bostio’ch ffurflen gais wedi ei chwblhau, yn cynnwys y testun ‘Rheoleiddio Cyrsiau Dŵr Arferol’ yn y blwch testun i:
 
Rheoleiddio Cyrsiau Dŵr Arferol
Cyngor Bro Morgannwg
Gwasanaethau Gweladwy a Thai
Depo’r Alpau
Gwenfô
CF5 6AA

 

Mae’n hanfodol cwblhau’r ffurflen gais yn gywir a bod eich gwybodaeth ategol yn eglur. Os oes unrhyw wybodaeth ar goll, mae’n bosibl y gohirir penderfynu ar eich cais.
 
Sicrhewch anfon siec drwy’r post yn daladwy i ‘Cyngor Bro Morgannwg’ am y ffi gywir.  Ysgrifennwch ‘Ffi Caniatâd Cyrsiau Dŵr Arferol’ ar gefn y siec i helpu'r gwaith prosesu.

 

  •  Cyfrifoldebau'r Ymgeisydd

    Mae gofyn i’r ymgeisydd drefnu’r gwaith adeiladu fel nad oes cynnydd yn y risg i drydydd partïon ac i sicrhau ei fod yn cael cysyniad a chaniatâd unrhyw berchennog a phreswylydd tir yr effeithir arno gan y gwaith.
     
    Nid yw derbyn Caniatâd Cyrsiau Dŵr Arferol gan y Cyngor yn hepgor yr angen am drwyddedau, cymeradwyaeth na chaniatâd eraill. 
     
    Os oes angen rhagor o wybodaeth ar y Cyngor er mwyn iddo wneud penderfyniad, cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd rhoi hon yn brydlon a chydnabod felly y gwneir penderfyniad ddau fis wedi derbyn cais cyflawn a ffi. Os nad oes gan y Cyngor ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad ar ei sail, ni 
    roddir caniatâd. 
     
    Os yw'n bosibl y bydd y gwaith a gynllunnir yn effeithio ar brif afon neu’r môr, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwneud cais am ganiatâd gan Asiantaeth Yr Amgylchedd yn ogystal â chan Gyngor 
    Bro Morgannwg.

  • Penderfynu Cais

    Wrth benderfynu cais, byddwn yn ystyried effaith y gwaith a gynigir ar berygl o lifogydd a’r amgylchedd.
     
    Byddwn yn sicrhau bod yr holl asesiadau angenrheidiol wedi eu gwneud, megis yr Asesiad Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (rhoddir cyngor cyffredinol ar ba asesiadau y dylid eu gwneud, ond yn y pen draw, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw eu cynnal). 
     
    Ystyrir cydymffurfiaeth â deddfwriaeth y mae’r awdurdod yn gyfrifol drosti, yn cynnwys:
     - Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (2000/60/EC)
     - Rheoliadau Cynefinoedd (2010)
     - Deddf yr Amgylchedd (1995)
     - Rheoliadau Llyswennod (2009)
     - Deddf Pysgodfeydd Eog a Dŵr Ffres (1975)
     - Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000) 
     
    Byddwn hefyd yn ystyried a yw’r gwaith yn digwydd ar safle penodol, yn cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig neu Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig.

     

    Rhoi Caniatâd:  Os yw’r Cyngor yn fodlon na fydd y gwaith a gynigir yn effeithio’n andwyol ar y perygl o lifogydd a’r amgylchedd, yna rhoddir caniatâd. Mae’n bosibl gosod amodau rhesymol hefyd ar gyfer y caniatâd, er enghraifft, yn berthnasol i ddull y gwaith neu gyfyngu ar yr amser neu gyfnod gwaith oherwydd gweithgarwch pysgod / adar / mamaliaid. 
     
    Gwrthod Caniatâd: Os penderfynir y caiff y gwaith effaith annerbyniol ar y perygl o lifogydd neu ar yr amgylchedd ni roddir caniatâd.  Ni roddir caniatâd ychwaith os nad oes digon o wybodaeth ar gael i wneud penderfyniad. Dylai sgyrsiau cyn gwneud cais gyda’r Cyngor leihau’r tebygolrwydd y gwrthodir caniatâd ac rydym yn argymell i bob ymgeisydd gysylltu â ni cyn cyflwyno cais. Os gwrthodir caniatâd, rhoddir gwybod i’r ymgeisydd yn glir beth oedd y rhesymau dros wrthod.  Os yw ymgeisydd yn credu bod Caniatâd Cyrsiau Dŵr Arferol wedi ei wrthod yn afresymol, neu os yw'r amodau sydd wedi eu gosod yn afresymol, bydd hawl iddynt apelio. Ceir manylion y broses apelio gan y Cyngor ar gais.

     


 

Gorfodi

Os gwnaed gwaith heb ganiatâd, a phan fo Cyngor Bro Morgannwg o’r farn y dylid bod wedi cael caniatâd, nid oes modd rhoi caniatâd mewn adolwg i waith. Byddwn fel arfer yn gweithredu i sicrhau y caiff y cwrs dŵr arferol ei roi’n ôl yn ei gyflwr gwreiddiol.
 
Mae’r cyngor yn defnyddio dull seiliedig ar risg o orfodi pan fo gwaith nas gwrthwynebir wedi’i gynnal ar gwrs dŵr arferol.
 
Os ydych wedi sylwi ar waith i gwrs dŵr arferol yn eich ardal leol, cysylltwch â ni i gael gwybod a oedd angen caniatâd ar y gwaith ac a wnaed cais am ganiatâd ai peidio.