Cost of Living Support Icon

Cartrefi Fforddiadwy

Darparu tai rhent cymdeithasol a chyfryngol yn ogystal â pherchnogaeth dai rhad

 

Mae’r tai rhent cymdeithasol a chyfryngol yn berchen i, ac yn cael eu rheoli gan, Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL).

 

  • Tai Rhent Cymdeithasol: codi rhent yn unol â'r canllawiau.
  • Tai Rhent Cyfryngol: mae'r rhent yn uwch na rhent tai cymdeithasol ond is na lefel y farchnad rent  gyffredinol.

 

Ein  partneriaid RSL yw: Wales and West Housing Association, Cymdeithas Dai Newydd*, United Welsh Housing AssociationHafod Housing Association

 

*Gwefan Gymraeg 

 

Aspire2Own 

Ydych chi eisiau bod yn berchen ar eich tŷ eich hun? Ydych chi’n methu fforddio pris y farchnad? Dyma’r cynllun i chi – gallai prynu cartref fod o fewn eich cyrraedd.

 

Sefydlwyd Aspire2Own gan Gyngor Bro Morgannwg a’i bartneriaid i gydnabod bod prynwyr tai cyntaf yn ei chael hi’n anodd cymryd y cam cyntaf ar y ffordd i fod yn berchen ar dŷ yn aml.

 

Cynllun Aspire2Own   

 

Cynllun Rhentu yn Gyntaf

Cynllun sy’n galluogi pobl i rentu cartref yn gyntaf, a’i brynu maes o law.

O dan y cynllun Rhentu yn Gyntaf, codir rhent is na phris y farchnad er mwyn i bobl fedru cynilo am flaendal. Bydd y tenant wedyn yn gallu prynu’r eiddo ymhen tair blynedd.

 

Rent First Scheme  

 

Mae nifer o ffyrdd y gall y Cyngor ddatblygu tai fforddiadwy, yn cynnwys:

 

  • Canllawiau Cynllunio Ychwanegol (SPG)

     

    Yn 2006 gweithredodd y Cyngor y canllawiau SPG i fanylu ar ofynion y Cyngor ar ddarpariaeth tai fforddiadwy.

     

    Ar hyn o bryd, mae’r Cynllun Datblygu Unedol (UDP) a’r SPG fel ei gilydd yn gofyn am ddarpariaeth o o leiaf 30% o gartrefi fforddiadwy ar safleoedd lle ceir mwy na 10 o anheddau. Mae hyn yn rhan o gytundeb Adran 106, a gellir ei gyflawni drwy ddarparu unedau byw neu ariannu ar gyfer y ddarpariaeth tai fforddiadwy gofynnol.

     

    Mae yna gyfyngiadau i’r math hwn o sicrhau bod tai yn fforddiadwy. Ar safleoedd bach, fydd y nifer o dai a gynllunnir yn llai na’r trothwy ar gyfer gofynion tai fforddiadwy. Mae hyn yn fwyaf dwys mewn cymunedau gwledig, lle mae maint safleoedd datblygu’n dipyn llai na lefel gyfredol y gofynion. 

     

    Ar ben hyn, mae tystiolaeth sy’n awgrymu y gellid cyfiawnhau gosod targed o 40% o dai fforddiadwy ar rai safleoedd. Mewn termau ymarferol, fodd bynnag, gallai hyn fod yn amhosibl i’w wireddu oherwydd dichonoldeb y safle.

     

    Caiff y polisïau yma eu hadolygu fel rhan o waith y Cyngor ar y Cynllun Datblygu Lleol, a fydd yn cymryd lle’r UPD cyfredol.

  • Grant Tai Cymdeithasol ac Ariannu Preifat

    Arian cyhoeddus yw’r Grant Tai Cymdeithasol (SHG) ac fe’i defnyddir o fuddsoddi mewn cartrefi fforddiadwy. Yn y bôn, mae’r cymhorthdal cyfalaf a ddarperir gan SHG yn golygu y gall rhent gael ei bennu i’r trigolion sy’n is na phris y farchnad.

     

    Mae pwysau cynyddol ar gynllun y Grant Tai Cymdeithasol wedi cael effaith ddifrifol ar y gallu posibl i gyflenwi nifer cynyddol o unedau byw fforddiadwy â chymhorthdal cyhoeddus ym Mro Morgannwg. 

     

    Mae tîm Strategaeth Tai’r Cyngor yn cydweithio’n glòs â’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL) a datblygwyr i glustnodi a gwneud y mwyaf o bosibiliadau cynlluniau arloesol cartrefi fforddiadwy pan nad oes cymhorthdal cyhoeddus ar gael, gan gynnwys archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio adnoddau ariannol yr RSL eu hunain.

     

    Yn ogystal, mae pwyslais cynyddol ar waith y swyddog Adran 106 wrth gydlynu a hwyluso’r broses o geisio manteisio ar gyfleoedd i sicrhau tai fforddiadwy drwy gytundebau Adran 106. 

  • Grant Ailgylchu Cyfalaf

    Grant Ailgylchu Cyfalaf yw’r enw ar ariannu sydd eisoes wedi cael ei glustnodi gan Lywodraeth Cymru i gymdeithasau tai i brynu tir neu i adeiladu tai fforddiadwy ym Mro Morgannwg.

    Os yw’r tir neu’r eiddo’n cael ei werthu maes o law, rhaid ailgylchu’r arian a enillir ar y gwerthiant i ddarparu tai fforddiadwy newydd, naill ai drwy ei ddefnyddio’n rhannol i ariannu datblygiad tai newydd neu i brynu unedau ychwanegol.

  • Cronfa Buddsoddiad Cyfalaf Strategol

    Ariannu cyfalaf oedd y Gronfa Buddsoddiad Cyfalaf Strategol (SCIF), a ddarparwyd o dan Fframwaith Buddsoddiad Cyfalaf Strategol Llywodraeth Cymru. Pennwyd arian SCIF drwy system o gynnig am gynlluniau buddsoddi addas a fyddai’n darparu buddion cynaliadwy, mesuradwy i Gymru drwy gyflawniad prosiectau strategol.

     

     

    Bwriad Llywodraeth Cymru yw llywio agenda Un Llais Cymru yn ei flaen drwy ddefnyddio trefnweithiau SCIF.

     
    SCIF 1: cynigiwyd £42m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer tai fforddiadwy. Dyroddwyd £1.3m o’r arian hwn i Fro Morgannwg at bwrpas:

     

    - adeiladu 14 eiddo newydd yn y Barri

    - gweithio ar bedwar eiddo cyfredol yn y Barri

     - addasu dau eiddo i ddarparu wyth uned o gartrefi wedi’u cefnogi


    SCIF 2: cynigiwyd £20m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cartrefi fforddiadwy, i’w ddefnyddio i gyd-fynd â’r themâu isod:

     

    - Eiddo rhent cyfryngol

    - Tir sy’n perthyn i LC

    - Homebuy (cynlluniau ecwiti ar y cyd)

    - Datgloi tagfeydd ar safleoedd lle mae oedi

    Dyroddwyd £1.1m i Fro Morgannwg ar gyfer:  

     - Tai rhent cyfryngol yn Llanilltud Fawr

     - Homebuy yn ward Castleland yn y Barri

    SCIF 3: Gwybodaeth bellach i ddilyn.