Cost of Living Support Icon

homes4u logo smallSut mae cynllun Homes4U yn gweithio 

Mae aelodaeth agored i Homes4U i unrhyw un sy’n chwilio am lety ym Mro Morgannwg

 

  • 01446 709840/ Ffacs 01446 709841

 

Cyfeiriad: Homes4U, Y Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri, Bro Morgannwg CF63 4RU

 

Fe welwch ragor o wybodaeth isod am y ffordd mae’r cynllun yn gweithio a’r hyn sydd angen i chi ei wneud unwaith byddwch chi wedi ymuno â’r cynllun.

 

Dewis Eiddo 

Caiff cartrefi sydd ar gael eu hysbysebu'n wythnosol

  • Mae’r hysbyseb yn agor ar ddydd Iau am 8.30am ac yn cau’r dydd Mercher canlynol am 5.00pm.

  • Gallwch chi weld yr hysbysebion mewn swyddfeydd lleol yn y Barri, Llanilltud Fawr, y Bont-faen, Phenarth ac ar dudalennau gwe Homes4U.
  • Gallwch ymgeisio am eiddo dros y ffôn, yn ysgrifenedig, drwy e-bost neu yn y swyddfa yn y Barri.

 

Gweld y Cartrefi Diweddaraf  

Caiff cartrefi sydd ar gael eu hysbysebu'n wythnosol

 

Dosbarthu Eiddo Homes4U 

Pan fo’r hysbyseb yn cau, mae pob cynnig yn cael ei wirio a’i gadarnhau.

Caiff cartrefi eu dosbarthu ar sail bandio blaenoriaeth. Os bydd mwy nag un ymgeisydd yn yr un band blaenoriaeth, bydd y cartref yn mynd i’r person a wnaeth y cais yn gyntaf.