Cost of Living Support Icon

Canllaw ar Asesiadau Meddygol

Cyn i chi lenwi’r asesiad meddygol ar y ffurflen Homes4U, darllenwch y wybodaeth ganlynol.

 

Asesiad meddygol yw’r broses rydym yn ei defnyddio i asesu eich iechyd a sut mae eich tŷ yn effeithio ar hyn.

 

Fe’i defnyddir i benderfynu a ydym yn gallu rhoi mwy o flaenoriaeth i chi ar y rhestr tai.

 

Sut mae gwneud cais

I wneud cais am asesiad meddygol cwblhewch yr adran berthnasol ar y cais Homes4U ar-lein. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl fel y gallwn wneud asesiad teg.

 

 

Gwneud cais am ailgartrefu ar sail feddygol.

Dylech wneud cais i gael eich ailgartrefu ar sail feddygol os ydych yn credu bod eich iechyd neu’ch anabledd chi neu aelod o’ch cartref yn cael ei waethygu gan eich cartref.

 

Oes angen llythyr gan fy meddyg arnaf? - Oes, os oes gennych wybodaeth mewn perthynas â'ch amgylchiadau meddygol, gallwch ei hatodi i’ch cais ar-lein.

 

Pwy fydd yn gwneud yr asesiad? - Bydd y Tîm Homes4U yn gwneud asesiad ar sail y wybodaeth a roddir gan eich gweithiwr iechyd proffesiynol.

Digartrefedd

Os gwnewch gais digartrefedd, yn dweud eich bod yn agored i niwed o ganlyniad i salwch neu anabledd wedi’i ddiagnosio, gwneir asesiad i ganfod a oes gennych angen â blaenoriaeth ar sail eich cyflwr meddygol.

 

Y gyfraith sy’n diffinio hyn, nid y cynghorwr.

 

Gwneir asesiadau yn rheolaidd a bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi ar sail y cyflyrau meddygol a ddisgrifir a sut yr effeithir arnynt gan y llety yr ydych yn byw ynddo.

Amgylchiadau Arbennig

Gallai’r cynghorydd meddygol ystyried yr amgylchiadau canlynol:

 

Ystafell wely ychwanegol

Bydd Homes4U yn ystyried eich cais am ystafell wely ychwanegol am reswm meddygol os:

  • Oes gennych ofalwr llawn amser
  • Yr ydych yn derbyn Lwfans Anabledd Uwch (cydran ofal)
  • Yr ydych yn derbyn Lwfans Gweini Uwch

 

Yn ogystal:

  • Rhaid bod angen ystafell ychwanegol arnoch
  • Rhaid bod gennych salwch difrifol a bod angen eich ystafell eich hun arnoch o ganlyniad iddo
  • Rhaid i chi ddefnyddio offer meddygol arbenigol a rhaid bod angen ystafell storio arnoch

 

 

Tai Hygyrch

Os ydych yn cael trafferth gyda’r grisiau yn eich cartref, gellir argymell eich bod yn cael eich ystyried i gael blaenoriaeth am dai llawr daear yn unig.

 

Mewn achosion o’r fath, ymwelir â chi yn eich cartref i gael gwybod am lefel eich angen am dŷ ac i benderfynu a oes gennych unrhyw ofynion tai penodol.

 

 

 

Os byddwch yn anghytuno â’n penderfyniad, gallwch ofyn i’r Tîm Homes4U am adolygiad. Dylech chi;

  • wneud eich cais yn ysgrifenedig ac ymhen 21 diwrnod o dderbyn ein penderfyniad
  • nodi pam rydych yn teimlo bod y penderfyniad yn anghywir

 

Gellir ceisio mwy o ddewisiadau gan sefydliadau cymorth, meddygon teulu, Gwasanaethau Cymdeithasol neu aseswr meddygol annibynnol.

Ar ôl yr adolygiad byddwn yn ysgrifennu atoch gyda’r canlyniad a’r rhesymau.