Cost of Living Support Icon

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae ein hadran tai wedi ymrwymo i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn pobl sy'n defnyddio gwasanaethau tai ar sail ryw, hil, lliw, tarddiad ethnig, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, dewis iaith, oedran, crefydd neu gred neu statws trawsryweddol.

 

Mae egwyddorion goddefgarwch a dealltwriaeth a pharch tuag at bobl eraill yn rhan ganolog o’r hyn rydym yn ei gredu.

 

Rainbow mark logo

Marc yr Enfys

Mae Marc yr Enfys yn farc cydraddoldeb a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a gefnogir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Thai Pawb – arwydd o arfer da, ymrwymiad a gwybodaeth am anghenion penodol, materion a rhwystrau sy’n wynebu pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a trawsryweddol (LGBT) yng Nghymru.

 

Er mwyn ennill Marc yr Enfys, mae’r Ganolfan Ragoriaeth LGBT yn cynnig meini prawf asesu i'w cyflawni a chanllawiau a chyngor parhaol i helpu i gasglu tystiolaeth a datblygu arfer da, gan gynnwys gwasanaethau cymorth (yn ôl yr angen) gyda ffurflenni ail-eirio, polisïau a gweithdrefnau.

 

Trwy ennill Marc yr Enfys bydd Cyngor Bro Morgannwg yn dangos:

 

ei fod yn gweithio yn unol â gofynion statudol a hybu arfer gorau wrth ymgysylltu â’r gymuned LGBT.

ei fod yn nodi ac yn myned i’r afael ag anawsterau y gallai’r Cyngor eu hwynebu wrth fynd i’r afael ag anghenion y gymuned LGBT

ei fod yn sicrhau y gall y gymuned LGBT ddefnyddio gwasanaethau'n hawdd

ei fod yn codi ymwybyddiaeth ymhlith staff ynghylch y materion penodol sy’n effeithio ar bobl LGBT sydd angen tŷ

ei fod yn dechrau monitro gwasanaethau o ran cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd

ei fod yn codi ymwybyddiaeth o faterion penodol wrth fynd i’r afael ag anghenion pobl LGBT trwy arfer rheoli da

ei fod yn manteisio ar fodelau cyfredol o arfer effeithiol ac yn datblygu ei rai ei hun 

ei fod yn nodi ffyrdd arloesol newydd o weithio i fodloni anghenion pobl LGBT

ei fod yn gwbl ymwybodol o’r holl fframweithiau deddfwriaethol sy’n effeithio ar wasanaethau

ei fod yn adolygu polisïau a gweithdrefnau cyfredol yn rheolaidd fel eu bod yn unol â gofynion statudol ac yn hybu arfer gorau.

 

Mae adran Tai Sector Cyhoeddus Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio tuag at ennill Marc yr Enfys ar hyn o bryd.

Cynllun Cydraddoldeb y Fro

Datblygwyd Cynllun Cydraddoldeb y Fro i brif ffrydio amcanion cydraddoldeb ym mhob cyfarwyddiaeth ac yn fframwaith rheoli perfformiad y Cyngor.

 

Mae Cynllun Cydraddoldeb y Fro hefyd yn helpu’r Cyngor i weithio tuag at gyflawni Safon Cydraddoldeb ar gyfer Llywodraeth Leol.

 

Rhennir Cynllun y Fro yn 6 maes:

  • Arwain a Rheoli
  • Cyfathrebu
  • Ymgynghori a Monitro
  • Mynediad (adeiladau/gwybodaeth)
  • Iaith
  • Cyflogaeth a Hyfforddiant

 

 

Stonewall Cymru

 

Mae ein cynghorau yn penderfynu ar ba ysgolion mae plant y sir yn mynychu, y fath o ofal mae hen bobl yn derbyn, a'r fath o gymunedau rydyn ni yn byw mewn. 

 

 

Mae’r penderfyniadau yn effeithio ar fywydau bobl sydd yn ddeurywiol a thrawsrywiol lesbiaidd a hoyw, boed ein hysgolion yn siarad am faterion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws, ansawdd y gofal mae pobl hŷn yn derbyn, a sut yr ydym yn ymateb i droseddau casineb yn ein cymunedau.

 

Yn yr etholiadau yn 2012, penderfynodd 60% o bobl i beidio pleidleisio, er eu bod yn gallu.

 

Mae hyn yn golygu fod 1.3miliwn o bobl yng Nghymru - yn cynnwys pobl ddeurywiol a thrawsrywiol lesbiaidd a hoyw, a’u ffrindiau, wedi penderfynu peidio siarad am beth sydd yn bwysig iddyn nhw. 

 

 

Mae Stonewall Cymru yn gweithio i greu Cymru lle gall pobl fod yn rhydd i fod yn nhw eu hunain, lle mae sefydliadau yn helpu i greu newid, lle mae agweddau'r cyhoedd yn gwella, lle mae rhagfarn yn cael ei herio, a lle mae deddfau yn amddiffyn pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws.

 

Darllenwch am sut allwch chi siarad mas am gydraddoldeb ar gyfer pobl ddeurywiol a thrawsrywiol lesbiaidd a hoyw, drwy’r llywodraeth leol: 

 

Mae eich llais yn cyfri 

 

 

 

 

 

 

 

scores
LefelStatws gyda’r CyngorCynnydd Tai Sector Cyhoeddus
Lefel 1 Ar gael Wedi'i gyflawni
Lefel 2 Ar gael Wedi'i gyflawni
Lefel 3 Ar gael Wedi'i gyflawni
Lefel 4 Ar gael Wedi'i gyflawni