Cost of Living Support Icon

Rhentu'n Breifat

Gall tenantiaeth fod yn ddryslyd. Gall tîm datrysiadau tai cynnig cefnogaeth a chymorth ymwneud a llawer o faterion gan gynnwys:

 

Gallwn gysylltu â'ch landlord o ran y meysydd canlynol i geisio datrys unrhyw anghydfod, neu eich cyfeirio at asiantaethau cynghori eraill i'ch galluogi i aros yn eich cartref presennol:

  • Hysbysebiadau amrywiol yn cael eu cyflwyno gan eich landlord
  • Ol-ddyledion rhent /  fforddiadwyedd
  • Anghydfodau rhwng tenant / landlord

 

Vale Assisted Tenancy Scheme (VATS)

Ers cyflwyno'r Deddf Tai (Cymru) 2014, mae'r tîm datrysiadau tai bellach yn gallu cyflawni eu dyletswydd i chi drwy gynnig eiddo preifat addas.

 

Mae'r Vale Assisted Tenancy Scheme (VATS) yn gallu helpu cleientiaid sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref i'r sector rhentu preifat gyda'r posibilrwydd o gael cymorth ariannol a allai gynnwys bond a/neu rent mis cyntaf ymlaen llaw.

 

Mae galw mawr am dai cymdeithasol, gyda 5241 o ymgeiswyr ar hyn o bryd wedi'u cofrestru ar cynllun Homes4u. Mae nifer o fanteision i rentu'n breifat ac mae'n cynnig:

 

  • Mwy o ddewis - amrywiaeth o lety gan gynnwys fflatiau a thai
  • Hyblygrwydd - byddwch yn gallu dewis yr ardal yn hytrach na bod ardal yn cael ei dewis ar eich cyfer
  • Cyflymder - Mae eiddo gyda dodrefn a heb ddodrefn ar gael i'w rhentu yn union

 

Ni fydd cymorth ariannol yn cael ei gymeradwyo oni bai bod eich gweithiwr achos yn barnu bod yr eiddo'n fforddiadwy.

 

Daeth Rhent Smart Cymru i rym ym mis Tachwedd 2015. Cyflwynodd y ddeddfwriaeth hon y broses o gofrestru landlordiaid a'r gofyniad i landlordiaid ac asiantau sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yng Nghymru gael eu trwyddedu. Sylwch fod rhaid cofrestru'r eiddo gyda Rhentu Doeth Cymru i fod yn gymwys am gymorth ariannol.

 

Os oes angen cymorth ariannol arnoch gan y tîm atebion tai, ffoniwch:

  • 01446 700111 

 

 

  • Allaf i ei fforddio?
    Os ydych ar incwm isel efallai y byddwch yn gymwys i Fudd-dal Tai; bydd y swm y gallech ei gael yn dibynnu ar eich oed a’ch incwm. Cofiwch, bydd angen i chi hefyd dalu biliau eraill fel treth y cyngor, nwy, trydan, dŵr ac ati. Mae Cyfrifiannell Budd-dal Tai ar gael.
  • A fydd Budd-dal Tai yn cynnwys y rhent llawn?

    Dibynna’r uchafswm y gellir ei dalu i chi ar faint yr eiddo sy’n angenrheidiol i’ch aelwyd a phenderfynir ar y swm yn ôl y cyfraddau Lwfans Tai Lleol i’r ardal. Mae’r Lwfans Tai Lleol yn berthnasol i denantiaid rhent preifat ond nid i rai sy'n denantiaid Cymdeithasau Tai neu Awdurdodau Lleol. 

  • Beth os na allaf fforddio talu bond?

    Os ydych yn ddigartref neu dan fygythiad digartrefedd a heb ddim cynilion na ffordd o gael arian i dalu bond gall tîm Cynghori Tai Bro Morgannwg eich helpu o bosib. Byddant yn asesu eich anghenion tai ac os byddwch yn bodloni'r meini prawf am gymorth efallai y byddant yn gallu cynnig i’r Landlord dystysgrif gwarant bond. Os ydych yn derbyn budd-daliadau cymwys, mae sefydliadau ac elusennau eraill a allai eich helpu, y rhain yw;

     - Eglwys y Tabernacl ar 02920 702690

     - Eich adran leol sy’n delio gyda gwaith a phensiwn (canolfan waith)

     

    Os oes gennych chi gais Budd-dal Tai cyfredol yna fe allwch wneud cais am Daliad Tai Dewisol i gael cymorth gyda bond a rhent ymlaen llaw.

     

    Cofiwch, os ydych yn talu i’ch landlord trwy fond arian parod mae'n rhaid iddo, dan gyfraith gwlad, ei roddi mewn cyfrif dan gynlluniau awdurdodedig y Llywodraeth, sef cynlluniau adneuon tenantiaeth, a bydd raid iddynt roi gwybod i chi, o fewn 30 diwrnod, ym mha gynllun y mae’r bond.

     
  • Pa mor hir y byddaf yn gallu aros?
    Fel arfer mae tenantiaethau yn rhai  "daliadaeth fer sicr" am 6 neu 12 mis. Yn gyffredinol mae modd eu hymestyn cyn belled nad ydych wedi torri unrhyw un o delerau eich cytundeb tenantiaeth. 
  • Beth am ddodrefn?
    Mae eiddo gyda dodrefn a heb ddodrefn ar gael ar y farchnad i'w rhentu. Fodd bynnag, os oes arnoch angen help i ddodrefnu eiddo mae llawer o sefydliadau ac o elusennau sy'n gallu cynnig eitemau fforddiadwy o ansawdd da a fydd yn eich galluogi i sefydlu cartref, er enghraifft;
    - Restore
    - Nu Life Furniture (Cardiff)
    - Freecycle
    - Facebook Marketplace
    - Boomerang Cardiff
    - Gumtree   
    Yn ogystal, mae llawer o sefydliadau elusennol, rhai fel y British Heart Foundation a Byddin yr Iachawdwriaeth, gyda siopau sy'n gwerthu dodrefn yn rhad; mae lleoliadau'r rhain ar gael ar y gwefannau unigol.
  • Sut y gallaf ddod o hyd i eiddo?
    Mae gwefannau Achredu Landlordiaid Cymru yn darparu manylion am landlordiaid sydd wedi'u hachredu ac sydd felly yn darparu llety a reolir yn dda. Yn yr un modd, mae gwefan ALMA yn darparu gwybodaeth am Asiantaethau Gosod sy'n rheoli eiddo ar ran landlordiaid. Dyma ffyrdd eraill o ddod o hyd i lety addas i’ch anghenion;

     

    - Edrych yn y papurau lleol

    - Hysbysebion mewn siopau

    - Gumtree

    - Gwerthwyr tai lleol Os ydych mewn llety sy'n eiddo i Awdurdod Lleol neu i Gymdeithas

     

    Dai ac yn awyddus i symud i ardal arall, neu’n dymuno cael lle mwy neu le llai oherwydd y dreth ystafell wely, yna gallwch gofrestru gyda Homeswapper sy'n wasanaeth cenedlaethol yn cynnig cyfleon cyfnewid o fudd i’r ddwy ochr a symudedd yn y sector tai cymdeithasol.