Cost of Living Support Icon

 

Vale Homes

Cartrefi’r Fro

Mae Cartrefi'r Fro yn darparu gwasanaethau i ychydig mwy na 4,000 o denantiaid cyngor, sy’n golygu mai’r Cyngor yw’r landlord mwyaf ym Mro Morgannwg.  

 

 

 

Tanysgrifio i dderbyn diweddariadau e-bost Cartrefi Bro

Rhowch eich cyfeiriad e-bost a'ch danysgrifio i dderbyn gwybodaeth ddefnyddiol am eich tenantiaeth a'ch cymdogaeth.

Rhowch eich cyfeiriad e-bost

 

 

 

Eich Porth Tai

 

Mae’r porthol ar gyfer tenantiaid, lesddeiliaid a cheiswyr tai. Gallwch weld eich mantolen rhent, trafodion diweddar a thalu eich rhent neu nodi problemau rheoli tai.

 

Porthol Tai

Cwrdd â’r Tîm

Sut i gysylltu â ni

 
 
Corinna Mantle

Arweinydd Tîm Projectau Strategol Tai

.

Emma Williams
Emma Williams

Uwch Reolwr Cymdogaeth Gosodiadau

.

Farida Aslam
Farida Aslam

Uwch Reolwr Cymdogaeth Buddsoddiad Cymunedol

.

Georgia Thomas
Georgia Thomas

Rheolwr Cymdogaeth

Gorllewin y Barri/y Fro Wledig

Maria Loe
Maria Loe

Rheolwr Cymdogaeth

Colcot/ Buttrills /Stadau Canolog

Sharon Cull
Sharon Cull

Rheolwr Cymdogaeth

Gibbonsdown / Treharne

Christine Ball
Christine Ball

Rheolwr Cymdogaeth

Gorllewin y Barri/y Fro Wledig

Stephanie Stoyle
Stephanie Stoyle

Rheolwr Cymdogaeth

Nwyrain Barri/Dinas Powys/Penarth

Luke Wagstaffe
Luke Wagstaffe

Cynorthwy-ydd Cymdogaeth

Nwyrain Barri/Dinas Powys/Penarth

Paul Martin
Paul Martin

Cynorthwy-ydd Cymdogaeth

Gorllewin y Barri / y Fro Wledig

Gareth Downes
Gareth Downes

Cynorthwy-ydd Cymdogaeth

Gibbonsdown / Treharne

Cara Taylor
Cara Taylor

Cynorthwy-ydd Cymdogaeth

Colcot/ Buttrills /Stadau Canolog

Andrew-Wagstaffe
Andrew Wagstaffe

Swyddog Prydlesi

.

Mark Ellis
Mark Ellis

Swyddog Buddsoddiad ac Ymwneud Cymunedol

.

Shayni Payter
Shani Payter

Swyddog Buddsoddiad ac Ymwneud Cymunedol

.

Lianne Young
Lianne Young

Swyddog Ymgysylltu Digidol a Gwirfoddoli

.

 

 

Y newyddion diweddaraf

 

Mae’r Gyfraith Tai wedi Newid

Dylai Deiliaid Contract (a elwid gynt yn denantiaid) fod yn ymwybodol bod y Gyfraith Tai wedi newid. Gweler rhagor o wybodaeth drwy'r dolenni isod.

 

Gwybodaeth am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

 

Mae'r ffordd rydych yn rhentu yn newid i denantiaid a landlordiaid (taflen ddwyieithog)

 

Tenantiaid: mae cyfraith tai yn newid (Rhentu Cartrefi)

 

Eich Llawlyfr Deilydd Contract

Yn y llawlyfr hwn fe welwch wybodaeth bwysig sy’n ymwneud â'ch Contract Meddiannaeth a'r gwasanaethau y gallwn eu cynnig i chi.

Darllenwch Cylchlythyr Cartrefi y Fro Gwanwyn 2024!

Yr holl newyddion diweddaraf yn eich ardal chi!

Cwrdd â’n tîm!

Sut ydw i’n gwirfoddoli? 

Cylchlythyr y Fro

 

Sut a phryd y gallwch gymryd rhan!

Dyma'ch cyfle i ddweud eich dweud ar sut mae Cartrefi'r Fro yn ceisio gwrando a gweithredu ar eich barn a'ch safbwyntiau.

Cymryd Rhan

Ar Grwydr!

Cliciwch y ddolen isod ar gyfer dyddiadau ar grwydr yn eich ardal chi ar gyfer 2024.

 

Ar Grwydr 

Wedi colli rhywfaint o newyddion Newyddion Diweddaraf

Os ydych chi'n teimlo y gallech fod wedi colli allan ar rywbeth, edrychwch ar yr archif newyddion isod.


Bydd straeon newyddion yn cael eu symud i'r archif, i wneud lle i straeon newydd ar dudalen Cartrefi'r Fro.


Felly edrychwch arno, efallai y bydd rhywbeth diddorol a defnyddiol i chi.

 

 

Newyddion archifol

Talu Eich Rhent 

Talwch eich rhent yn swyddfeydd arian y cyngor, drwy gyfrwng y Porthol Tai, trwy gyfrwng eich banc neu eich cymdeithas adeiladu, mewn unrhyw swyddfa bost, drwy gerdyn credyd neu ddebyd neu drwy Pay Point mewn unrhyw leoliad sy’n ei gynnig.

 

Os ydych chi mewn ôl-ddyledion, neu os oes gennych gwestiynau eraill, defnyddiwch y dolenni isod.

 

  

 

Cygnor Ariannol

Contract enghreifftiol 

Mae tenantiaid cyngor yn cael amrywiaeth eang o hawliau a chyfrifoldebau, nodir y rhain yn y contract meddiannaeth ddiogel.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Enghraifft o Gontract meddiannaeth ddiogel

 

  

Hawl i Brynu

Daeth yr Hawl i Brynu a'r hawliau cysylltiedig i ben yng Nghymru ar 26 Ionawr 2019, yn dilyn pasio Deddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018.

Lesddeiliaid

Os ydych wedi prynu fflat/fflat ddeulawr mewn eiddo sydd dal yn berchen i’r cyngor yna rydych yn lesddeiliad.  Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi dalu costau gwasanaeth i’r cyngor fel rhan o’ch cytundeb lesddeiliad.

 

 

  • 01446 709512 / 709513

Yswiriant Cynnwys

Daeth y cynllun yswiriant cynnwys a oedd ar gael drwy gyngor Bro Morgannwg i ben ar 1-9-21.


Byddem yn eich cynghori i gael eich yswiriant eich hun yn uniongyrchol gan ddarparwr yswiriant o'ch dewis. Dylai chwiliad rhyngrwyd roi safleoedd cymharu prisiau yswiriant i chi a fydd yn eich galluogi i ddewis darparwr newydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'ch Swyddog Incwm. 

 

  • 01446 709511 / 709514

Niwsans Cymdogion

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn ceisio bod yn gymdogion da ac yn gwneud eu gorau glas i osgoi anghydfod. Fodd bynnag, mae problemau'n digwydd weithiau. Gall y rhain amrywio o niwsans sy’n achosi aflonyddwch, fel chwarae cerddoriaeth yn rhy uchel, i ddigwyddiadau difrifol fel aflonyddu hiliol neu rywiol neu fygythiadau treisgar. Mae'r Cyngor wedi paratoi taflen fanwl, Datrys Problemau’n ymwneud â Chymdogion, sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth ar y canlynol:

  • Y pethau y gallwch chi eu gwneud eich hun i geisio datrys y sefyllfa

  • Pryd y dylech ofyn am help a chyngor gan y Cyngor a beth allwn ni ei wneud

  • Sefydliadau eraill a all eich helpu a’r hyn y gallan nhw ei wneud

Os ydych chi’n denant a bod eich cymydog yn achosi niwsans neu'n ymddwyn yn anghymdeithasol, lawrlwythwch ein taflen:

Pibellau wedi rhewi?

Gwyliwch ganllawiau defnyddiol @HeatingYourHome sy’n dangos sut i ddadmer pibell cyddwyso eich boeler os yw hi wedi rhewi y tu allan, a sut i atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol.

 

Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

Un o brif nodau Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod holl bobl Cymru, gan gynnwys tenantiaid tai cymdeithasol, yn cael y cyfle i fyw mewn cartrefi o ansawdd da, mewn cymunedau diogel a chadarn.

 

Er mwyn sicrhau bod yr holl gartrefi'n cael eu gwella hyd at lefel dderbyniol, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio dogfen, Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Safon ar gyfer ansawdd a chyflwr eiddo yw hon sy’n rhestru nifer y targedau y bydd gofyn i bob cartref eu bwrw.

 

Asesiadau risg tân

Mae gan y Cyngor asesiadau risg tân cyfredol ar gyfer pob fflat sydd â mynediad cymunedol, sy’n cynnwys archwiliadau misol o bob bloc. Yn sgil y digwyddiadau trychinebus yn Nhŵr Grenfell yn Llundain, rydyn ni wrthi’n adolygu ein hasesiadau risg tân. Ar y cam cynnar hwn nid yw’r ymchwiliad i fanylion llawn y digwyddiad yn glir, ond gall y Cyngor gadarnhau nad yw wedi defnyddio’r math hwn o system gladio.   


Er nad oes gan y Cyngor unrhyw flociau uchel, rydyn ni’n ymwybodol o bryderon ein tenantiaid a’n preswylwyr, ac o ganlyniad rydyn ni wedi paratoi a bellach yn dechrau darparu rhaglen o sicrwydd i denantiaid o ran dull rhagweithiol y Cyngor o reoli diogelwch tân mewn perthynas â’n stoc. Caiff y rhaglen hon ei chwblhau wythnos nesaf.


Mae sawl ffynhonnell yn y cyfryngau yn dechrau gofyn cwestiynau am allu systemau cladin amrywiol i wrthsefyll tân.  Hoffem gadarnhau i’n tenantiaid a’n preswylwyr fod y systemau sy’n cael eu gosod gan y Cyngor ar hyn o bryd yn bodloni ac yn rhagori ar y rheoliadau diogelwch tân.


Roedd gan yr eiddo yn Llundain banel poliwrethan â chroen alwminiwm wedi’i osod ar system wedi’i thracio, a greodd wagle rhwng y panel inswleiddio a wal allanol yr adeilad.  Roedd y bwlch aer hwn yn darparu digon o aer i gynnal y tân ac yn gweithredu fel simnai i helpu’r tân i ledu ar draws yr adeilad.


Mae’r system sy’n cael ei defnyddio can y Cyngor yn osodiad ‘cladin caeedig’, sy’n golygu bod y deunydd inswleiddio gwrth-dân wedi’i osod yn uniongyrchol ar y gwaith brics ac wedi’i orchuddio â rendrad morter sy’n cwmpasu system inswleiddio gyfan y wal allanol (EWI).  At hynny, mae gan ein cladin doriadau tân rhwng lloriau mewn unrhyw adeilad sydd â mwy na dau lawr.  Mae hyn yn rhagori ar ofynion canllaw technegol y Gymdeithas Rendrad a Chladin Inswleiddio (INCA). 


Yn olaf, i sicrhau bod ein systemau inswleiddio wedi’u gosod yn gywir, mae’r holl staff sy’n gosod yr inswleiddio wedi’u hyfforddi’n llawn a’u cymeradwyo gan y gweithgynhyrchwyr.  Yna cânt eu harchwilio gan ein staff ein hunain a chynhelir archwiliad annibynnol hefyd gan gyrff trydydd parti sy’n arbenigo yn y system EWI.

 

 

Mae ein cyflenwyr systemau rendrad inswleiddiedig wedi egluro eu bod yn cwblhau profion tân manwl ar eu systemau EWI drwy’r BBA (Bwrdd Agrément Prydain) a’r BRE (Y Sefydliad Ymchwil Prydeinig) i sicrhau bod y systemau’n cyrraedd safonau uchaf y diwydiant ac yn bodloni rheoliadau adeiladu cyfredol o ran ymwrthedd i dân a lledaeniad fflamiau. 


Gwyliwch y cynnyrch yn cael ei brofi.

Cyngor y Llengfilwyr

Fel eich Landlord mae gennym rwymedigaeth i sicrhau eich bod yn ymwybodol o achosion a symptomau posibl clefyd ‘Legionnaires’ fel y gallwch nodi unrhyw broblemau yn hawdd.

 

Darparwyd y daflen hon i'ch hysbysu am y risgiau o ddal clefyd ‘Legionnaires’, a sut i leihau’r risg hon yn sylweddol.

 

SRS - Taflen Wybodaeth Legionella