Cost of Living Support Icon

 

Cynnwys Tenantiaid

Ymuno

Rydyn ni wedi ymrwymo i'ch cynnwys chi yn y Gwasanaeth Tai gymaint â phosib. Mae hyn yn eich galluogi i fod yn rhan o’n gwaith wrth i ni wneud ein gorau drosoch chi. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi mewn ffordd sy’n hawdd i’w deall.

 

Grwpiau tenantiaid a thrigolion

Ar hyn o bryd mae 11 Grŵp/Cymdeithas Tenantiaid/Trigolion gweithredol yn y Fro:

 

Ardal Y Barri

  • Grŵp Trigolion Brecon Court
  • Cymdeithas Tenantiaid COMPASS ( (North Walk, South Walk, East Walk, Awbery House a'r ardaloedd cyfagos)
  • Cymdeithas Trigolion Colcot
  • Bwrdd Trigolion Gibbonsdown
  • Cymdeithas Trigolion Shakespeare  (yn cynnwys: Stratford Green, Avon Close, Green Lane, Hathaway Place, Verona Place, Elm Grove)
  • Cymdeithas Tenantiaid West Walk

Y Bont-faen

  • Grŵp Trigolion Longmeadow

Llanilltud Fawr

  • Grŵp Trigolion Major

Dinas Powys

  • Grŵp Trigolion Dinas Powys

Penarth

  • Cymdeithas Trigolion ffyrdd y beirdd (ardal Redlands, Tennyson Road, Masefield Road)
  • Grŵp Tenantiaid a Thrigolion S.T.A.R. (St Lukes Avenue, St Peter's Road, St James Court, St Paul's Avenue)

Dechrau, neu ymuno â, grŵp o’r fath ydy'r dull mwyaf effeithiol o ddod yn rhan o'r gwasanaethau tai. Mae'r cymdeithasau'n cael eu ffurfio gan bobl leol sy'n dod ynghyd i geisio gwella'u cymuned leol. Maen nhw'n cynrychioli barn y gymuned ac yn gweithio gyda'r Tîm Cynnwys Tenantiaid a sefydliadau eraill ar wahanol faterion. Mae grwpiau trigolion a thenantiaid yn cyfrannu at eu cymuned leol trwy ddarparu gwybodaeth, cynnig cyngor a rhoi mynediad i wasanaethau eraill.

 

Cymorth ymarferol

Rydyn ni'n awyddus i gynnig cymaint o gymorth a chefnogaeth ag sy'n bosibl i'r grwpiau hyn. Mae'r Tîm Cynnwys Tenantiaid a Gwasanaethau Tai'n mynychu cyfarfodydd y grwpiau'n rheolaidd, ac yn cynnig:

  • cymorth i ddechrau’r grŵp o £300
  • pecyn gwybodaeth i ddechrau’r grŵp
  • mynediad i hyfforddiant a chyngor di-duedd.

Am ragor o wybodaeth ar sefydlu neu ddod yn rhan o grŵp tenantiaid neu drigolion, cysylltwch â Heather Powney ar 01446 709895 neu Alyson Craggs ar 01446 709812.

 

Ffyrdd eraill o gael eich cynnwys

Mae Cynnwys Tenantiaid yn broses ddwy-ffordd lle gall tenantiaid ddylanwadu ar benderfyniadau a bod yn rhan o systemau Gwasanaethau Tai Bro Morgannwg. Un o'r ffyrdd pwysicaf gall hyn ddigwydd ydy trwy grwpiau lleol tenantiaid neu drigolion. Pobl leol sy'n ffurfio'r grwpiau ar sail wirfoddol i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau tenantiaid.

 

Gallwch chi hefyd wneud cais i ymuno â Grŵp Gweithgor Tenantiaid

Dyma grŵp o denantiaid sy'n byw ar draws y Fro sydd am fynychu cyfarfodydd chwarterol i drafod materion tai. Gallwch chi e-bostio'r tîm: getinvolved@valeofglamorgan.gov.uk 

 

Pam ddylen i gyfrannu?

Mae gan bawb resymau personol dros ymuno. Un o’r prif resymau ydy ei fod yn cynnig cyfle i bobl ddylanwadu ar newidiadau sy'n effeithio arnyn nhw'n uniongyrchol. Mae hefyd yn cynnig llais cynrychioliadol o fewn adran tai. Yn olaf, gall grŵp tenantiaid ymgyrchu ar faterion penodol sy'n effeithio ar eu hardal.

 

Os oes grŵp yn cael ei sefydlu, sut caiff e ei ariannu?

Gall y grŵp wneud cais am 'Grant Blynyddol' o £200 i sefydlu’r grŵp. Pwrpas y grant ydy caniatà u i grwpiau gyfathrebu'n effeithiol gyda'r Cyngor, asiantaethau a thenantiaid eraill a gynrychiolir gan y grŵp. Gellir defnyddio'r grant ar gyfer treuliau fel:

  • costau postio
  • llungopïo (copïau unigol o ohebiaeth
  • costau teithio i gyfarfodydd (os na ragnodir tacsi ymlaen llaw trwy'r Tîm Cynnwys Tenantiaid)
  • te a choffi ar gyfer cyfarfodydd