Cost of Living Support Icon

Delio gyda Dyled

Gall sut i ddelio gyda dyledion ddibynnu ar amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys amgylchiadau’r cleient, beth mae ei ddatganiad ariannol yn ei ddweud, beth mae’r cleient ei eisiau, math y ddyled sy’n ddyledus a’r cyfnod adennill. 

 

Yn y bôn rydym yn delio gyda dyled blaenoriaeth yn gyntaf.  Rydym hefyd yn ystyried a oes unrhyw anghydfod posibl cyn nodi opsiynau ac archwilio'r goblygiadau gyda'r cleient ymhellach.

 

Delio gyda Dyledion Blaenoriaeth

Nid oes ffordd benodol o ddelio gyda dyledion blaenoriaeth.  Mae camau sy’n cael eu cymryd yn dibynnu ar y cyfnod adennill a'r canlyniad, beth mae'r cleient ei eisiau, presenoldeb dyledion blaenoriaeth eraill.  Rydym hefyd yn edrych ar lefel yr arian sy’n ddyledus, faint o incwm sydd ar gael, a yw llog a thaliadau'n cronni ac oedran ac iechyd y cleient. 

 

Edrychwch ar y Canllaw Cyngor ar y wefan am fwy o wybodaeth ddelio gyda dyledion blaenoriaeth

Herio Dyledion

Nid yw’r dewisiadau ar gyfer herio dyled yn gynhwysfawr. Weithiau gellir nodi gwahanol ddewisiadau ar sail amgylchiadau personol y cleient neu fanylion ei ddyledion.  Os oes unrhyw amheuaeth, siaradwch â chynghorydd dyledion bob amser.

 

Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan Canllaw Cyngor:

 

Sut i Herio Dyled Beth i'w wneud os na allwch dalu dyled yn ôl  

 

Os yw eich cleient neu ddefnyddiwr gwasanaeth yn nodi y gallai'r canlynol fod yn berthnasol, ceisiwch gyngor arbenigol pellach ar ddyledion.

Cwyno

Gallai hyn fod ynghylch unrhyw beth o daliadau a llog, anghydfodau balans, anghydfodau atebolrwydd a sut y cesglir y ddyled.  Os yw’n swnio’n annheg, mae’n bosib ei bod hi.  Cyfeiriwch eich cleient at gyngor ar ddyled.  Os bydd credydwr yn gwrthod cwyn, gall eich cleient fynd â’i gŵyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol annibynnol.

 

Dolenni a gwybodaeth ddefnyddiol am gwyno:

 

Eich i wefan y Gwasanaeth Ombwdsmnn Ariannol i gael gwybod sut i gwyno a hefyd i weld nifer o'i benderfyniadau blaenorol.

Deddf Cyfyngiadau 1980 – Cyfyngiad amser ar gyfer adennill dyled

Mae hyn yn gosod cyfyngiad o 6 mlynedd ar gyfer adennill dyled gredyd, cyhyd â bod y ddyled heb ei chydnabod yn ystod yr amser hwn.  Gall cydnabyddiaeth gynnwys llythyr, datganiad ariannol neu daliad. Peidiwch â chymryd camau oni bai bod ffurflenni llys wedi’u derbyn.  Os bydd eich cleient yn dweud bod y ddyled yn hen, ceisiwch gyngor ar y ddyled.  Ni ddylech gydnabod dyled ar ran cleient.  

 

A allai’r cytundeb fod yn annheg? Benthyca’n anghyfrifol, cael eich camarwain a chwynion

Rhaid i fenthycwyr ddangos eu bod wedi benthyca’n gyfrifol; eu bod wedi cadarnhau y gall y benthyciwr fforddio i ad-dalu’r hyn y mae’n ei fenthyca. 

 

Os cafodd eich cleient gredyd na allai fod wedi fforddio ei dalu'n ôl, yna mae’n bosib y gall gwyno i'r benthyciwr.  Hefyd rhaid i gredydwyr fod yn glir am delerau’r cytundeb. 

 

Os yw eich cleient wedi'i gamarwain neu os codir taliadau afresymol o uchel arno, gallai gwyno (gweler cwynion uchod hefyd).  Cyfeiriwch gleientiaid/defnyddwyr gwasanaeth at asiantaeth cyngor dyledion.

 

Dyledion ar ôl marwolaeth

Mae nifer o eithriadau (megis dyledion ar y cyd) ond nid yw rhai dyledion yn parhau ar ôl marwolaeth felly ceisiwch gyngor i gadarnhau hyn oherwydd gall rhai credydwyr geisio hawlio. 

 

Pobl Ifanc

Ni ddylai pobl ifanc dan 18 oed allu gwneud cytundebau credyd ond ar gyfer ‘hanfodion’.  Os cafodd cleient gredyd am eitem 'foethus' pan roedd dan 18 oed ac os rhoddodd yr oedran cywir, ceisiwch gyngor.


Gallu i Wneud Contract

Os nad oedd yn bosibl i’r cleient ddeall telerau contract ar yr adeg gwneud cytundeb AC os oedd y credydwr yn ymwybodol o hyn neu os dylai fod wedi bod yn ymwybodol o hyn, yna gellid herio’r ddyled; ceisiwch gyngor.

 

Gwybodaeth am y rhai hynny sydd ag anawsterau iechyd meddwl neu ddysgu neu yr oeddent dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol pan wnaethon nhw’r cytundeb credyd:

Dylanwadu’n ormodol

Os yw person wedi manteisio’n annheg ar ei ddylanwad ar berson arall yna gellid herio’r ddyled. Gallai hyn fod yn ddylanwad go iawn neu ddylanwad tybiedig.  Os oes posibilrwydd o ddylanwad gormodol, ceisiwch gyngor ar ddyled.

 

Twyll

Gellir herio dyled os na wnaeth eich cleient y cytundeb. Gall hyn achosi mwy o oblygiadau ar gyfer y cleient os gwnaethpwyd cytundeb credyd gan deulu neu ffrindiau. Cysylltwch ag Action Fraud ac edrychwch am gyngor.


Gallwch chwilio am ‘credit fraud’ ar y wefan Canllaw Cyngor am wybodaeth am hyn.

 

Gellir cael cyngor ar dwyll gan Action Fraud sydd hefyd yn gallu rhoi cyfeirnod trosedd. 

Deddf Credyd Defnyddwyr 1974

Mae’r Ddeddf Credyd Defnyddwyr yn gosod gofynion amrywiol ar gredydwyr sy’n gwneud cytundeb yn orfodadwy. Mae hyn yn cynnwys y wybodaeth mewn cytundeb credyd, y gwaith papur y dylai’r cleient ei dderbyn ac unrhyw hysbysiadau a anfonwyd.

 

Os bydd cleient yn dweud nad yw wedi derbyn llawer o waith papur neu fod y gwaith papur yn anghywir, ceisiwch gyngor.

 

Ail-hawlio Yswiriant Amddiffyn Taliadau

Gallai eich cleient ail-hawlio hyn ar gyfer cytundeb blaenorol os na fyddai eich cleient wedi gallu hawlio ar ei bolisi.

 

Gweler y gwefannau Canllaw Cyngor a Money Saving Expert am fwy o wybodaeth am Yswiriant Amddiffyn Taliadau a'i hawlio yn ôl:

Gwarantwyr

Weithiau bydd benthyciwr yn gofyn i ail berson lofnodi gwarant y caiff yr arian ei dalu. Gwarantwr yw’r person hwn.  Os na fydd y benthyciwr yn talu fel y cytunwyd, bydd gwarantwr yn gyfrifol am y ddyled yn ei le.  Os nad yw credydwr wedi esbonio'n iawn y risgiau i warantwr yna gallai'r gwarantwr herio'i atebolrwydd.  Os yw hyn yn bosibl, ceisiwch gyngor pellach.

Mae gan y Canllaw Cyngor fwy o wybodaeth am sut mae benthycwyr yn cytuno a fyddant yn benthyca arian i chi ac am eich hawliau pan fyddwch yn benthyca arian:

 

Asiantau

Pan fyddwch yn gweithredu fel asiant (fel arfer ar gyfer cwmni catalog) dylech sefydlu cyfrif ar wahân ar gyfer pob un o’ch cwsmeriaid i dalu ei arian i mewn iddo.  Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallech chi fod yn gyfrifol am unrhyw arian nad yw eich cwsmeriaid yn ei dalu.  Os oes anghydfod am atebolrwydd mewn perthynas ag asiantau, ceisiwch gyngor.