Cost of Living Support Icon

Dyled - Y Canlyniadau o Beidio â Thalu

Nid yw bod â dyled ariannol o anghenraid yn ddrwg. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn benthyg arian i helpu i ddod â dau ben llinyn ynghyd neu i wneud pryniant mawr. 

 

Gall ad-dalu cytundebau credyd ar amser wella eich statws credyd. Fodd bynnag, gall dyled ddod yn broblem os na allwch fforddio talu'r hyn sy'n ddyledus gennych, neu fod gwneud hynny’n achosi caledi ariannol difrifol.

 

Holwch bob amser p’un a oes Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI) wedi ei gynnwys yn y cytundeb credyd. Os felly, dylai eich cleient HAWLIO hwn ac yna dylai'r polisi gwrdd â'r taliadau dyledion.

 

Un o dasgau cyntaf ymgynghorydd ariannol yw sefydlu pa ddyledion sydd â’r canlyniadau mwyaf difrifol yn gyfreithiol am beidio â thalu - gelwir y rhain yn ddyledion blaenoriaeth. Mae dyledion sydd â chanlyniadau llai difrifol yn perthyn i'r categori dyled nad yw’n flaenoriaeth.

 

Gweler Atodiad C am dudalen o bddadansoddiad o ddyledion blaenoriarth a rhai nad ydynt yn flaenoriaeth.

 

Diffiniad o Ddyledion Blaenoriaeth

Mae dyled yn ddyled blaenoriaeth lle y gallai cosbau i’r credydwr achosi colli pedwar amddiffyniad allweddol:

  • rhyddid y cleient
  • cartref y cleient
  • gwasanaethau hanfodol y cleient, fel cyflenwad tanwydd
  • nwyddau hanfodol y cleient 

 

Gall y categori nwyddau hanfodol amrywio o berson i berson. Er enghraifft, gellid ystyried ffôn symudol yn flaenoriaeth os nad oes gan unigolyn unrhyw fath arall o gyswllt dros y ffôn a bod ganddo anawsterau iechyd. Fodd bynnag, os oedd ganddo hefyd linell ffôn tir ac nad oedd ganddo anawsterau iechyd, yna gallai hyn gael ei drin fel dyled nad yw’n flaenoriaeth. Mae'n dibynnu ar amgylchiadau'r cleient. 

 

Argyfyngau

Os yw camau gorfodi ar fin digwydd neu gleient ar fin colli ei gartref, cyfeiriwch eich cleient am gyngor ar ddyledion ar unwaith. Mae mwy o wybodaeth a chyngor am ddelio ddelio â dyledion brys i'w gweld ar wefan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth. 

Dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth

Nid oes gan gredydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth unrhyw bwerau neu gosbau arbennig a all arwain yn uniongyrchol at garchar, troi allan, adfeddiannu neu ddatgysylltu. Er mwyn adennill eu dyledion gan gwsmeriaid sy’n methu talu, y camau eithaf i gredydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth yw defnyddio'r broses hawliad llys sirol. Gallant ddefnyddio asiantau casglu dyledion i geisio casglu dyledion, sy'n cynnwys llythyrau, llythyrau cyfreithwyr, ymweliadau cartref a galwadau ffôn. Efallai y byddant yn codi llog a thaliadau ychwanegol unwaith y bo’r cyfrif mewn dyled.

 

Os yw credydwr yn penderfynu cymryd camau yn y llys sirol yn erbyn cleient, byddant yn cyhoeddi hawliad yn erbyn y cleient mewn Llys Sirol. Bydd hyn yn arwain at Ddyfarniad Llys Sirol (CCJ). 

 


Os yw'r credydwr eisoes wedi derbyn dyfarniad llys ac yn dal ddim yn talu yn sgil hwnnw, efallai y bydd y credydwr yn gallu cymryd camau gorfodi neu wneud y dyledwr yn fethdalwr, a allai gael canlyniadau mwy difrifol. Er enghraifft, os bydd y cleient yn berchennog tŷ, gall fod mewn perygl o golli ei gartref.  Mae camau gorfodi yn cynnwys:

 

Os yw hawliad wedi cael ei gyhoeddi neu fod eich cleient yn gofyn am gyngor ynghylch unrhyw gam gorfodi, dylid cyfeirio’r cleient am gyngor ar ddyledion. 


Am ragor o wybodaeth ynghylch dynodi p’un a yw dyled yn flaenoriaeth neu ddyled nad yw’n flaenoriaeth, ewch i wefan Canllawiau Cyngor a gwefan y Llinell Ddyled Genedlaethol.