Cost of Living Support Icon

Pecyn Cymorth Rheoli Dyled

Mae'r cynnwys ar-lein hwn wedi cael ei gynllunio i ategu a chefnogi’r cwrs hyfforddi dyled lefel isel a chyllidebu a gyflwynwyd ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg yn 2013/2014. 

 

Mae'n adnodd i ddefnyddwyr rheng flaen ei ddefnyddio wrth weithio gyda chleientiaid naill ai allan yng nghartref y cleient neu wrth ddal i fyny â gwaith yn y swyddfa. Mae'n cynnwys dolenni i adnoddau y dylech eu gweld yn ddefnyddiol i helpu'r rhai sy'n profi dyled yn y gymuned leol.

 

Mae'r deunyddiau yn cynnwys y categorïau eang canlynol:

  • Gwybodaeth am y project
  • Gwybodaeth gyffredinol
  • Cyllidebu a Datganiad Ariannol
  • Dyled - Canlyniadau Peidio â Thalu
  • Dyled - Problemau Casglu Cyffredin
  • Dyled - Herio Dyled
  • Dyled - Y Dewisiadau
  • Dolenni ac Adnoddau Pellach

 

Y Project Dyledion

Arianwyd y project gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i rhaglen Cefnogi Pobl ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Rheolir y project gan dîm Cefnogi Pobl Cyngor Sir Caerdydd a chaiff ei gyflenwi gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth Caerdydd a’r Fro. Nod y project yw helpu cefnogi gweithwyr sy’n cynorthwyo defnyddwyr eu gwasanaethau a’u galluogi i reoli eu hincwm, cynnal eu taliadau rhent ac osgoi digartrefedd. 

 

Roedd y project yn cynnwys cwrs hyfforddi undydd; llawlyfr y gellid ei ddefnyddio yn y swyddfa neu wrth ymweld â chleientiaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth yn y cartref. Mae hefyd yn cynnwys y deunyddiau ar-lein hyn ar wefan Tai Caerdydd and the gwefan Tai Bro Morgannwg.

 

Bydd y wybodaeth hon yn rhoi dealltwriaeth o gyllidebu a dyled i’ch galluogi i gynorthwyo a chyfeirio cleientiaid at sefydliadau priodol a all gynnig cymorth.

 

Pa wybodaeth sydd wedi ei chynnwys neu heb ei chynnwys?

Eisoes mae gwefannau Tai Caerdydd a Bro Morgannwg yn cynnwys gwybodaeth am gyllidebu, dyled, tai a chynyddu incwm sy'n cael ei anelu at y cyhoedd yn gyffredinol. Mae llawer o hyn yn ddefnyddiol iawn ar gyfer gweithwyr cymorth rheng flaen. Mae cynnwys CAB yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar weithwyr cymorth, a sut y gallwch gynorthwyo a galluogi defnyddwyr eich gwasanaeth i gymryd rheolaeth o'u harian.

 

 

Gwybodaeth gyffredinol

Trwyddedau Credyd Defnyddwyr

Mae'n ofynnol i bob busnes sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau cyngor ar ddyledion, rheoli dyled, a gwybodaeth credyd ddal trwydded credyd defnyddwyr.  


Tan ddiwedd Mawrth 2014, y Swyddfa Masnachu Teg oedd yn gyfrifol am drwyddedu busnesau. Mae gwahanol gategorïau o drwydded (gweler S1.3 o'r Canllawiau Rheoli Dyled, Mawrth 2012 (OFT366rev) yn benodol categori D ynghylch addasu dyled). Os nad ydych yn siŵr a yw eich gwaith angen trwydded, trafodwch hyn gyda'ch rheolwr. 

 

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol wedi cymryd drosodd y cyfrifoldeb am drwyddedau credyd gan y Swyddfa Masnachu Teg ers 1 Ebrill 2014, a gall yr amodau trwyddedau hyn yn newid. Os ydych eisoes â thrwydded credyd y Swyddfa Masnachu Teg, mae'n rhaid i chi gofrestru ar gyfer caniatâd interim erbyn 31 Mawrth 2014. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am hyn, ewch i  wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

 

Gallu ariannol

Mae cyngor ar ddyledion yn ffurfio rhan o faes cynghori sy'n dod i'r amlwg a elwir yn allu ariannol. Yn y bôn, mae gallu ariannol yn golygu'r gallu i reoli eich arian mor effeithiol â phosibl ac felly gwneud gwell penderfyniadau ariannol ar gyfer eich hun a'ch teulu. Bwriad addysg gallu ariannol yw lleihau lefel y ddyled yn y dyfodol ac, yn arbennig, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n fras yn cwmpasu'r meysydd canlynol:

 

Cadw golwg – gwybod beth yw eich incwm a lle mae'n cael ei wario

 

Cael dau ben llinyn ynghyd – Cydbwyso’r gyllideb, yn enwedig mewn wythnos neu fis drud

 

Cynllunio Ymlaen – Ble ydych chi yn eich bywyd nawr a ble ydych chi eisiau bod? Ydych chi'n ystyried priodi, cael plant neu brynu eich cartref cyntaf? 

 

Dewis Cynhyrchion Ariannol – Os ydych yn prynu cartref neu gynnyrch ariannol, a ydych yn cael y fargen orau posibl sy'n diwallu eich anghenion?

 

Aros yn Wybodus – Mae cynhyrchion ariannol yn newid ac yn datblygu drwy'r amser. Er enghraifft, a yw eich cyfrif banc yn dal i weithio i chi?

 

Ceir llawer mwy o wybodaeth am allu ariannol yn y DU, a’r diffiniad newydd o hyn sy’n ystyried ein hagweddau at arian a’n cyfleoedd ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.